Awyren ysgafnach-nag-aer yw awyrlong neu long awyr sydd yn defnyddio balŵn llawn nwy i'w chodi i'r awyr a pheiriannau a llywiau i'w gyrru. Datblygwyd sawl ffurf ar yr awyrlong yn niwedd y 19g, gan adeiladu ar lwyddiant y balŵn aer cynnes i esgyn bodau dynol i'r awyr. Yn wahanol i'r balŵn syml, mae'r awyrlong yn llywiadwy ac yn gallu symud yn ei phwysau ei hunan, yn hytrach na dibynnu ar y gwynt. Mae modd ei sefyll yn llond yn yr awyr ac i'w gyrru yn gyflymach neu'n arafach na buanedd y gwynt.

Awyrlong
Enghraifft o'r canlynolaircraft class Edit this on Wikidata
Mathaerostat Edit this on Wikidata
Dyddiad darganfod1852 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysgondola, Gas cell Edit this on Wikidata
GweithredwrLlynges yr Unol Daleithiau Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Yr Hindenburg — eiliadau ar ôl iddi fynd ar dân, 6 Mai 1937.

Pedair prif ran sydd i'r awyrlong: bag hirgylch enfawr sydd yn cynnwys nwy, car oddi tan y bag nwy sydd yn cynnwys y teithwyr a'r criw, peiriannau a motorau i yrru'r propelorau, a llywiau llorweddol a fertigol i newid cyfeiriad. Fel arfer, hydrogen neu heliwm yw'r nwy sydd yn llenwi'r balŵn. Hydrogen yw'r nwy ysgafnach, ond mae'n hynod o ffrwydrol. Nid yw heliwm yn llosgi, ac felly mae'n llai peryglus na hydrogen o bell ffordd.

Tri math o awyrlong sydd: yr awyrlong hyblyg neu'r blimp, yr awyrlong led-anhyblyg, a'r awyrlong anhyblyg neu'r sepelin. Balŵn yn unig wedi ei gysylltu i'r car gyda cheblau yw awyrlong hyblyg. Os yw'r balŵn yn rhwygo a'r nwy yn dianc, byddai'n datchwyddo. Mae gan awyrlong led-anhyblyg fframwaith metel sydd yn cynnal y car ac wedi ei gysylltu ag amlen y balŵn. Os yw ffabrig y balŵn yn crebachu, byddai strwythur yr awyrlong yn dal i'w gynnal. Fframwaith o drawstiau metel ysgafn, gan amlaf alwminiwm, a orchuddir gan ffabrig sydd gan yr awyrlong anhyblyg. Y tu mewn i'r fframwaith hwn mae nifer o falwnau nwy a ellir eu llenwi a'u gwagio ar wahân i'w gilydd.

Hanes cynnar

golygu

Tad y dirigible ("llywiadwy") – fel yr oeddynt yn cael eu galw ar y cychwyn – oedd y lefftenant-cyrnol Jean-Baptiste-Marie Meusnier de la Place (1754–93). Ar 3 Rhagfyr 1783, cyflwynodd bapur hanesyddol i Academi Ffrainc: Mémoire sur l'équilibre des machines aérostatiques (Memorandwm am gydbwysedd y peiriannau aerostatig).

Y Rhyfel Byd Cyntaf

golygu

Yn 1916 bomiwyd Tal-y-bont gan awyrlong Zeppelin yr Almaenwyr ond ni lladdwyd neb; dyma'r unig dro yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf y cafwyd ymosodiad ar Gymru o'r awyr.[1]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. John May (gol.), Reference Wales (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1994).