Baby Shark (cân)

Cân i blant am deulu o forgwn yw "Baby Shark". Mae'r gân wedi'i hanelu at blant; daeth hefyd yn boblogaidd ymhlith pobl ifanc ac oedolion trwy gael ei ledaenu ar y cyfryngau cymdeithasol. 

Bachgen pedair oed yn perfformio dawns "Baby Shark"

Mae "Baby Shark" yn cael ei chrybwyll mewn llyfr a gyhoeddwyd ar gyfer gwersylloedd bandiau Americanaidd yn 2007, a chredir ei bod yn cael ei chanu i blant meithrin yn ystod y 20g. Hefyd yn 2007, cyhoeddwyd fideo o'r enw "Kleiner Hai"[1] gan alemuel, a oedd yn seiliedig ar y gân. Ymddangosodd fersiynau pellach yn 2011 gan Johnny Only a The Learning Station ar YouTube. Roedd y  gân hefyd ar gryno-ddisg '#1 Best Kids song' a ryddhawyd gan The Learning Station yn 2011.

Cafwyd nifer o amrywiadau, ond yr un a gafodd fwyaf o ddylanwad oedd fersiwn a gynhyrchwyd gan Pinkfong, brand addysgol o dan y cwmni SmartStudy o Dde Corea,[2][3] a hynny o dan y teitl "Baby Shark". Cafodd honno ei rhyddhau ar 25 Tachwedd 2015, ac roedd wedi'i gweld dros 130 miliwn o weithiau erbyn Medi 2018.[4] Daeth y fersiwn hon o'r gân yn feirol yn Indonesia yn 2017, a lledodd i wledydd Asiaidd eraill yn ystod y flwyddyn, pac yn arbennig yn Ne-ddwyrain Asia. Roedd yr ap i ffonau symudol ymhlith y 10 a lawrlwythwyd fwyaf yn y categori aps teuluol yn Ne Corea, Bangladesh, Singapôr, Hong Cong ac Indonesia yn 2017.[5] Erbyn Medi 2018, roedd y fersiwn dawns o'r gân "Baby Shark" a oedd wedi'i lanlwytho ar 17 Mehefin 2016,[6] wedi'i gweld dros 1.6 biliwn o weithiau o amgylch y byd.[7] O ganlyniad i'w boblogrwydd, aeth y ddawns (ar ffurf y Baby Shark Challenge) yn feirol o amgylch y byd, gyda rhai yn cyfeirio ati fel y peth mwyaf ers "Gangnam Style". Mae grwpiau K-pop fel Girls' Generation, Red VelvetBlack Pink wedi cyfrannu at ledu'r gân feirol ymhellach.[8][9] Dechreuodd y gân droi yn feirol yn y Gorllewin yn Awst 2018.[10]

Cyfeiriadau

golygu
  1. alemuel (15 Ionawr 2007), Kleiner Hai, https://www.youtube.com/watch?v=olhczmTbB4I, adalwyd 29 Awst 2018
  2. "SMARTSTUDY". www.smartstudy.co.kr. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-03-10. Cyrchwyd 2018-09-12.
  3. "Pinkfong". about.pinkfong.com.
  4. "Baby Shark | Animal Songs | PINKFONG Songs for Children". 25 Tachwedd 2015. Cyrchwyd 7 Medi 2018.
  5. "PINKFONG". www.facebook.com (yn Saesneg).
  6. "Baby Shark Dance | Sing and Dance! | Animal Songs | PINKFONG Songs for Children". 17 Mehefin 2016. Cyrchwyd 7 Medi 2018.
  7. "Who Is Behind The Viral 'Baby Shark' Song And How Is It Taking Over Our Lives?". Rojakdaily.com. Cyrchwyd 16 Hydref 2017.
  8. Ramirez, Elaine. "How This 'Baby Shark' Video Went Insanely Viral In Indonesia". Forbes (yn Saesneg).
  9. ""Baby Shark" Dance Craze From South Korea Dominates Online World". Phil News. 27 Medi 2017. Cyrchwyd 30 Hydref 2017.
  10. Sen, Indrani (27 Awst 2018). "The story behind the astonishingly viral Baby Shark YouTube video". Quartz. Cyrchwyd 30 Awst 2018.