Morgi

is-urdd o bysgod

Grŵp o bysgod yw morgwn (neu siarcod). Mae gan forgwn sgerbydau cartilagaidd, cennau miniog yn gorchuddio eu cyrff, rhesi o ddannedd miniog, rhwng pump a saith o agennau tegyll ar ochr eu pen, ac esgyll dwyfronnol. Mae'r mwyafrif o forgwn yn ddiniwed ond mae ychydig o rywogaethau yn ymosod ar bobl weithiau.

Mae gan siarcod amrannau, ond dydyn nhw ddim yn eu defnyddio oherwydd bod y dŵr cyfagos yn glanhau eu llygaid.

Os nad oes esgyll, mae'r siarcod yn aml yn dal yn fyw ond yn cael eu taflu. Yn methu nofio yn effeithiol, maent yn suddo i waelod y cefnfor ac yn marw o fygu neu yn cael eu bwyta gan ysglyfaethwyr eraill. Mae siarcod modern yn cael eu dosbarthu o fewn y clâd Selachimorpha (neu Selachii) a nhw yw chwaer grŵp y cathod môr.

Mae'r siarcod hysbys cynharaf yn dyddio'n ôl i fwy na 420 miliwn o flynyddoedd (CP).[1] Ers hynny, mae siarcod wedi esblygu i dros 500 o rywogaethau. Gallant amrywio o ran maint: o'r siarc llusern bach (Etmopterus perryi), rhywogaeth môr-dwfn sydd yn ddim ond yn 17 cm (6.7 mod) o hyd, i'r morgi morfilaidd (y Rhincodon typus), sef y pysgodyn mwyaf yn y byd, sy'n cyrraedd tua 12 metr.[2] Mae siarcod i'w cael ym mhob moroedd ac maent yn gyffredin i ddyfnderoedd hyd at 2,000 metre (6,600 ft) . Yn gyffredinol nid ydynt yn byw mewn dŵr croyw, er bod rhai eithriadau hysbys, megis y siarc tarw a siarc yr afon, sydd i'w cael mewn dŵr môr a dŵr croyw. [3] Mae gan siarcod orchudd o ddeintyddion dermol sy'n amddiffyn eu croen rhag niwed a pharasitiaid yn ogystal â gwella eu dynameg hylif . Mae ganddyn nhw hefyd setiau niferus o ddannedd cyfnewidiadwy.[4]

Mae sawl rhywogaeth yn frig-ysglyfaethwr, sef organebau sydd ar frig eu cadwyn fwyd ee y morgi rhesog y morgi glas, y morgi mawr gwyn morgi mako, y dyrnwr a'r morgi pen morthwyl.

Mae pobl yn dal morgwn ar gyfer eu cig neu gawl asgell morgi. Mae llawer o boblogaethau o forgwn dan fygythiad enbyd oorhela. Ers 1970, mae poblogaethau siarcod wedi gostwng 71%, yn bennaf oherwydd gorbysgota.[5]

Hanes ac esblygiadGolygu

Cofnod ffosilGolygu

Mae tystiolaeth am fodolaeth chondrichthyans tebyg i forgi'n dyddio o'r cyfnod Ordofigaidd, 450–420 miliwn o flynyddoedd yn ôl, cyn i fertebratau'r tir fodoli a chyn i amrywiaeth o blanhigion wladychu'r cyfandiroedd.[6][7] Ond mae'r cen morgi hynaf tua 420 miliwn o flynyddoedd yn ôl, yn y cyfnod Silwraidd.[7] Roedd yr anifeiliaid hynny'n edrych yn wahanol iawn i'r morgwn modern.[8] Y dant siarc mwyaf cyffredin yn yr adeg hon yw'r cladodont, dant tenau tebyg i dryfer, i helpu i ddal pysgod mae'n debyg. Gellir olrhain y rhan fwyaf o'r morgwn modern i tua 100 miliwn o flynyddoedd yn ôl.[9] Mae'r rhan fwyaf o'r ffosilau a gafwyd hyd iddyn nhw o ddannedd, yn aml mewn cryn nifer. Mae sgerbydau rhannol a hyd yn oed gweddillion ffosil cyflawn wedi'u darganfod ac awgrymir bod morgwn yn tyfu degau o filoedd o ddannedd dros oes. Mae'r dannedd yn cynnwys calsiwm ffosffad sy'n hawdd ei ffosileiddio, sy'n apatit. Pan fydd morgi'n marw, mae'r sgerbwd pydredig yn torri i fyny'n sydyn, gan wasgaru'r prismau apatite.

Ymhlith y pysgod mwyaf hynafol a chyntefig tebyg i siarc mae'r Cladoselache, o tua 370 miliwn o flynyddoedd yn ôl,[10] sydd wedi'i ddarganfod o fewn strata Paleosöig yn Ohio, Kentucky, a Tennessee. Ar y pwynt hwnnw yn hanes y Ddaear roedd y creigiau hyn yn ffurfio gwaddodion gwaelod meddal cefnfor mawr, bas, a oedd yn ymestyn ar draws llawer o Ogledd America. Dim ond tua un fetr oedd y Cladoselache, gydag esgyll trionglog anystwyth a cheg main.[10] Roedd ei ddannedd miniog yn dirywio gyda defnydd. O’r nifer fechan o ddannedd a ganfuwyd gyda’i gilydd, mae’n fwyaf tebygol nad oedd y Cladoselache yn disodli'i ddannedd mor rheolaidd â morgwn modern. Roedd siâp ei esgyll yn debyg i'r morgi mawr gwyn a'r makos. Mae presenoldeb pysgod cyfan wedi'u yn eu stumogau'n awgrymu eu bod yn nofwyr cyflym ac ystwyth iawn.

AnatomegGolygu

DanneddGolygu

 
Mae dannedd miniog y morgi rhesog yn arosgo i'w llifio trwy gnawd

Mae dannedd y morgi'n cael eu hymgorffori yn y deintgig (cig y dannedd) yn hytrach na'u gosod yn uniongyrchol ar yr ên, ac yn cael eu disodli'n gyson trwy gydol eu hoes. Ceir sawl rhes o ddannedd cyfnewid yn tyfu mewn rhigol y tu mewn i'r ên ac yn ymsymud ymlaen yn raddol yn debyg i gludfelt; mae rhai morgwn yn colli 30,000 neu fwy o ddannedd yn ystod eu hoes. Ailosodir y danned bob rhyw 8 i 10 diwrnod hyd at bob rhyw fis neu ddau. Yn y rhan fwyaf o rywogaethau, mae'r dannedd yn cael eu disodli un ar y tro yn hytrach na bob yn rhes gyfan ar yr un pryd, a welir yn y morgi Isistius.[11]

Mae siâp y dannedd yn dibynnu ar ddeiet y morgi: mae gan y rhai sy'n bwydo ar folysgiaid a chramenogion ddannedd trwchus a gwastad a ddefnyddir i falu, ond mae gan y rhai sy'n bwydo pysgod ddannedd tebyg i nodwyddau i'w bachu, eu dal, ac mae danneddy rhai sy'n bwydo ar ysglyfaeth mwy fel mamaliaid yn pwyntio'n is. dannedd ar gyfer gafaelg a dannedd uchaf trionglog gydag ymylon danheddog i'w torri. Mae dannedd porthwyr plancton fel yr heulforgi yn fach ac yn anweithredol.[12]

YsgerbwdGolygu

Mae sgerbydau morgwn yn wahanol iawn i rai pysgod esgyrnog a fertebratau'r tir. Mae gan forgwn a physgod cartilagaidd eraill (e.e. morgathod, y gwningen fôr) sgerbydau wedi'u gwneud o gartilag a meinwe gyswllt. Mae cartilag yn hyblyg ac yn wydn, ond mae tua hanner dwysedd arferol yr asgwrn sy'n lleihau pwysau'r sgerbwd ac yn arbed ynni.[13] Gan nad oes gan forgwn gewyll asennau, mae'n hawdd eu malu dan eu pwysau eu hunain ar dir.[14]

GênGolygu

Nid yw genau (neu geg) morgwn, fel rhai morgathod, wedi'u cysylltu â'r penglog. Mae arwyneb yr ên (o'i gymharu â fertebrâu a bwaod tagell y morgi) angen cymorth ychwanegol oherwydd ei fod dan straen aruthrol gan fod y morgi angen cryfder wrth hela. Mae ganddo haen o blatiau hecsagonol bach o'r enw "tesserae", sef blociau crisial o halwynau calsiwm wedi'u trefnu fel mosaig.[15] Mae hyn yn rhoi yr un cryfder i'r mannau hyn a'r hyn a geir ym meinwe esgyrnog anifeiliaid eraill.

Yn gyffredinol, dim ond un haen o tesserae sydd gan forgwn, ond mae gan enau sbesimenau mawr ddwy neu dair haen neu fwy, yn dibynnu ar faint y corff. Gall fod hyd at bum haen ar enau'r morgi mawr gwyn.[16] Yn y trwyn, gall y cartilag fod yn sbyngaidd ac yn hyblyg.

CynffonnauGolygu

Y cynffonau sy'n gwthio'r morgi yn ei flaen, ac mae'r cyflymder a'r cyflymiad yn dibynnu ar siâp y gynffon. Mae siapau'r esgyll cynffonnol yn amrywio'n sylweddol oherwydd eu hesblygiad mewn amgylcheddau gwahanol. Mae gan forgwn esgyll cynffonnol lle mae'r rhan gefnol (dorsal) fel arfer yn amlwg yn fwy na'r rhan ddorrol (fentrol). Mae hyn oherwydd bod asgwrn cefn y morgi yn ymestyn i'r rhan gefnol honno, gan ddarparu mwy o arwynebedd i atodi'r cyhyrau. Mae hyn yn caniatáu ymsymudiad mwy effeithlon ymhlith y pysgod cartilagaidd.[17]

FfisiolegGolygu

HynofeddGolygu

Yn wahanol i bysgod esgyrnog, nid oes gan siarcod bledren nofio llawn nwy ar gyfer hynofedd (buoyancy). Yn lle hynny, mae siarcod yn dibynnu ar afu mawr wedi'i lenwi ag olew sy'n cynnwys sgwalen, a chartilag, sef tua hanner dwysedd arferol yr asgwrn.[18] Mae eu iau yn cyfrif am hyd at 30% o gyfanswm màs eu corff.[19] Mae effeithiolrwydd yr afu yn gyfyngedig, felly mae siarcod yn defnyddio lifft deinamig i gynnal dyfnder wrth nofio. Mae rhai morgwn yn storio aer yn eu stumogau, gan ei ddefnyddio fel math o bledren nofio. Mae gan siarcod sy'n byw ar y gwaelod, fel y siarc nyrsio, hynofedd negyddol, gan ganiatáu iddynt orffwys ar wely'r cefnfor.

TreuliadGolygu

Gall treuliad gymryd amser hir. Mae'r bwyd yn symud o'r geg i stumog siâp J, lle mae'n cael ei storio a lle mae'r treuliad cychwynnol yn digwydd.[20] Mae’n bosibl na fydd eitemau diangen byth yn mynd heibio’r stumog, ac yn lle hynny mae’r siarc naill ai’n eu chwydu neu’n troi ei stumogau tu mewn allan ac yn taflu eitemau diangen o’i geg.[21]

Un o'r gwahaniaethau mwyaf rhwng systemau treulio'r morgi a mamaliaid yw bod gan forgwn berfeddion llawer byrrach. Mae'r hyd byr hwn yn cael ei gyflawni gan falf troellog gyda llawer o droadau o fewn un adran fer yn lle coluddyn hir tebyg i diwb. Mae'r falf yn darparu arwynebedd hir, sy'n ei gwneud yn ofynnol i fwyd gylchredeg y tu mewn i'r coludd byr nes ei fod wedi'i dreulio'n llawn, pan fydd y cynhyrchion gwastraff sy'n weddill yn mynd i mewn i'r cloaca.[22]

SynhwyrauGolygu

AroglGolygu

 
Gall siâp pen y morgi pen morthwyl wella y broses o arogli trwy fylchu'r ffroenau ymhellach oddi wrth ei gilydd.

Mae gan siarcod allu arogli arbennig o dda, sydd wedi'u lleoli yn y ddwythell fer (nad yw wedi'i hasio, yn wahanol i bysgod esgyrnog) rhwng yr agoriadau trwynol blaen ac ôl, gyda rhai rhywogaethau'n gallu canfod cyn lleied ag un rhan fesul miliwn o waed mewn dŵr môr.[23] Mae maint y bwlb arogleuol yn amrywio gyda'r maint yn dibynnu ar faint mae rhywogaeth yn dibynnu ar arogl neu olwg i ddod o hyd i'w hysglyfaeth.[24][24] Mewn riffiau, lle gellir gweld yn bell, mae gan aelodau o deulu'r Carcharhinidae fylbiau arogli llai.[24] Mae gan siarcod a geir mewn dyfroedd dyfnach hefyd fylbiau arogli mwy.[25]

Mae gan siarcod y gallu i bennu cyfeiriad arogl penodol yn seiliedig ar amseriad canfod arogl ym mhob ffroen Mae hyn yn debyg i'r dull y mae mamaliaid yn ei ddefnyddio i bennu cyfeiriad sain o fewn y ddwy glust.

GolwgGolygu

 
Llygad siarc Hexanchus nakamurai, sy'n edrych mor ddynol!

Mae llygaid siarc yn debyg i lygaid fertebratau eraill, ac yn cynnwys lensys tebyg, cornbilennau a retinas, er bod eu golwg wedi addasu'n dda i'r amgylchedd morol gyda chymorth meinwe o'r enw tapetum lucidum. Mae'r meinwe hon y tu ôl i'r retina ac yn adlewyrchu golau yn ôl iddo, gan gynyddu gwelededd (y gallu i weld) mewn dyfroedd tywyll. Mae effeithiolrwydd y meinwe yn amrywio, gyda rhai siarcod ag addasiadau nos cryfach. Gall llawer o siarcod gyfangu ac ymledu cannwyll eu llygaid, fel bodau dynol, rhywbeth na all unrhyw bysgodyn ei wneud. Mae gan siarcod amrannau hefyd, ond nid ydynt yn blincio, gan fod y dŵr o'u cwmpas yn glanhau eu llygaid. Er mwyn amddiffyn eu llygaid mae gan rai rhywogaethau bilenni arbennig sy'n gorchuddio'r llygaid wrth hela a phan ymosodir arno. Fodd bynnag, nid oes gan rai rhywogaethau, gan gynnwys y morgi mawr gwyn (Carcharodon carcharias), mo'r bilen hon, ond yn hytrach maent yn rhowlio eu llygaid yn ôl i'w hamddiffyn wrth daro ysglyfaeth. Mae'n debyg bod y defnydd o olwg yn amrywio yn ôl rhywogaethau ac amodau dŵr. Gall maes golwg y morgi gyfnewid rhwng monociwlaidd a stereosgopig ar unrhyw adeg.[26][27][28][29]

ClywGolygu

Er ei bod hi'n anodd profi clyw siarcod, mae'n bur debygol fod ganddynt synnwyr craff ac efallai y gallant glywed ysglyfaeth o filltiroedd lawer i ffwrdd.[30] Mae sensitifrwydd clyw y rhan fwyaf o rywogaethau siarcod rhwng 20 a 1000 Hz.[31] Mae agoriad bach ar bob ochr i'w pennau yn arwain yn syth i'r glust fewnol trwy sianel denau. Mae'r llinell ochrol yn dangos trefniant tebyg, ac mae'n agored i'r amgylchedd trwy gyfres o agoriadau a elwir yn fandyllau ochrol. Mae hyn yn ein hatgoffa o darddiad cyffredin y ddwy organ synhwyro dirgryniad a sain hyn sy'n cael eu grwpio gyda'i gilydd fel y system acwstigo-lateralis. Mewn pysgod esgyrnog a thetrapodau mae'r agoriad allanol i'r glust fewnol wedi'i golli.

Hanes bywydGolygu

 
Wy morgi

Mae hyd oes siarc yn amrywio yn ôl rhywogaeth gyda'r rhan fwyaf yn byw 20 i 30 mlynedd. Mae einioes y morgi pigog yn un o'r hiraf: dros 100 mlynedd.[32] Gall forgwn morfilaidd (y Rhincodon typus) hefyd fyw dros 100 mlynedd.[33] Roedd amcangyfrifon cynharach yn awgrymu y gallai morgi'r Ynys Las (y Somniosus microcephalus) gyrraedd tua 200 mlynedd, ond canfu astudiaeth ddiweddar un ohonynt a oedd yn 5.02 metr ei fod o leiaf 272 mlwydd oed. sy'n golygu mai hwn oedd yr asgwrn cefn hirhoedlog y gwyddys amdano.[34][35]

YmddygiadGolygu

Heliwr unigol yn crwydro'r cefnoforoedd - dyna'r olygfa glasurol o'r morgi - heliwr unigol yn chwilio am fwyd. Fodd bynnag, dim ond i ychydig o rywogaethau y mae hyn yn berthnasol. Mae'r rhan fwyaf yn byw bywydau llawer mwy cymdeithasol ac maent yn ymddangos yn debygol o fod â'u personoliaethau unigryw eu hunain. Mae hyd yn oed siarcod unig yn cyfarfod ar gyfer bridio neu mewn tiroedd hela cyfoethog, a all eu harwain i nofio miloedd o filltiroedd mewn blwyddyn.[36] Gall patrymau mudo'r morgi fod hyd yn oed yn fwy cymhleth nag mewn adar, gyda llawer o forgwn yn teithio cefnforoedd cyfan.

Gall siarcod fod yn gymdeithasol iawn, gan aros mewn heigiau mawr. Weithiau bydd mwy na 100 o bennau morthwyl cregyn bylchog yn ymgasglu o amgylch morfynyddoedd ac ynysoedd, ee, yng Ngwlff California.[37] Ceir hierarchaeth cymdeithasol traws-rywogaeth.[38]

Pan eir atyn nhw'n rhy agos mae rhai morgwn yn perfformio arddangosfa eitha bygythiol, gan gynnwys gorliwio'r symudiadau, a gall amrywio mewn dwyster yn ôl lefel y bygythiad.[39]

CyflymderGolygu

Yn gyffredinol, mae morgwn yn nofio ar gyflymder cyfartalog o 8km yr awr (5 milltir yr awr), ond wrth hela neu ymosod, gall y morgi cyffredin gyrraedd cyflymdra o hyd at 19 km yr awr (12 mi yr awr). Gall y siarc mako asgell byr, y siarc cyflymaf ac un o'r pysgod cyflymaf, chwipio i gyflymder o hyd at 5o km yr awr (31 mya). Mae'r morgi mawr gwyn hefyd yn gallu cynnal pyliau byr o gyflymdra uchel. Gall siarcod deithio rhwng 70 ac 80 km mewn diwrnod.

DealltwriaethGolygu

Mae gan forgwn gymarebau màs ymennydd-i-gorff sy'n debyg i famaliaid ac adar,[40] ac maent wedi arddangos chwilfrydedd ymddangosiadol ac ymddygiad sy'n debyg i chwarae yn y gwyllt.[41][42]

Mae tystiolaeth y gall y morgi lemwn ifanc ddefnyddio ddysgu drwy arsylwi drwy ymchwilio i wrthrychau newydd yn eu hamgylchedd.[43]

CwsgGolygu

Mae pob morgi angen gadw dŵr i lifo dros ei dagellau er mwyn iddynt anadlu; fodd bynnag, nid oes angen i bob rhywogaeth fod yn symud i wneud hyn. Mae'r rhai sy'n gallu anadlu heb symud yn gwneud hynny trwy ddefnyddio eu sbiraglau (ll. twll anadlu) i orfodi dŵr dros eu tagellau, a thrwy hynny ganiatáu iddynt gymeryd ocsigen o'r dŵr. Cofnodwyd bod eu llygaid yn aros ar agor tra yn y cyflwr hwn ac yn mynd ati i ddilyn symudiadau deifwyr yn nofio o'u cwmpas[44] ac o'r herwydd nid ydynt yn cysgu mewn gwirionedd.

Perthynas â bodau dynolGolygu

YmosodiadauGolygu

 
Arwydd yn rhybuddio am bresenoldeb siarcod yn Salt Rock, De Affrica

Yn 2006 cynhaliodd yr International Shark Attack File (ISAF) ymchwiliad i 96 o ymosodiadau honedig gan forgwn, gan gadarnhau 62 ohonynt fel ymosodiadau digymell ac 16 fel ymosodiadau a ysgogwyd. Nifer cyfartalog y marwolaethau ledled y byd, y flwyddyn, rhwng 2001 a 2006 oherwydd ymosodiadau gan forgwn (heb eu hysgogi gan y person) oedd 4.3.[45]

Yn groes i'r gred boblogaidd, dim ond ychydig o siarcod sy'n beryglus i bobl. Allan o fwy na 470 o rywogaethau, dim ond pedwar sydd wedi bod yn rhan o nifer sylweddol o ymosodiadau angheuol, digymell ar fodau dynol: y morgi mawr gwyn, y morgi cynffon wen (Carcharhinus longimanus), y morgi rhesog, a'r morgi Zambezi (neu'r 'tarw').[46][47] Mae'r morgwn hyn yn ysglyfaethwyr mawr, pwerus, a gallant ladd pobl mewn chwinciad. Er eu bod yn gyfrifol am ymosodiadau ar bobl maen nhw i gyd wedi cael eu ffilmio heb ddefnyddio cawell amddiffynnol.[48]

Er mwyn helpu i osgoi ymosodiad, ni ddylai pobl wisgo gemwaith neu fetel sgleiniog, ac ymatal rhag sblasho gormod.[49]

CadwraethGolygu

Ym 1991, De Affrica oedd y wlad gyntaf yn y byd i ddatgan bod y morgi mawr gwyn yn rhywogaeth a warchodir yn gyfreithiol[50] (fodd bynnag, caniateir i Fwrdd Siarcod KwaZulu-Natal ladd siarcod gwyn yn ei raglen "rheoli siarc" yn nwyrain De Affrica).[51]

Gan fwriadu gwahardd yr arfer o hesgyll siarcod tra ar y môr, pasiodd Cyngres yr Unol Daleithiau Ddeddf Gwahardd Hesgyll Siarcod yn 2000.[52] Ddwy flynedd yn ddiweddarach gwelodd y Ddeddf ei her gyfreithiol gyntaf ond pasiwyd Deddf Cadwraeth Siarcod gan y Gyngres ym mis Rhagfyr 2010, ac fe’i llofnodwyd yn gyfraith ym mis Ionawr 2011.[53]

Yn 2003, cyflwynodd yr Undeb Ewropeaidd waharddiad cyffredinol ar forgwn esgyllog (shark fins) ar gyfer pob llong o bob cenedl yn nyfroedd yr Undeb ac ar gyfer pob llong sy'n chwifio baner un o'i aelod-wladwriaethau.[54] Diwygiwyd y gwaharddiad hwn ym Mehefin 2013 gan gryfhau'r gwaharddiad.[55]

Yn 2009, fe enwodd y Rhestr Goch yr IUCN o Rywogaethau Mewn Perygl yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur 64 o rywogaethau, un rhan o dair o’r holl rywogaethau siarc cefnforol, fel rhai sydd mewn perygl o ddiflannu oherwydd gorbysgota.[56]

Darllen pellachGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. Martin, R. Aidan. "Geologic Time". ReefQuest. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-01-24. Cyrchwyd 2006-09-09.
  2. Pimiento, Catalina; Cantalapiedra, Juan L.; Shimada, Kenshu; Field, Daniel J.; Smaers, Jeroen B. (24 January 2019). "Evolutionary pathways toward gigantism in sharks and rays". Evolution 73 (2): 588–599. doi:10.1111/evo.13680. PMID 30675721. https://www.repository.cam.ac.uk/handle/1810/289161.
  3. Allen, Thomas B. (1999). The Shark Almanac. New York: The Lyons Press. ISBN 978-1-55821-582-5. OCLC 39627633.
  4. Budker, Paul (1971). The Life of Sharks. London: Weidenfeld and Nicolson. SBN 297003070.
  5. Einhorn, Catrin (January 27, 2021). "Shark Populations Are Crashing, With a 'Very Small Window' to Avert Disaster". The New York Times. Cyrchwyd January 31, 2021.
  6. Martin, R. Aidan. "Geologic Time". ReefQuest. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-01-24. Cyrchwyd 2006-09-09.Martin, R. Aidan. "Geologic Time". ReefQuest. Archived from the original on 2012-01-24. Retrieved 2006-09-09.
  7. 7.0 7.1 Martin, R. Aidan. "The Earliest Sharks". ReefQuest. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-12-23. Cyrchwyd 2009-02-10.
  8. Martin, R. Aidan. "Ancient Sharks". ReefQuest. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-12-18. Cyrchwyd 2006-09-09.
  9. Martin, R. Aidan. "The Origin of Modern Sharks". ReefQuest. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2006-06-18. Cyrchwyd 2006-09-09.
  10. 10.0 10.1 Martin, R. Aidan. "Ancient Sharks". ReefQuest. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-12-18. Cyrchwyd 2006-09-09.Martin, R. Aidan. "Ancient Sharks". ReefQuest. Archived from the original on 2012-12-18. Retrieved 2006-09-09.
  11. Martin, R. Aidan. "Teeth of the Skin". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-10-12. Cyrchwyd 2007-08-28.
  12. Gilbertson, Lance (1999). Zoology Laboratory Manual. New York: McGraw-Hill Companies, Inc. ISBN 978-0-07-237716-3.
  13. Martin, R. Aidan. "Skeleton in the Corset". ReefQuest Centre for Shark Research. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-11-25. Cyrchwyd 2009-08-21.
  14. "A Shark's Skeleton & Organs". Archifwyd o'r gwreiddiol ar August 5, 2010. Cyrchwyd August 14, 2009.
  15. Hamlett, W. C. (1999f). Sharks, Skates and Rays: The Biology of Elasmobranch Fishes. Johns Hopkins University Press. ISBN 978-0-8018-6048-5. OCLC 39217534.
  16. Martin, R. Aidan. "Skeleton in the Corset". ReefQuest Centre for Shark Research. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-11-25. Cyrchwyd 2009-08-21.Martin, R. Aidan. "Skeleton in the Corset". ReefQuest Centre for Shark Research. Archived from the original on 2009-11-25. Retrieved 2009-08-21.
  17. Michael, Bright. "Jaws: The Natural History of Sharks". Columbia University. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-05-11. Cyrchwyd 2009-08-29.
  18. Martin, R. Aidan. "The Importance of Being Cartilaginous". ReefQuest Centre for Shark Research. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-02-27. Cyrchwyd 2009-08-29.
  19. Compagno, Leonard; Dando, Marc; Fowler, Sarah (2005). Sharks of the World. Collins Field Guides. ISBN 978-0-00-713610-0. OCLC 183136093.Compagno, Leonard; Dando, Marc; Fowler, Sarah (2005). Sharks of the World. Collins Field Guides. ISBN 978-0-00-713610-0. OCLC 183136093.
  20. Martin, R. Aidan. "No Guts, No Glory". ReefQuest Centre for Shark Research. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-08-11. Cyrchwyd 2009-08-22.
  21. Potenza, Alessandra (20 June 2017). "Sharks literally puke their guts out — here's why". The Verge. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 June 2017. Cyrchwyd 21 June 2017.
  22. Martin, R. Aidan. "No Guts, No Glory". ReefQuest Centre for Shark Research. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-08-11. Cyrchwyd 2009-08-22.Martin, R. Aidan. "No Guts, No Glory". ReefQuest Centre for Shark Research. Archived from the original on 2009-08-11. Retrieved 2009-08-22.
  23. Martin, R. Aidan. "Smell and Taste". ReefQuest Centre for Shark Research. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-12-07. Cyrchwyd 2009-08-21.
  24. 24.0 24.1 24.2 Yopak, Kara E.; Lisney, Thomas J.; Collin, Shaun P. (2015-03-01). "Not all sharks are "swimming noses": variation in olfactory bulb size in cartilaginous fishes" (yn en). Brain Structure and Function 220 (2): 1127–1143. doi:10.1007/s00429-014-0705-0. ISSN 1863-2661. PMID 24435575. https://doi.org/10.1007/s00429-014-0705-0.
  25. Yopak, Kara E.; Lisney, Thomas J.; Darlington, Richard B.; Collin, Shaun P.; Montgomery, John C.; Finlay, Barbara L. (2010-07-20). "A conserved pattern of brain scaling from sharks to primates" (yn en). Proceedings of the National Academy of Sciences 107 (29): 12946–12951. Bibcode 2010PNAS..10712946Y. doi:10.1073/pnas.1002195107. ISSN 0027-8424. PMC 2919912. PMID 20616012. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=2919912.
  26. Martin, R. Aidan. "Vision and a Carpet of Light". ReefQuest Centre for Shark Research. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-04-29. Cyrchwyd 2009-08-22.
  27. "Sharks are colour-blind, new study finds". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-01-24. Cyrchwyd 2011-02-03.
  28. Gill, Victoria (2011-01-18). "Sharks are probably colour-blind". BBC News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-01-19. Cyrchwyd 2011-01-19.
  29. Nathan Scott Hart, Susan Michelle Theiss, Blake Kristin Harahush and Shaun Patrick Collin (2011). "Microspectrophotometric evidence for cone monochromacy in sharks". Naturwissenschaften 98 (3): 193–201. Bibcode 2011NW.....98..193H. doi:10.1007/s00114-010-0758-8. PMID 21212930.
  30. Martin, R. Aidan. "Hearing and Vibration Detection". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-05-01. Cyrchwyd 2008-06-01.
  31. Casper, B. M. (2006). "The hearing abilities of elasmobranch fishes". Graduate Theses and Dissertations: 16. https://digitalcommons.usf.edu/etd/2476.
  32. "Mote Marine Laboratory, "Shark Notes"". Mote.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-01-24. Cyrchwyd 2012-08-27.
  33. "Florida Museum of Natural History Ichthyology Department, "National Shark Research Consortium–Shark Basics"". Archifwyd o'r gwreiddiol ar September 4, 2007.
  34. Nielsen, J.; Hedeholm, R. B.; Heinemeier, J.; Bushnell, P. G.; Christiansen, J. S.; Olsen, J.; Ramsey, C. B.; Brill, R. W. et al. (2016-08-12). "Eye lens radiocarbon reveals centuries of longevity in the Greenland shark (Somniosus microcephalus)". Science 353 (6300): 702–704. Bibcode 2016Sci...353..702N. doi:10.1126/science.aaf1703. PMID 27516602. https://ora.ox.ac.uk/objects/uuid:6c040460-9519-4720-9669-9911bdd03b09.
  35. Pennisi, Elizabeth (11 August 2016). "Greenland shark may live 400 years, smashing longevity record". Science. doi:10.1126/science.aag0748. http://www.sciencemag.org/news/2016/08/greenland-shark-may-live-400-years-smashing-longevity-record. Adalwyd 11 August 2016.
  36. Ravilious, Kate (2005-10-07). "Scientists track shark's 12,000 mile round-trip". Guardian Unlimited. London. Cyrchwyd 2006-09-17.
  37. Compagno, Leonard; Dando, Marc; Fowler, Sarah (2005). Sharks of the World. Collins Field Guides. ISBN 978-0-00-713610-0. OCLC 183136093.
  38. Leonard J. V. Compagno (1984). Sharks of the World: An annotated and illustrated catalogue of shark species known to date. Food and Agriculture Organization of the United Nations. ISBN 978-92-5-104543-5. OCLC 156157504.
  39. Richard H. Johnson; Donald R. Nelson (1973-03-05). "Agonistic Display in the Gray Reef Shark, Carcharhinus menisorrah, and Its Relationship to Attacks on Man". Copeia 1973 (1): 76–84. doi:10.2307/1442360. JSTOR 1442360.
  40. Kathreen E. Ruckstuhl; Peter Neuhaus, gol. (January 23, 2006). "Sexual Segregation in Sharks". Sexual segregation in vertebrates. Cambridge University Press. t. 128. ISBN 978-0-521-83522-0.
  41. "Is the White Shark Intelligent". ReefQuest Centre for Shark Research. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-01-24. Cyrchwyd 2006-08-07.
  42. "Biology of the Porbeagle". ReefQuest Centre for Shark Research. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-02-17. Cyrchwyd 2006-08-07.
  43. Guttridge, T.L., van Dijk, S., Stamhuis, E.J., Krause, J., Gruber, S.H. and Brown, C. (2013). "Social learning in juvenile lemon sharks, Negaprion brevirostris". Animal Cognition 16 (1): 55–64. doi:10.1007/s10071-012-0550-6. PMID 22933179. https://animalstudiesrepository.org/cgi/viewcontent.cgi?article=1085&context=acwp_asie. Adalwyd 2019-09-05.
  44. "How Do Sharks Swim When Asleep?". ReefQuest Centre for Shark Research. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-01-24. Cyrchwyd 2006-08-07.
  45. "Worldwide shark attack summary". International Shark Attack File. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-08-18. Cyrchwyd 2007-08-28.
  46. "Statistics on Attacking Species of Shark". ISAF. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-07-24. Cyrchwyd 2006-09-12.
  47. "Biology of sharks and rays". ReefQuest Centre for Shark Research. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2006-02-06. Cyrchwyd 2014-01-17.
  48. Buttigieg, Alex. "The Sharkman meets Ron & Valerie Taylor". Sharkman's Graphics. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-03-03. Cyrchwyd 2009-08-29.
  49. "How Should We Respond When Humans and Sharks Collide?". News.nationalgeographic.com. 2013-07-04. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-09-06. Cyrchwyd 2013-09-07.
  50. "White Shark Trust - Conservation". Greatwhiteshark.co.za. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-03-06. Cyrchwyd 2012-06-15.
  51. "Shark nets". Sharkangels.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-09-19. Cyrchwyd September 18, 2018.
  52. "Bill Summary & Status, 106th Congress (1999 - 2000), H.R.5461: Major Congressional Actions". THOMAS. Library of Congress. 2000-12-21. Archifwyd o'r gwreiddiol ar September 4, 2015. Cyrchwyd March 27, 2012.
  53. "Bill Summary & Status, 111th Congress (2009 - 2010), H.R.81: Major Congressional Actions". THOMAS. Library of Congress. 2011-01-04. Archifwyd o'r gwreiddiol ar September 4, 2015. Cyrchwyd March 27, 2012.
  54. "COUNCIL REGULATION (EC) No 1185/2003 of 26 June 2003 on the removal of fins of sharks on board vessels". European Union. 26 June 2003. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 September 2015. Cyrchwyd 25 September 2014.
  55. "REGULATION (EU) No 605/2013 OF THE EUROPEAN PARLIAMENT AND OF THE COUNCIL". 12 June 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 September 2015. Cyrchwyd 25 September 2014.
  56. Jha, Alok (2009-06-25). "Fishing puts a third of all oceanic shark species at risk of extinction". The Guardian. London. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-09-06. Cyrchwyd 2009-07-16.