Bachymbyd
plasty gwledig rhestredig Gradd II* yn Llanynys
Plasdy Cymreig a phentrefan ym mhlwyf Llanynys, ger Rhuthun, Sir Ddinbych yw Bachymbyd (amrywiad: Bachynbyd). Roedd yn un o dai Salbriaid Llewenni ac yn ganolfan nawdd bwysig i'r beirdd Cymraeg, yn enwedig yn yr 16g.
Math | plasty gwledig |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Bachymbyd Estate |
Lleoliad | Llanynys |
Sir | Sir Ddinbych |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 69.2 metr |
Cyfesurynnau | 53.1391°N 3.35771°W |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II*, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Sefydlwyd Bachymbyd gan Pyrs Salbri drwy ei briodas ag aeres Hywel ap Rhys o'r Rug, ger Corwen.
Un o'r beirdd a noddid gan Salbriaid Bachymbyd oedd y clerwr Robin Clidro. Erys ar glawr cerdd o ddiolch ganddo i Robert Salbri (bu farw 1551). Dyma ddarn ohono:
- Mi a euthum i Fachymbyd at y gŵr gore
- Llei bo bendith y byd yn ei neuadde,
- A merch arglwydd Llŷn yn rhoi aur a gwledde,
- A gwin ac arian, a byd o'r gore.
- A lloned y plas o wŷr da eu campe,
- A llawenydd y byd oedd y gwylie.
- Mi a fûm yno flwyddyn yn iro 'y nghrimoge
- Heb wneuthur gwaith na gorchwyl ond cysgu y bore,
- Fo ddoeth y meistr Robert ac a roes imi lifre,
- Arglwydd Bachymbyd, y penna' o'r plase.[1]
Roedd yr anterliwtwr a bardd Twm o'r Nant yn ennill bywoliaeth fel cariwr coed ym Machymbyd a'r cylch hyd tua 1769.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Dyfynnir yn: Enid Rowlands (gol.), Gwaith Siôn Tudur, 2 gyfrol (Caerdydd, 1980), cyfrol 2, tud. 518.