Llanynys

pentref yn Sir Ddinbych

Pentref bychan, cymuned a phlwyf eglwysig yn Sir Ddinbych, Cymru, yw Llanynys ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Mae'n enwog am lun hynafol o'r 15g ac Eglwys Sant Saeran, sydd wedi'i dynodi'n Radd I. Saif yn Nyffryn Clwyd i'r gogledd o dref Rhuthun ac i'r dwyrain o'r briffordd A525. Mae cymuned Llanynys hefyd yn cynnwys pentref Rhewl a phlasdai Plas-y-ward a Bachymbyd. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 784.

Llanynys
Mathcymuned, pentref Edit this on Wikidata
Poblogaeth762, 836 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Ddinbych Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd1,739.74 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.2°N 3.3°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000169 Edit this on Wikidata
Cod OSSJ101627 Edit this on Wikidata
Cod postLL16 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruGareth Davies (Ceidwadwyr)
AS/au y DUJames Davies (Ceidwadwyr)
Map
Y bont dros Afon Clywedog, Llanynys

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Gareth Davies (Ceidwadwyr)[1] ac yn Senedd y DU gan James Davies (Ceidwadwyr).[2]

Llifa Afon Clwyd ychydig i'r dwyrain o'r pentref ac Afon Clywedog ychydig i'r gorllewin; dim ond milltir sydd rhwng y ddwy afon yn yr ardal yma. Fel a gofnodwyd yn 1700, mae'r afonydd ar adegau'n gorlifo ac yn creu ynys, lle saif y pentre. Dyma, mae'n debyg, darddiad yr enw.[3]

Cysegrwyd yr eglwys i Sant Saeran; fe'i hadeiladwyd yn y 13g ond mae'r safle yn llawer hŷn; roedd clas yma yn y 6g. Ceir cyfeiriad at y safle yng Nghanu Llywarch Hen, a ddyddir o'r 9g. Yn yr Oesoedd Canol roedd yn rhan o gwmwd Colion, yng nghantref Dyffryn Clwyd.

 
Paentiad o Sant Cristoff a Christ, o'r Oesoedd Canol. Eglwys Sant Saeran

Pobl o Lanynys

golygu

Cyfrifiad 2011

golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanynys (pob oed) (762)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanynys) (353)
  
47.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanynys) (521)
  
68.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanynys) (74)
  
25.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan Senedd Cymru
  2. Gwefan Senedd y DU
  3. Dictionary of Place-names, gan Hywel Wyn Owen a Richard Morgan, Gwasg Gomer, 2008.
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.

Dolen allanol

golygu