Bae Bengal
Bae o siâp trionglog yng ngogledd-ddwyrain Cefnfor India sy'n gorwedd rhwng is-gyfandir India (India a Sri Lanca) i'r gorllewin a Myanmar ac Ynysoedd Andaman a Nicobar (a rhan o dde Gwlad Tai yn ôl rhai diffiniadau) i'r dwyrain yw Bae Bengal. Gellid dweud fod ei derfyniad deheuol yn cael ei ddiffinio gan linell ddychmygol rhwng Penrhyn Dondra yn Sri Lanca a phen gogleddol ynys Sumatra. Fe'i enwir ar ôl rhanbarth Bengal. Fe'i nodweddir gan ddau fonsŵn tymhorol mawr sy'n effeithio ar fordeithio a bywyd yr arfordir, sef y monsŵn gaeaf gogledd-ddwyreinol a'r monsŵn haf de-orllewinol.
![]() | |
Math |
body of water ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol |
Cefnfor India ![]() |
Arwynebedd |
2,172,000 ±1 km² ![]() |
Cyfesurynnau |
15°N 88°E ![]() |
Llednentydd |
Afon Godavari, Afon Krishna, Afon Kaveri, Afon Naf, Afon Palar, Afon Hooghly, Afon Karnaphuli, Afon Meghna, Afon Cooum, Afon Mahaweli, Afon Barak, Pennar, Afon Adyar, Afon Brahmani, Afon Feni, Afon Sangu, Afon Ponnaiyar, Afon Kollidam, Afon Baitarani, Afon Subarnarekha, Afon Biskhali, Afon Gorai-Madhumati, Afon Lemyo, Afon Nagavali, Afon Saptamukhi, Afon Vamsadhara, Verugal Aru, Q11924814, Afon Pasur, Afon Brahmaputra ![]() |
Mae pen gogleddol y bae yn fas, yn rhannol am ei fod yn derbyn llawer o ddeunydd afonol a gludir gan Afon Ganga, sy'n llifo i'r bae trwy sawl aber (Aberoedd y Ganga) yn ardal y Sundarban, yng Ngorllewin Bengal (India) a Bangladesh. Pysgota yw'r prif ddiwydiant traddodiadol gan bobl yr arfordir.
Mae gan Fae Bengal arwynebedd o tua 2,172,000 km². Mae sawl afon fawr – Afon Ganga, Afon Brahmaputra, Afon Ayeyarwady, Afon Godavari, Afon Mahanadi, Afon Krishna ac Afon Kaveri – yn llifo i mewn iddo. Mae'r prif borthladdoedd ar ei lannau yn cynnwys Cuddalore, Chennai, Kakinada, Machilipatnam, Vishakapatnam, Paradip, Kolkata, Chittagong, a Yangon.