Baile Ghib

Pentref Gaeltacht, Swydd Meath, Iwerddon

Gaeltacht newydd yw Gaeltacht Baile Ghib [1] (neu Gibbstown yn Saesneg) ac fe'i lleolir yn Swydd Meath. Mae’n ganlyniad i ymdrechion Saorstát Éireann, selogion yr iaith Wyddeleg a’r siaradwyr brodorol, i symud i wastatir cigog, lle byddai mwy o gnydau i’w cynaeafu o’r tir. Noder bod y Wyddeleg, fel y Gymraeg, yn treiglo enwau a bod "Gib" wedi ei dreiglo i "Ghib".

Baile Ghib
Enghraifft o'r canlynoltrefgordd Edit this on Wikidata
Map
RhanbarthSwydd Meath, Donaghpatrick Edit this on Wikidata
arwydd "ildio" uniaith Wyddeleg ger y pentref

Manylion

golygu

Ynghyd â phentref arall, Ráth Chairn, maent yn ffurfio Gaeltacht Swydd Meath. Mae gan Gaeltacht Meath boblogaeth o 1,591, neu 2% o gyfanswm poblogaeth Gaeltachtaí (lluosog Gaeltacht) Iwerddon. Mae 16% o bobl sy’n byw yn Baile Ghib a Ráth Chairn yn siarad Gwyddeleg bob dydd y tu allan i’r system addysg yn ôl cyfrifiad 2016.[2] Mae Gaeltacht Meath yn cwmpasu ardal ddaearyddol o 44 km2 , neu 1% o ardal y Gaeltacht. Ar y llaw arall, mae gan Navan, prif dref Swydd Meath, sydd ond 8 km o Baile Ghib, fwy na 30,173 o drigolion.[3]

Daw enw Baile Ghib (Gibbstown) o Demesne Gibbstown (Demên Gibbstown h.y. perchentyaeth Gibbstown). Roedd y demên yn cynnwys Gibbstown House a adeiladwyd ym 1871, buarth a thiroedd ategol, gan gynnwys gardd furiog helaeth, adeiladau fferm a phorthdy. Datblygodd y pentref ger y Demên yn y 1930au pan sefydlwyd y Gaeltacht. Cafodd Gibbstown House ei ddymchwel ym 1965 gan adael yr ardd furiog, a nifer o fynedfeydd i'r demên.[4]

Hanes sefydlu'r Gaeltacht

golygu

Symudodd teuluoedd i Baile Ghib o Gaeltacht Kerry, Cork, Mayo a Donegal. Daeth y teuluoedd i gyd i Swydd Meath i ddechrau bywyd newydd yng nghanol y wlad fel rhan o gynllun trefedigaeth Gaeltacht. Trefnwyd y cynllun gan y Comisiwn Tir, pan wahanwyd Ystad Gerrard (ystâd fawr bonheddigion yn yr ardal).[5] Gadawsant eu tir eu hunain i gael daliad yn Meath. Roedd gan y Dáil Éireann ddau amcan ar gyfer y cynllun, yr amcan cyntaf oedd lleihau'r pwysau poblogaeth yn y Gaeltacht o ogledd a de'r wlad. Eu hail amcan oedd y byddai’r teuluoedd fel cenhadon iaith dros y Wyddeleg, ac y byddai cynnydd yn nifer y siaradwyr Gwyddeleg oherwydd y symud. Symudodd 122 o deuluoedd o ardaloedd Gaeltacht i County Meath yn Baile Ghib, Rathcairn, Kilbride, Clonkill, a Ballyalin, ac aeth y rhan fwyaf ohonynt i Baile Ghib.

Pan brynodd y Comisiwn Tir y rhan fwyaf o stad Balegib, roedd cynllun bod pobl Balegib i dderbyn darnau o'r ystâd ond bod y rhan fwyaf o'r ystâd ar gyfer pobl y Gaeltacht. Roedd gan bobl y Gaeltacht ddewis mawr, sef cyfnewid y tir drwg oedd ganddyn nhw yn eu hardal enedigol am dir ffrwythlon yn Gibb Town. Er eu bod yn cael darn bychan iawn o dir o'i gymharu a faint o dir oedd ganddynt gartref, yr oedd y tir yn Swydd Meath yn llawer gwell a mwy ffrwythlon na'r tir oedd ganddynt gartref, tir oedd yn llawn o gerrig a diffrwyth.

Symudodd y teuluoedd cyntaf i Ballygib ar 10 Mawrth 1937. Daeth 18 teulu o Mayo, 16 teulu o Kerry, 14 o Donegal a 2 deulu o Cork. Roeddent yn wynebu bywyd newydd mewn amgylchedd estron, mewn man lle'r oedd Saesneg o'u cwmpas a thirwedd estron.

Ym 1937, ymsefydlodd 52 o deuluoedd yn nhref Gibbstown, ac yna 9 teulu arall ym 1939 a ymsefydlodd yn Clongill. Cyfanswm y teuluoedd hyn oedd 373 o bobl.[6]

O gymharu â Gaeltacht Ráth Chairn, lle digwyddodd yr un peth, roedd gwahaniaeth mawr rhwng Ráth Chairn a Baile Ghib. Roedd pawb oedd yn symud i Ráth Chairn yn dod o Conamara, o gymharu â Balgibb. Tynnwyd sylw ar y pryd nad oedd RTÉ Raidió na Gaeltachta a Teilifís na Gaeilge (RTÉ bellach) yn cael eu sefydlu ar y pryd ac felly nad oedd pobl yn ymarfer y tafodieithoedd penodol, roedd diffyg cyfathrebu, ac roedd y diffyg cyfathrebu hwn yn rhoi llawer iawn o bwysau. ar siarad yr iaith Wyddeleg, pan ddechreuodd pobl ddysgu Saesneg roedd yn llawer haws siarad Saesneg â phobl o Gaeltachtau eraill na Gwyddeleg.

Agorwyd yr Ysgol Gynradd yn 1941, oedd yn helpu’r plant ifanc a oedd wedi bod yn mynychu ysgol Tref Ory tan hynny. Enillodd Baile Ghib statws Gaeltacht yn 1967 ac mae'r Wyddeleg yn dal yn fyw yn yr ardal heddiw.

Gweler hefyd

golygu

Dolenni allannol

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Baile Ghib/Gibstown | logainm.ie" (yn Gwyddeleg). An Coimisiún Logainmneacha. Cyrchwyd 2023-06-24.
  2. "Irish Language and the Gaeltacht - CSO - Central Statistics Office". www.cso.ie (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-11-15.
  3. "ArcGIS Web Application". census.cso.ie (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-11-01. Cyrchwyd 2020-11-15.
  4. "Baile Ghib (Gibbstown) 1.0 Village Context and Character". Cyngor Swydd Meath. Cyrchwyd 12 Mehefin 2024.
  5. Eilís Nic Lochlainn (24 Mai 2024). "Seoladh leabhair 'Ceann Scríbe Baile Ghib' < Meon Eile". www.meoneile.ie (yn Gwyddeleg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2024-05-24. Cyrchwyd 2024-05-24.
  6. "Baile Ghib (Gibbstown) 1.0 Village Context and Character". Cyngor Swydd Meath. Cyrchwyd 12 Mehefin 2024.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Iwerddon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.