RTÉ Raidió na Gaeltachta
Mae RTÉ Raidió na Gaeltachta (yngh. ˈɾˠadʲiːoː n̪ˠə ˈɡeːɫ̪t̪ˠəxt̪ˠə), wedi'i dalfyrru RnaG, yn orsaf ddarlledu radio gyhoeddus Gwyddeleg sy'n eiddo i Raidió Teilifís Éireann (corfforaeth ddarlledu gyhoeddus genedlaethol Gweriniaeth Iwerddon). Mae'n darlledu ar donfedd FM yn Iwerddon a thrwy loeren a rhyngrwyd. Sefydlwyd yr orsaf yn 1972.[1]
Enghraifft o'r canlynol | gorsaf radio, Radio rhyngrwyd |
---|---|
Rhan o | RTÉ Radio |
Dechrau/Sefydlu | 1972 |
Perchennog | Raidió Teilifís Éireann |
Pencadlys | Casla |
Gwefan | http://www.rte.ie/rnag |
Hanes
golyguCefndir
golyguCychwynodd darlledu radio yn Iwerddon gyda gwasanaeth 2RN yn 1926.[2] Trafododd y rhai a fu’n ymwneud â sefydlu 2RN a J. J. Walsh (Gweinidog Post a Thelegraffau o 1923 i 1927) y posibilrwydd o sefydlu gwasanaeth radio Gwyddeleg ar gyfer cymuned y Gaeltacht ac yn ehangach roeddent yn cydymdeimlo â diwylliant Gwyddelig a oedd yn cynnwys adfywiad iaith, ond roedd y prosiect yn rhwystredig oherwydd rhesymau economaidd ac ni ddaeth i fawr ddim.[3]
If we do not revive and develop Irish, we must inevitably be assimilated by one of these two communities (United Kingdom or the United States), or by the combined power by which they must eventually form and in that case our name and tradition and history will vanish out of human ken and our national individuality will be lost."
— P. S. O'Hegarty, Secretary of the Department for Posts and Telegraphs, 1924.[4]
Er gwaethaf synau positif tuag at gwasanaeth benodol yn y Wyddeleg, gan gynnwys gan y Taoiseach, Éamon de Valera, doedd dim newid strwythurol. Gyda ehangu'r ddarpariaeth radio ac estyniad gorsafoedd Saesneg fel y BBC a Radio Luxembourg i'r Iwerddon yn yr 1960au cafwyd galwadau cryfach dros wasanaet Wyddeleg benodol.
Sefydlwyd RTÉ yn 1960 a symudodd rheolaeth uniongyrchol ar gyfathrebu o swydd gweinidogaeth y llywodraeth i swydd Cyfarwyddwr Cyffredinol anllywodraethol RTÉ, a lenwyd gyntaf gan yr Americanwr, Edward Roth. Lleihaodd polisïau diwylliannol blaenorol, gan gynnwys darlledu yn y Wyddeleg, mewn canran, wrth i gyfraddau ac elw ddod yn allweddol. Yn y diwedd, ar ddiwedd y 1960au, daeth mudiad hawliau sifil i'r amlwg yn y Gaeltacht, yn enwedig Conamara, yn ceisio datblygiad a gwasanaethau i siaradwyr Gwyddeleg, gan gynnwys gwasanaeth radio. Allan o ymgyrchu Gluaiseacht Cheárta Siabhialta na Gaeltachta daeth yr orsaf radio ton-leidr (di-drwydded), Saor Raidió Chonamara, yn 1970.[5] Gosododd hyn y disgwrs dilynol ar faterion yr iaith Wyddeleg a'r Gaeltacht fel rheidrwydd hawliau sifil a hawliau lleiafrifol. Ysbrydolwyd Gluaiseacht Cheárta Siabhialta na Gaeltachta gan weithredu uniongyrchol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a diddorol nodi i'r Gymdeithas gynnal radio di-drwydded o fath gan ddarlledu yn Eisteddfod Genedlaethol 1967 yn y Bala. Bu hefyd achosion o dorri ar draws darlledu teledu yng Nghymru yn yr 1950au hwyr gan faner Radio Ceiliog gan genedlaetholwyr a chefnogwyr Plaid Cymru yn galw ar ragor o ddarlledu Cymraeg a Chymreig.
Sefydlu
golyguDechreuodd ddarlledu ar 2 Ebrill 1972 ac ef oedd yr ail ddarlledwr cyfreithiol yng Ngweriniaeth Iwerddon. Dim ond llond dwrn o oriau'r dydd yr oedd RnaG yn ei ddarlledu i ddechrau a dim ond yn y tair ardal Gaeltacht fwyaf yr oedd ar gael, ond yn dilyn lansiad pedwaredd orsaf radio genedlaethol RTÉ (a ddefnyddir gan RTÉ lyric fm), ymestynnodd yr orsaf darllediadau i 24 awr ar 1 Hydref 2001. Mae'n anodd asesu ffigurau gwrandawyr gan nad yw'r orsaf yn gwneud y taliadau a fyddai'n cynnwys ei sylw ar restr JNLR. Honnir gan nad yw'n cario hysbysebion (dyma'r unig orsaf radio Wyddelig sydd ddim) y byddai talu i gael ei chynnwys mewn arolwg a drefnwyd yn bennaf er budd y diwydiant hysbysebu Gwyddelig yn wastraff ar adnoddau prin. Credir bod y gynulleidfa yn arbennig o uchel ymhlith siaradwyr Gwyddeleg ond nid yw ei hapêl ymhlith y rhai sy’n dysgu’r iaith mor uchel â TG4 oherwydd y canfyddir ei bod wedi’i hanelu at drigolion y Gaeltacht, er ei bod ar gael yn genedlaethol
O weld cymariaethau rhwng y frwydr dros orsaf radio Gymraeg a'r un Wyddeleg, diddorol nodi i Raidió na Gaeltachta gael ei sefydlu yn 1972 - pedair mlynedd cyn sefydlu BBC Radio Cymru yn 1977.[6]
Digwyddiadau diweddar
golyguAm flynyddoedd lawer dyma oedd yr unig gyfrwng cyfathrebu Gwyddeleg yn y wlad. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae'r gwasanaeth teledu Telefís na Gaeilge a brandiwyd yn TG4 bellach, a gorsafoedd radio rhanbarthol a lleol, megis yr orsaf annibynnol yn Nulyn, Raidió na Life, Raidió Fáilte yn Belffast a Raidió Rí-Rá wedi ymuno ag ef.
Cyllideb
golyguMae'r darlledwr yn derbyn cyfanswm cyllideb o 10.9 miliwn ewro yn 2008.
Lleoliad
golyguLleolir RnaG yn Casla, Swydd Galway. Y mae hefyd yn astudio yn Gaoth Dobhair, Swydd Donegal; Baile na nGall yn Ard na Caithne, Swydd Kerry; Castlebar, Swydd Mayo; a Chanolfan Radio RTÉ yn Nulyn. Mae'r orsaf yn ddibynnol ar RTÉ, ond mae ganddi ei bwrdd cynghori ei hun, Comhairle Raidió na Gaeltachta, a benodwyd gan awdurdodau RTÉ. Mae RTÉ hefyd yn penodi Pennaeth (rheolwr) RnaG, sy'n gyfrifol am gynnal y gwasanaeth o ddydd i ddydd.
Cynulleidfa
golyguYn ôl data a ddarparwyd gan RTÉ yn 2008 mae gan RnaG gyfanswm cynulleidfa o 0.7% sy'n cyfateb i 150,000 o wrandawyr wythnosol.
Polisi iaith Wyddeleg
golyguYm mis Mawrth 2005, cyhoeddodd RTÉ y byddai RnaG yn caniatáu darlledu caneuon gyda geiriau Saesneg o 9pm tan 1am, fel rhan o sianel gerddoriaeth boblogaidd newydd. Ym mis Ebrill 2005, cyhoeddwyd mai enw'r gadwyn hon fyddai Anocht FM ("Heno FM"). Ar nosweithiau'r wythnos mae'r gadwyn yn cynnwys rhaglen newydd, Géill Slí, yn ogystal â rhaglen hŷn An Taobh Tuathail. Bydd Anocht FM hefyd yn cael ei ddarlledu ar benwythnosau gyda rhaglenni gwahanol. Lansiwyd y gwasanaeth newydd ar 2 Mai 2005 am 21:02 amser Gwyddelig. Y gân gyntaf gyda geiriau Saesneg yn cael ei chwarae oedd Blister in the Sun gan y Violent Femmes , a ddewiswyd trwy bleidlais boblogaidd. Roedd y datblygiad hyn yn debyg i strand Hwyrach ac yna C2 bu ar BBC Radio Cymru tua'r un adeg.[7][8]
Gweler hefyd
golygu- Raidió na Life- radio gymunedol Wyddeleg Dulyn
- Raidió Fáilte - radio gymunedol Wyddeleg Belffast
- Raidió Rí-Rá - radio i bobl ifanc
Dolenni allanol
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "RTÉ RnaG celebrates 40th birthday". Raidió Teilifís Éireann. 2 Ebrill 2012.
- ↑ Iarfhlaith Watson (1997). "A History of Irish Language Broadcasting: National Ideology, Commercial Interest and Minority Rights". UCD Press. Cyrchwyd 31 December 2017.
- ↑ Féach (6 March 1972). "Local Radio Service at Last for An Gaeltacht 1972". RTÉ Archives. Cyrchwyd 31 December 2017.
- ↑ Rangiānehu Matamua (2006). "Te Reo Pāho: Māori radio and language revitalisation" (PDF). Massey University. Cyrchwyd December 31, 2017.
- ↑ Tadhg Ó hIfearnáin (2000). "Irish Language Broadcast Media: The Interaction of State Language Policy, Broadcasters and their Audiences". University of Limerick. Cyrchwyd 31 December 2017.
- ↑ "Radio Cymru yn 30 oed". BBC Ar-lein Newyddion. 3 Ionawr 2007.
- ↑ "Am Un Noson yn Unig". BBC Radio Cymru. Cyrchwyd 27 Hydref 2022.
- ↑ Glyn, Emyr (2008). "Helo rhywbeth newydd, ffarwel rhywbeth hen". BBCCymru Fyw.