Grŵp o fân-goed bytholwyrdd, lled-fytholwyrdd a deilgoll yn y yr is-deulu Faboideae o'r teulu legume yw'r banadl (unigol, banhadlen, weithiau banadl Ffrainc). Ceir tri phrif genera, sef Chamaecytisus, Cytisus a Genista. Perthyn pob genera yn y grŵp hwn i lwyth y Genisteae (syn. Cytiseae). Maent yn perthyn yn agos iawn i'w gilydd ac yn cael eu nodweddu gan deil bychain a phriciau tenau, wedi eu haddasu i amgylchedd tyfu sych. Mae gan y rhan fwyaf o'r mangoed banadl flodau melyn, ond ceir hefyd flodau gwyn, orennaidd, coch, piws neu borffor weithiau.

Cytisus scoparius3.jpg
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynoltacson Edit this on Wikidata
Banadl
Banadl cyffredin (Cytisus scoparius)
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Rosidau
Urdd: Fabales
Teulu: Fabaceae
Is-deulu: Faboideae
Llwyth: Genisteae
Genera

Perthyn yn agos i'r banadl mae'r eithin a'r laburnum.

Mae'r banadlau i gyd (yn cynnwys Laburnum ac eithin) yn gysefin i Ewrop, Gogledd Affrica a de-orllewin Asia, gyda'r amrywiaeth fwyaf yn ardal y Môr Canoldir.

Creodd y dewiniaid Gwydion ap Dôn a Math y ferch hudolus Blodeuwedd o flodau'r derw, banadl ac erwain, i fod yn wraig i Leu Llaw Gyffes. Ceir ei hanes ym Mhedwaredd Gainc y Mabinogi, sef Math fab Mathonwy.

Banhadlen Sbaen (Spartium junceum)