Banc Cambria

banc cydfuddiannol Cymreig arfaethedig

Mae Banc Cambria yn ddarpar fanc cydfuddiannol hynny yw, dwyn elw i bob un o'i haelodau [1] (cooperatively owned bank). Ei nod yw darparu gwasanaeth bancio llawn ledled Cymru, ond yn wahanol i fanciau eraill, bydd yn eiddo iddo ac yn cael ei reoli gan ei aelodaeth, nid cyfranddalwyr allanol. Bydd hefyd yn agor banciau corfforl ar y stryd fawr nid dim ond ar-lein.[2]

Banc Cambria
Enghraifft o'r canlynolbanc, cwmni, community bank Edit this on Wikidata
Rhiant sefydliadCymdeithas Adeiladu Sir Fynwy Edit this on Wikidata
GwladwriaethCymru Edit this on Wikidata

Yn ôl dogfen gyflwyno gan sefydlwyr y Banc, bydd Banc Cambria yn, rhan o "ail-lunio polisi economaidd yw creu Banc Cambria - an Banc annibynnol, lleol, wedi'i lywodraethu'n gydweithredol, dan berchnogaeth y ddwy ochr a fyddai galluogi i gryfhau Economi Cymru; i ddod yn fwy gwydn a mwy cynaliadwy. Byddai hyn, yn ei dro, yn darparu mwy o swyddi, wrth helpu i lenwi'r mynediad ariannol bwlch a grëwyd trwy gau canghennau banciau masnachol lleol mewn trefi ac ardaloedd gwledig ledled Cymru.[3]

Proses Sefydlu golygu

Daeth y weledigaeth i sefydlu Banc Cambria drwy grŵp gweithredu Banc Cyhoeddus i Gymru (Peoples Bank for Wales Action Group) yn 2016.

Dechreuodd Grŵp Gweithredu People’s Bank for Wales yn 2016, ac yn rhannol o ganlyniad i’w rhwydweithio, ymgyrchu a lobïo, comisiynodd Llywodraeth Cymru adroddiad3 yn Awst 2017 gan Sefydliad Polisi Cyhoeddus Cymru (PPIW) 4 ar y pryd. Daeth hyn i'r casgliad bod a gallai Banc llawn-berchnogaeth gyhoeddus ddarparu ystod o fuddion gan gynnwys:

  • Gwell mynediad i fuddsoddiad i fusnesau bach a chanolig a datblygu economaidd rhanbarthol
  • Llai o ddibyniaeth ar gyfalaf y sector preifat
  • Y gallu i greu a chadw swyddi yng Nghymru
  • Y gallu i “greu arian” yn hytrach nag ailgylchu cronfeydd

Y nod oedd cael trwydded bancio gan yr Awdurdod Rheoleiddio Darbodus (Prudential Regulatory Authority) erbyn hydref 2021, ond mae'r nifer fawr o geisiadau newydd gan fanciau Ewropeaidd sy'n ceisio trwydded y DU i osgoi problemau Brexit yn achosi oedi i'r broses ymgeisio, felly ni ellir fod sicr o'r amserlen.[3]

Daw rhan o apêl a chefnogaeth i Fanc Cambria yn sgil cau banciau traddodiadol ar strydoedd mawrion Cymru, lle, gwelir sawl tref sydd heb un banc corfforol yn ei tref. Nodwyd hyn mewn cyweliad gan Tegid Jones ar BBC Cymru yn 2019.[2]

Prif Sylfaenwyr golygu

Prif sylfaenwyr y Banc yw Mark Hooper, sefydlydd cadwyn swyddfeydd llogi fesul dydd, IndyCube, a Tegid Roberts.[2]

golygu

 
Manylyn o garthen Cymreig - hysbrydoliaeth i logo Banc Cambria

Mae logo'r ddarpar fanc - sgwâr ag iddi'r ochrau'n ymestyn rhywfaint o'r cornelli - yn seiliedig ar batrwm carthen draddodiadol Gymreig gyda'r dyluniad 'porthcylis' sy'n awgrymu'r awdurdod trethi a thollau yn Llundain.

Cefnogaeth golygu

Ceir cefnogaeth i'r banc gan Lywodraeth Cymru gan gynnwys rhywfaint o gymorth ariannol, ac rydym yn gweithio gyda Chymdeithas Frenhinol y Celfyddydau a Gwyddoniaeth (RSA) a Chymdeithas Banc Cynilo Cymunedol (CSBA).[4]


Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. https://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?cydfuddiannol
  2. 2.0 2.1 2.2 "Creu Banc Cambria i lenwi'r bwlch yng nghymunedau Cymru". BBC Cymru Fyw. 9 Mehefin 2019. Cyrchwyd 7 Tachwedd 2021.
  3. 3.0 3.1 "The Case for a community bank for Wales Banc Cambria" (PDF). Coop Wales (yn Saesneg). Cambria Cydfuddiannol Ltd. Cyrchwyd 7 Tachwedd 2021.
  4. https://www.cooperatives-wales.coop/what-is-a-co-operative/banc-cambria/
  Eginyn erthygl sydd uchod am arian. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.