Brexit

datgysylltiad y Deyrnas Gyfunol oddi wrth yr Undeb Ewropeaidd

Gair cyfansawdd (portmanteau), yw Brexit (Cymreigiad: Brecsit)[1] o ddau air Saesneg "British exit"). Fe'i defnyddiwyd i ddisgrifio ymadawiad y Deyrnas Gyfunol (UK) o'r Undeb Ewropeaidd (UE) am 23:00 GMT ar 31 Ionawr 2020 (00:00 CET). Y DU yw’r unig aelod-wladwriaeth sydd wedi gadael yr UE, a hynny ar ôl 47 mlynedd o fod yn rhan o’r undeb—yr UE a’i rhagflaenydd y Cymunedau Ewropeaidd (CE)—ers 1 Ionawr 1973. Yn dilyn Brexit, nid oes gan gyfraith yr UE na Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd hawliau, bellach, dros gyfreithiau gwledydd Prydain, ac eithrio mewn meysydd dethol mewn perthynas â Gogledd Iwerddon. Mae Brecsit yn dilyn refferendwm ar y pwnc, sef Refferendwm y Deyrnas Unedig ar aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd, 2016.

EU-Austritt (47521165961).svg
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynoldatgysylltiad oddi wrth yr Undeb Ewropeaidd Edit this on Wikidata
Dyddiad31 Ionawr 2020 Edit this on Wikidata
GwladwriaethY Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 yn cadw cyfraith berthnasol yr UE fel cyfraith ddomestig, y gall y DU bellach ei diwygio neu ei diddymu. O dan delerau’r cytundeb ymadael â Brexit, mae Gogledd Iwerddon yn parhau i gymryd rhan yn y Farchnad Sengl Ewropeaidd mewn perthynas â nwyddau, ac i fod yn aelod de facto o Undeb Tollau’r UE.

Y Deyrnas Gyfunol mewn oren; yr Undeb Ewropeaidd (27 o aelod-wladwriaethau) mewn glas.

Mae’r Undeb Ewropeaidd a’i sefydliadau wedi datblygu’n raddol ers eu sefydlu ac yn ystod y 47 mlynedd o aelodaeth y DU; tyfodd yr UE i fod o bwysigrwydd economaidd a gwleidyddol sylweddol i’r DU. Drwy gydol cyfnod aelodaeth Prydain roedd grwpiau Ewrosgeptaidd wedi bodoli yn Lloegr, yn gwrthwynebu agweddau o'r Undeb a'i ragflaenwyr, ac yn beio'r UE am faterion fel mewnlifiad o "estronwyr" yn y DU. Cynhaliodd llywodraeth Llafur Harold Wilson refferendwm ar barhau'n aelod o’r GE ym 1975, lle dewisodd pleidleiswyr aros o fewn y bloc gyda 67.2 y cant o’r gyfran o’r bleidlais, ond ni chynhaliwyd unrhyw refferenda pellach wrth i Integreiddio Ewropeaidd barhau. Daeth yn “agosach fyth” drwy Gytundeb Maastricht a Chytundeb Lisbon a ddilynodd wrth ei sodlau. Fel rhan o addewid ymgyrch i ennill pleidleisiau oddi wrth Ewroscgeptaidd,[2] addawodd y prif weinidog Ceidwadol David Cameron gynnal refferendwm pe bai ei lywodraeth yn cael ei hail-ethol. Cadwodd at ei air a chynhaliodd ei lywodraeth (a oedd o blaid yr UE) refferendwm ar aelodaeth barhaus o’r UE yn 2016, lle dewisodd pleidleiswyr Llogr (gan fwyaf) adael yr UE gyda 51.9 y cant o’r gyfran o’r bleidlais. Arweiniodd hyn at ymddiswyddiad David Cameron, ac fe'i ddisodlwyd gan Theresa May, a phedair blynedd o drafodaethau gyda’r UE ar delerau ymadael ac ar gysylltiadau yn y dyfodol. Pleidleisiodd yr Alban a Gogledd Iwerddon yn erbyn gadael, a phrin oedd y mwyafrif yng Nghymru dros adael.

Roedd y broses drafod yn heriol yn wleidyddol ac yn ymrannol iawn o fewn y DU, gydag un cytundeb yn cael ei wrthod gan senedd Prydain, risg o ymadawiad o’r UE heb gytundeb ymadael neu fargen fasnach ("Brexit heb gytundeb"), etholiadau cyffredinol a gynhaliwyd yn 2017 a 2019, a dau brif weinidog newydd yn y cyfnod hwnnw, y ddau yn Geidwyr. O dan lywodraeth fwyafrifol Boris Johnson, gadawodd y DU yr UE ar 31 Ionawr 2020 ond parhaodd i gymryd rhan mewn llawer o sefydliadau’r UE (gan gynnwys y farchnad sengl a’r undeb tollau) yn ystod cyfnod pontio o 1 flwyddyn er mwyn pontio a sicrhau masnach ddi-dor am gyfnod hirach. Parhaodd trafodaethau’r cytundeb masnach hyd ddiwedd y cyfnod pontio a drefnwyd, a llofnodwyd Cytundeb Masnach a Chydweithrediad yr UE-DU ar 30 Rhagfyr 2020.

Bydd effeithiau Brexit yn cael eu pennu’n rhannol gan Gytundeb Masnach a Chydweithrediad yr UE-DU, a ddaeth i rym yn answyddogol o 1 Ionawr 2021, ac a ddaeth i rym yn ffurfiol ar 1 Mai 2021.[3] Y consensws eang ymhlith economegwyr yw ei fod yn debygol o niweidio economi’r DU a lleihau ei hincwm gwirioneddol y pen yn y tymor hir, a bod y refferendwm ei hun wedi niweidio’r economi'n drychinebus.[4][5][6][7][8] Mae’n debygol o gynhyrchu dirywiad mawr mewn mewnfudo o wledydd yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) i’r DU, ac mae’n gosod heriau i addysg uwch ac ymchwil academaidd yng Nghymru a gwledydd eraill Prydain.[9]

Llinell AmserGolygu

Yn dilyn refferendwm ar draws y DU ar 23 Mehefin 2016, lle pleidleisiodd 51.89 y cant o blaid gadael yr UE a 48.11 y cant yn pleidleisio i aros yn aelod, ymddiswyddodd y Prif Weinidog David Cameron. Ar 29 Mawrth 2017, fe wnaeth llywodraeth newydd Prydain dan arweiniad Theresa May hysbysu’r UE yn ffurfiol o fwriad y wlad i dynnu’n ôl, gan ddechrau’r broses o drafodaethau Brexit. Cafodd y tynnu’n ôl, a drefnwyd yn wreiddiol ar gyfer 29 Mawrth 2019, ei ohirio oherwydd anghytundeb yn senedd Westminster ar ôl etholiad cyffredinol Mehefin 2017, a arweiniodd at senedd grog lle collodd y Ceidwadwyr eu mwyafrif ond arhosodd y blaid fwyaf. Arweiniodd hyn at dri estyniad i broses Erthygl 50 y DU.

Cafodd y sefyllfa derfynol ei datrys ar ôl i etholiad cyffredinol dilynol gael ei gynnal yn Rhagfyr 2019. Yn yr etholiad hwnnw, enillodd Ceidwadwyr a ymgyrchodd o blaid cytundeb ymadael “diwygiedig” dan arweiniad Boris Johnson fwyafrif cyffredinol o 80 sedd. Ar ôl etholiad Rhagfyr 2019, cadarnhaodd Westminster y cytundeb ymadael â Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael) 2020 o’r diwedd. Gadawodd y DU yr UE ar ddiwedd 31 Ionawr 2020 CET (11 pm GMT). Dechreuodd hyn gyfnod pontio a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2020 CET (11 pm GMT), pan drafododd y DU a’r UE eu perthynas yn y dyfodol.[10] Yn ystod y cyfnod pontio hwn, parhaodd y DU yn ddarostyngedig i gyfraith yr UE ac arhosodd yn rhan o Undeb Tollau’r Undeb Ewropeaidd a’r Farchnad Sengl Ewropeaidd. Fodd bynnag, nid oedd bellach yn rhan o gyrff na sefydliadau gwleidyddol yr UE.[11][12]

Yn y 1970au a'r 1980au, roedd tynnu'n ôl o'r GE yn cael ei argymell yn bennaf gan y chwith wleidyddol, ee ym maniffesto etholiad 1983 y Blaid Lafur. Cadarnhawyd Cytundeb Maastricht 1992 (a sefydlodd yr UE) gan senedd Prydain yn 1993 ond ni chafodd ei roi i refferendwm. Arweiniodd adain Ewrosgeptaidd y Blaid Geidwadol wrthryfel dros gadarnhau’r cytundeb. Ar ôl addo cynnal ail refferendwm aelodaeth pe bai ei lywodraeth yn cael ei hethol, cynhaliodd prif weinidog y Ceidwadwyr David Cameron y refferendwm hwn yn 2016. Ymddiswyddodd Cameron, oedd wedi ymgyrchu i aros o fewn Ewrop, wedi'r canlyniad a chafodd ei olynu gan Theresa May.

Ar 29 Mawrth 2017, dechreuodd llywodraeth Prydain y broses o dynnu’n ôl yn ffurfiol trwy alw Erthygl 50 o’r Cytuniad ar yr Undeb Ewropeaidd i rym gyda chaniatâd Senedd Lloegr. Galwodd May etholiad cyffredinol brys ym Mehefin 2017, a arweiniodd at lywodraeth leiafrifol Geidwadol a gefnogwyd gan y Blaid Unoliaethol Ddemocrataidd (DUP). Dechreuodd trafodaethau ymadael rhwng y DU a’r UE yn ddiweddarach y mis hwnnw. Cyd-drafododd y DU i adael yr undeb tollau a marchnad sengl yr UE. Arweiniodd hyn at gytundeb tynnu’n ôlyn Nhachwedd 2018, ond pleidleisiodd senedd Prydain yn erbyn ei gadarnhau deirgwaith. Roedd y Blaid Lafur eisiau unrhyw fath o gytundeb fyddai'n cadw'r undeb tollau, tra bod llawer o Geidwadwyr yn gwrthwynebu oherwydd y "<i>backstop</i> Gwyddelig" a gynlluniwyd i atal rheoli mynd-a-dod dros y ffiniau rhwng Gweriniaeth Iwerddon a Gogledd Iwerddon. Ceisiodd y Democratiaid Rhyddfrydol, Plaid Genedlaethol yr Alban (yr SNP) a Phlaid Cymru wrthdroi Brexit trwy fyny ail refferendwm.

Ar 14 Mawrth 2019, pleidleisiodd senedd Lloegr i ofyn i’r UE ohirio Brexit tan fis Mehefin, ac yna yn ddiweddarach yn Hydref.[13] Ar ôl methu â chael cefnogaeth i’w chytundeb, ymddiswyddodd May fel Prif Weinidog yng Ngorffennaf a chafodd ei holynu gan Boris Johnson. Ceisiodd yntau ddisodli rhannau o’r cytundeb ac addo gadael yr UE erbyn y dyddiad cau newydd. Ar 17 Hydref 2019, cytunodd Llywodraeth Prydain a’r UE ar gytundeb ymadael diwygiedig, gyda threfniadau newydd ar gyfer Gogledd Iwerddon.[14][15] Cymeradwyodd y Senedd y cytundeb ar gyfer craffu pellach, ond gwrthododd ei basio’n gyfraith cyn y dyddiad cau ar 31 Hydref, a gorfodi’r llywodraeth (drwy "Ddeddf Benn”) i ofyn am oedi gyda Brexit am y 3ydd gwaith.

Cynhaliwyd etholiad cyffredinol cynnar ar 12 Rhagfyr ac enillodd y Ceidwadwyr fwyafrif mawr yn yr etholiad hwnnw, gyda Johnson yn datgan y byddai’r DU yn gadael yr UE yn gynnar yn 2020.[16] Cadarnhawyd y cytundeb ymadael gan y DU ar 23 Ionawr a chan yr UE ar 30 Ionawr; daeth i rym ar 31 Ionawr 2020.[17][18][19]

Canlyniad y refferendwmGolygu

Refferendwm aelodaeth yr Undeb Ewropeaidd yn y Deyrnas Unedig 2016
Dewis Pleidleisiau %
  Gadael yr Undeb Ewropeaidd 17,410,742 51.89
Aros yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd 16,141,241 48.11
Pleidleisiau cymwys 33,551,983 99.92
Pleidleisiau anghymwys 25,359 0.08
Cyfanswm pleidleisiau 33,577,342 100.00
Etholwyr cofrestredig a nifer angenrheidiol 46,500,001 72.21
Poblogaeth o oed pleidleisio a nifer angenrheidiol 51,356,768 65.38
Source: / Ffynhonnell: Comisiwn Etholiadol[20]
Canlyniadau refferendwm cenedlaethol (heb bleidleisiau wedi’u difetha)
Gadael:
17,410,742 (51.9%)
Aros:
16,141,241 (48.1%)
Canlyniadau fesul gwlad neu ranbarth pleidleisio yn y DU (chwith) ac yn ôl dosbarth cyngor/awdurdod unedol (Prydain Fawr) ac etholaeth Senedd y DU (GI) (dde)
     Gadael     Aros
Gwlad / Ardal Etholaeth Etholwyr a bleidleisiodd,
of eligible
Pleidleisiau Canran o'r bleidlais Pleidleisiau a ddifethwyd
Aros Gadael Aros Gadael
  Dwyrain Canolbarth Lloegr 3,384,299 74.2% 1,033,036 1,475,479 41.18% 58.82% 1,981
  Dwyrain Lloegr 4,398,796 75.7% 1,448,616 1,880,367 43.52% 56.48% 2,329
  Llundain Fwyaf 5,424,768 69.7% 2,263,519 1,513,232 59.93% 40.07% 4,453
  Gogledd Ddwyrain Lloegr 1,934,341 69.3% 562,595 778,103 41.96% 58.04% 689
  Gogledd Orllewin Lloegr 5,241,568 70.0% 1,699,020 1,966,925 46.35% 53.65% 2,682
  Gogledd Iwerddon 1,260,955 62.7% 440,707 349,442 55.78% 44.22% 374
  Yr Alban 3,987,112 67.2% 1,661,191 1,018,322 62.00% 38.00% 1,666
  De Ddwyrain Lloegr 6,465,404 76.8% 2,391,718 2,567,965 48.22% 51.78% 3,427
  Cernyw a De-orllewin Lloegr
(gan gynnwys Gibraltar)
4,138,134 76.7% 1,503,019 1,669,711 47.37% 52.63% 2,179
  Cymru 2,270,272 71.7% 772,347 854,572 47.47% 52.53% 1,135
  Gorllewin Canolbarth Lloegr 4,116,572 72.0% 1,207,175 1,755,687 40.74% 59.26% 2,507
  Swydd Efrog a'r Humber 3,877,780 70.7% 1,158,298 1,580,937 42.29% 57.71% 1,937


Ymchwiliadau ar ôl y refferendwmGolygu

Yn dilyn y refferendwm, ymchwiliodd y Comisiwn Etholiadol i gyfres o anghysondebau yn ymwneud â gwariant ymgyrchu, a gyhoeddodd nifer fawr o ddirwyon wedi hynny. Yn Chwefror 2017, dirwywyd y prif grŵp ymgyrchu dros adael yr UE, Leave.EU £50,000 am anfon negeseuon marchnata heb ganiatâd.[21] Yn Rhagfyr 2017, dirwyodd y Comisiwn Etholiadol ddau grŵp o blaid yr UE, y Democratiaid Rhyddfrydol (£18,000) ac Open Britain (£1,250), am dorri rheolau cyllid ymgyrchu yn ystod ymgyrch y refferendwm.[22] Ym Mai 2018, dirwyodd y Comisiwn Etholiadol Absenoldeb Leave.EU am yr eildro, y swm o UE £70,000 am orwario'n anghyfreithlon ac adrodd yn anghywir am fenthyciadau am gyfanswm o £6 miliwn.[23] Yng Ngorffennaf 2018 rhoddwyd dirwy o £61,000 i Vote Leave am orwario, ac am beidio â datgan cyllid a rennir gyda BeLeave ac am fethu â chydymffurfio a'r ymchwilwyr.

Yn Nhachwedd 2017, lansiodd y Comisiwn Etholiadol archwiliad i honiadau bod Rwsia wedi ceisio dylanwadu ar farn y cyhoedd dros y refferendwm gan ddefnyddio llwyfannau cyfryngau cymdeithasol fel Twitter a Facebook. [24]

Yn Chwefror 2019, galwodd y Pwyllgor Digidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon seneddol am ymchwiliad i “ddylanwad tramor, diffyg gwybodaeth, cyllid, trin pleidleiswyr, a rhannu data” ym mhleidlais Brexit.[25]

Yng Ngorffennaf 2020, cyhoeddodd Pwyllgor Cudd-wybodaeth a Diogelwch y Senedd adroddiad a gyhuddodd lywodraeth y DU o fynd ati i osgoi ymchwilio i weld a oedd Rwsia wedi ymyrryd â barn y cyhoedd. Ni ddyfarnodd yr adroddiad a oedd gweithrediadau cudd-wybodaeth Rwsia wedi effeithio ar y canlyniad.[26]

Y broses o dynnu'n ôlGolygu

Mae tynnu'n ôl o'r Undeb Ewropeaidd yn cael ei lywodraethu gan Erthygl 50 o'r Cytuniad ar yr Undeb Ewropeaidd. Cafodd ei ddrafftio'n wreiddiol gan yr Arglwydd Kerr o Kinlochard,[27] a'i gyflwyno gan Gytundeb Lisbon a ddaeth i rym yn 2009.[28] Dywed yr erthygl y gall unrhyw aelod-wladwriaeth dynnu'n ôl "yn unol â'i gofynion cyfansoddiadol ei hun" drwy hysbysu'r Cyngor Ewropeaidd o'i fwriad i wneud hynny.[29] Mae’r hysbysiad yn sbarduno cyfnod negodi o ddwy flynedd, lle mae’n rhaid i’r UE “drafod a chwblhau cytundeb gyda’r Wladwriaeth sy'n gadael, gan nodi’r trefniadau ar gyfer tynnu’n ôl, gan ystyried y fframwaith ar gyfer ei berthynas â’r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol."[30] Os na cheir cytundeb o fewn y ddwy flynedd, daw’r aelodaeth i ben heb gytundeb, oni bai y cytunir yn unfrydol ar estyniad ymhlith holl wladwriaethau’r UE, gan gynnwys y wladwriaeth sy’n tynnu’n ôl.[30] Ar ochr yr UE, mae angen i'r cytundeb gael ei gadarnhau gan fwyafrif cymwys yn y Cyngor Ewropeaidd, a chan Senedd Ewrop.[30]

Dirymu Erthygl 50Golygu

 
Llythyr oddi wrth Theresa May yn galw ar Erthygl 50

The 2015 Referendum Act did not expressly require Article 50 to be invoked,[30] but prior to the referendum, the British government said it would respect the result.[31] When Cameron resigned following the referendum, he said that it would be for the incoming prime minister to invoke Article 50.[32][33] The new prime minister, Theresa May, said she would wait until 2017 to invoke the article, in order to prepare for the negotiations.[34] In October 2016, she said Britain would trigger Article 50 in March 2017,[35] and in December she gained the support of MP's for her timetable.[36]

Ym mis Ionawr 2017, dyfarnodd Goruchaf Lys y Deyrnas Unedig yn achos Miller mai dim ond os yw wedi’i hawdurdodi gan ddeddf seneddol i wneud hynny y gallai’r llywodraeth ddwyn Erthygl 50 i rym.[37] Wedi hynny, cyflwynodd y llywodraeth fil at y diben hwnnw, ac fe’i pasiwyd yn gyfraith ar 16 Mawrth fel Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Hysbysiad o Dynnu’n Ôl - Notification of Withdrawal) 2017.[38] Ar 29 Mawrth, ysgogodd Theresa May Erthygl 50 pan gyflwynodd Tim Barrow, llysgennad Prydain i’r UE, y llythyr perthnasol i Lywydd y Cyngor Ewropeaidd, Donald Tusk. Roedd hyn yn golygu mai 29 Mawrth 2019 oedd y dyddiad disgwyliedig y byddai’r DU yn gadael yr UE.[39][40]

Cadarnhau a gadaelGolygu

 
Adeilad y Swyddfa Dramor a Chymanwlad wedi'i oleuo yn lliwiau Jac yr Undeb ar 31 Ionawr 2020

Cyflwynodd Llywodraeth yr UK fesur i gadarnhau'r cytundeb tynnu'n ôl. Pasiodd ei ail ddarlleniad yn Nhŷ’r Cyffredin mewn pleidlais 358–234 ar 20 Rhagfyr 2019,[41] a daeth yn gyfraith ar 23 Ionawr 2020 fel Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael) 2020.[42]

Derbyniodd y cytundeb tynnu’n ôl gefnogaeth y pwyllgor cyfansoddiadol yn Senedd Ewrop ar 23 Ionawr 2020, gan osod disgwyliad y byddai’r senedd gyfan yn ei gymeradwyo mewn pleidlais ddiweddarach. [43][44][45] Y diwrnod canlynol, arwyddodd Ursula von der Leyen a Charles Michel y cytundeb tynnu’n ôl ym Mrwsel, ac fe’i hanfonwyd i Lundain lle'i llofnodwyd gan Boris Johnson.[17] Rhoddodd Senedd Ewrop ei chydsyniad i gadarnhau ar 29 Ionawr o 621 o bleidleisiau i 49.[46][18] Yn syth ar ôl cymeradwyo'r bleidlais, ymunodd aelodau Senedd Ewrop â dwylo a chanu Auld Lang Syne.[47] Daeth Cyngor yr Undeb Ewropeaidd â chadarnhad yr UE i ben y diwrnod canlynol.[48]

Ar 31 Ionawr 2020 GMT am 11 yr hwyr, daeth aelodaeth y Deyrnas Unedig o’r Undeb Ewropeaidd i ben, 47 mlynedd ar ôl iddi ymuno.[19]

Cyfnod pontio a chytundeb masnach terfynolGolygu

Yn dilyn ymadawiad "Prydain" ar 31 Ionawr 2020 aeth y DU i Gyfnod Pontio ar gyfer gweddill 2020. Ni fu fawr o newid i fasnach, teithio na'r hawl i symud dros ffiniau yn ystod y cyfnod hwn.[49]

Fodd bynnag, mae’r Cytundeb Ymadael yn dal yn berthnasol ar ôl y dyddiad hwn.[50] Mae'r cytundeb yn darparu mynediad am ddim i nwyddau rhwng Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon, ar yr amod bod sieciau'n cael eu gwneud i nwyddau sy'n dod i mewn i Ogledd Iwerddon o weddill y DU. Ceisiodd Llywodraeth Prydain gefnu ar yr ymrwymiad hwn[51] drwy basio Bil y Farchnad Fewnol: deddfwriaeth ddomestig yn Senedd Prydain. Ym Medi, dywedodd ysgrifennydd Gogledd Iwerddon, Brandon Lewis: xxx gan arwain at ymddiswyddiad Syr Jonathan Jones, ysgrifennydd parhaol Adran Gyfreithiol y Llywodraeth[52] a'r Arglwydd Keen, swyddog cyfraith yr Alban.[53] Dechreuodd y Comisiwn Ewropeaidd achos cyfreithiol.[50]

Ar 24 Rhagfyr 2020 cyhoeddodd y ddwy ochr eu bod wedi dod i gytundeb.[54] Pasiwyd y cytundeb gan ddau dŷ senedd Prydain ar 30 Rhagfyr a rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol yn oriau mân y bore wedyn. Yn Nhŷ’r Cyffredin, pleidleisiodd y Ceidwadwyr oedd yn llywodraethu a’r brif wrthblaid, y Blaid Lafur o blaid y cytundeb tra pleidleisiodd pob gwrthblaid arall yn ei erbyn gan gynnwys yr SNP a Phlaid Cymru.[55] Daeth y cyfnod pontio i ben y noson ganlynol.[56] Ar ôl i’r DU ddweud y byddai’n torri'r Cytundeb drwy ymestyn yn unochrog y cyfnod gras ac yn cyfyngu ar sieciau ar fasnach rhwng Gogledd Iwerddon a Phrydain, gohiriodd Senedd Ewrop osod dyddiad i gadarnhau’r cytundeb.[57] Trefnwyd y bleidlais yn ddiweddarach ar gyfer 27 Ebrill pan basiodd gyda mwyafrif llethol o bleidleisiau.[58][59]

Yr AlbanGolygu

 
Prif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon yn annerch newyddiadurwyr am faterion yn ymwneud â Brexit yn Nhŷ Bute yn 2018

Ar ôl refferendwm Brexit, dechreuodd Llywodraeth yr Alban – dan arweiniad Plaid Genedlaethol yr Alban (SNP) – gynllunio refferendwm annibyniaeth arall oherwydd pleidleisiodd yr Alban i aros yn yr UE tra bod Cymru a Lloegr wedi pleidleisio i adael.[60] Roedd wedi awgrymu hyn cyn refferendwm Brexit.[61] Gofynnodd Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, i refferendwm gael ei gynnal cyn i’r DU dynnu’n ôl, ond gwrthododd Prif Weinidog Prydain hyn.[62] Yn y refferendwm yn 2014, roedd 55% o bleidleiswyr wedi penderfynu aros yn y DU, ond fe gafodd y refferendwm ar ymadawiad Prydain o’r UE ei gynnal yn 2016, gyda 62% o bleidleiswyr yr Alban yn ei erbyn. Yn 2017, pe bai Gogledd Iwerddon yn parhau i fod yn gysylltiedig â’r UE – er enghraifft, drwy aros yn yr Undeb Tollau, dadleuodd rhai dadansoddwyr y byddai’r Alban hefyd yn mynnu cael ei thrin yn yr un modd.[63] Fodd bynnag, fel y bu hi, yr unig ran o’r Deyrnas Unedig a gafodd driniaeth unigryw oedd Gogledd Iwerddon.[64]

Ar 21 Mawrth 2018, pasiodd Senedd yr Alban Fil Parhad yr Alban.[65] Redd y Ddeddf yn caniatáu i bob maes polisi datganoledig aros o fewn cylch gwaith Senedd yr Alban ac yn lleihau’r pŵer gweithredol ar y diwrnod ymadael y mae Bil Ymadael y DU yn ei ddarparu ar gyfer Gweinidogion y Goron.[66] Cyfeiriwyd y bil at y Goruchaf Lys, a ganfu na allai ddod i rym wrth i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, a dderbyniodd gydsyniad brenhinol rhwng Senedd yr Alban yn pasio ei mesur a dyfarniad Goruchaf Lys (Lloegr), ei dynodi ei hun o dan Atodlen 4 o Ddeddf yr Alban 1998 fel un na ellir ei diwygio gan Senedd yr Alban. [67] Felly nid yw'r bil wedi derbyn cydsyniad brenhinol.[68]

Cynllunio heb gytundebGolygu

Ar 19 Rhagfyr 2018, datgelodd Comisiwn yr UE ei Gynllun Gweithredu Wrth Gefn “dim cytundeb” ("no-deal") mewn sectorau penodol, mewn perthynas â’r DU yn gadael yr UE “mewn 100 diwrnod.”[69]

Yn sgil pleidlais y Deyrnas Unedig i adael yr Undeb Ewropeaidd, crëwyd yr Adran Masnach Ryngwladol (DIT) ar gyfer cyrraedd ac ymestyn cytundebau masnach rhwng y DU a gwladwriaethau nad ydynt yn rhan o’r UE gan y Prif Weinidog Teressa May, yn fuan ar ôl iddi ddechrau ei swydd ar 13 Gorffennaf 2016.[70] Erbyn 2017, roedd yn cyflogi tua 200 o drafodwyr masnach[71] a chafodd ei oruchwylio gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fasnach Ryngwladol ar y pryd Liam Fox. Ym Mawrth 2019, cyhoeddodd llywodraeth Prydain y byddai’n torri llawer o dariffau mewnforio i sero, pe bai Brexit heb gytundeb.[72] Dywedodd Cydffederasiwn Diwydiant Prydain y byddai'r symudiad yn "morthwylio ein heconomi",[73][74][75] ac roedd Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr hefyd yn feirniadol iawn o'r Llywodraeth Doriaidd.[76] Yn ogystal, roedd yn ymddangos bod y cynllun yn torri rheolau safonol Sefydliad Masnach y Byd.[77][73][78][79][80][81]

[82]

Darllen pellachGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. Hall, Damien (11 August 2017). "'Breksit' or 'bregzit'? The question that divides a nation". The Conversation (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 July 2019. Cyrchwyd 22 March 2019.
  2. Vicki Young (23 January 2013). "David Cameron to pledge referendum on the UK and Europe". BBC News. Cyrchwyd 30 August 2021.
  3. "EU-UK trade and cooperation agreement: Council adopts decision on conclusion". www.consilium.europa.eu. 29 April 2021.
  4. Baldwin, Richard (31 July 2016). "Brexit Beckons: Thinking ahead by leading economists". VoxEU. Centre for Economic Policy Research. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 November 2017. Cyrchwyd 22 November 2017. On 23 June 2016, 52% of British voters decided that being the first country to leave the EU was a price worth paying for 'taking back control', despite advice from economists clearly showing that Brexit would make the UK 'permanently poorer' (HM Treasury 2016). The extent of agreement among economists on the costs of Brexit was extraordinary: forecast after forecast supported similar conclusions (which have so far proved accurate in the aftermath of the Brexit vote).
  5. Giles, Chris; Tetlow, Gemma (7 January 2017). "Most economists still pessimistic about effects of Brexit". Financial Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 July 2019. Cyrchwyd 22 November 2017.
  6. Giles, Chris (16 April 2017). "Brexit will damage UK standards of living, say economists". Financial Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 July 2019. Cyrchwyd 22 November 2017. Unlike the short-term effects of Brexit, which have been better than most had predicted, most economists say the ultimate impact of leaving the EU still appears likely to be more negative than positive. But the one thing almost all agree upon is that no one will know how big the effects are for some time.
  7. "Brexit to Hit Jobs, Wealth and Output for Years to Come, Economists Say". Bloomberg L.P. 22 February 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 July 2019. Cyrchwyd 22 November 2017. The U.K. economy may be paying for Brexit for a long time to come ... It won't mean Armageddon, but the broad consensus among economists—whose predictions about the initial fallout were largely too pessimistic—is for a prolonged effect that will ultimately diminish output, jobs and wealth to some degree.
  8. Johnson, Paul; Mitchell, Ian (1 March 2017). "The Brexit vote, economics, and economic policy". Oxford Review of Economic Policy 33 (suppl_1): S12–S21. doi:10.1093/oxrep/grx017. ISSN 0266-903X.
  9. Mayhew, Ken (1 March 2017). "UK higher education and Brexit". Oxford Review of Economic Policy 33 (suppl_1): S155–S161. doi:10.1093/oxrep/grx012. ISSN 0266-903X.
  10. Asa Bennett (27 January 2020). "How will the Brexit transition period work?". Telegraph. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 January 2020. Cyrchwyd 28 January 2020.
  11. Tom Edgington (31 January 2020). "Brexit: What is the transition period?". BBC News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 31 January 2020. Cyrchwyd 1 February 2020.
  12. "Questions and Answers on the United Kingdom's withdrawal from the European Union on 31 January 2020". European Commission. 24 January 2020. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 February 2020. Cyrchwyd 1 February 2020.
  13. "House of Commons votes to seek Article 50 extension". 14 March 2019. Cyrchwyd 11 May 2020.
  14. "Revised Withdrawal Agreement" (PDF). European Commission. 17 October 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 17 October 2019. Cyrchwyd 17 October 2019.
  15. "New Brexit deal agreed, says Boris Johnson". BBC News. 17 October 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 December 2019. Cyrchwyd 17 October 2019.
  16. Landler, Mark; Castle, Stephen (12 December 2019). "Conservatives Win Commanding Majority in U.K. Vote: 'Brexit Will Happen'". New York City. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 December 2019. Cyrchwyd 12 December 2019.
  17. 17.0 17.1 Boffey, Daniel; Proctor, Kate (24 January 2020). "Boris Johnson signs Brexit withdrawal agreement". The Guardian. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 January 2020. Cyrchwyd 24 January 2020.
  18. 18.0 18.1 Sparrow, Andrew (30 January 2020). "Brexit: MEPs approve withdrawal agreement after emotional debate and claims UK will return – live news". The Guardian. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 January 2020. Cyrchwyd 30 January 2020.
  19. 19.0 19.1 "Brexit: UK leaves the European Union". BBC News. 1 February 2020. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 March 2020. Cyrchwyd 11 April 2020.
  20. "EU referendum results". Electoral Commission. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 June 2019.
  21. "EU campaign firm fined for sending spam texts". Information Commissioner's Office. 11 May 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 July 2017.
  22. Maidment, Jack (19 December 2017) "Liberal Democrats fined £18,000 for breaching campaign finance rules relating to EU referendum". The Daily Telegraph.
  23. Weaver, Matthew (11 May 2018). "Leave.EU fined £70k over breaches of electoral law". The Guardian. Cyrchwyd 11 May 2018.
  24. Gillett, Francesca. "Electoral Commission launches probe into Russian meddling in Brexit vote using Twitter and Facebook". Evening Standard. Cyrchwyd 29 April 2021.
  25. "Theresa May must investigate 'foreign influence and voter manipulation' in Brexit vote, say MPs". The Independent. 18 February 2019. Cyrchwyd 18 February 2019.
  26. Ellehuus, Rachel. Did Russia Influence Brexit?. https://www.csis.org/blogs/brexit-bits-bobs-and-blogs/did-russia-influence-brexit. Adalwyd 29 April 2021.
  27. Kentish, Benjamin (29 March 2017). "Article 50 was designed for European dictators, not the UK, says man who wrote it". The Independent. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 December 2019. Cyrchwyd 29 December 2019.
  28. "Article 50 author Lord Kerr says Brexit not inevitable". BBC News. 3 November 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 March 2018. Cyrchwyd 20 June 2018. After leaving the foreign office, he was secretary-general of the European [C]onvention, which drafted what became the Lisbon treaty. It included Article 50 which sets out the process by which any member state can leave the EU.
  29. Rankin, Jennifer; Borger, Julian; Rice-Oxley, Mark (25 June 2016). "What is article 50 and why is it so central to the Brexit debate?". The Guardian. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 December 2019. Cyrchwyd 29 December 2019.
  30. 30.0 30.1 30.2 30.3 Renwick, Alan (19 January 2016). "What happens if we vote for Brexit?". The Constitution Unit Blog. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 31 July 2019. Cyrchwyd 14 May 2016.
  31. In a leaflet sent out before the referendum, the UK government stated "This is your decision. The Government will implement what you decide." "Why the Government believes that voting to remain in the European Union is the best decision for the UK. The EU referendum, Thursday, 23 June 2016" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 24 March 2018. Cyrchwyd 28 November 2016.
  32. "Brexit: David Cameron to quit after UK votes to leave EU". BBC News. 24 June 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 July 2019. Cyrchwyd 24 June 2016.
  33. Cooper, Charlie (27 June 2016). "David Cameron rules out second EU referendum after Brexit". The Independent. London. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 June 2019. Cyrchwyd 27 June 2016.
  34. Mason, Rowena; Oltermann, Philip (20 July 2016). "Angela Merkel backs Theresa May's plan not to trigger Brexit this year". The Guardian. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 July 2016. Cyrchwyd 29 December 2019.
  35. Spence, Alex (2 October 2016). "Theresa May to begin Brexit process by end of March". Politico. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 December 2019. Cyrchwyd 29 December 2019.
  36. Cooper, Charlie (9 December 2016). "British MPs back Theresa May's Brexit timetable". Politico. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 December 2019. Cyrchwyd 29 December 2019.
  37. Bowcott, Owen; Mason, Rowena; Asthana, Anushka (24 January 2017). "Supreme court rules parliament must have vote to trigger article 50". The Guardian. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 May 2019. Cyrchwyd 9 February 2017.
  38. "Queen gives royal assent to Article 50 Bill, clearing way for Theresa May to start European Union exit talks". The Telegraph. 16 March 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 December 2019. Cyrchwyd 29 December 2019.
  39. "Article 50: UK set to formally trigger Brexit process". BBC. 29 March 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 July 2019. Cyrchwyd 29 December 2019.
  40. "'No turning back' on Brexit as Article 50 triggered". BBC News. 30 March 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 July 2019. Cyrchwyd 29 December 2019.
  41. Stewart, Heather (20 December 2019). "Brexit: parliament passes withdrawal agreement bill by 124 majority". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 December 2019. Cyrchwyd 20 December 2019.
  42. "Brexit bill receives Royal Assent". BBC News. 23 January 2020. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 February 2020. Cyrchwyd 2 February 2020.
  43. Wishart, Ian (23 January 2020). "Brexit Deal Passes Penultimate EU Hurdle With Committee Approval". Bloomberg. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 January 2020. Cyrchwyd 27 January 2020.
  44. "Brexit: Boris Johnson signs withdrawal agreement in Downing Street". BBC News. 24 January 2020. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 January 2020. Cyrchwyd 27 January 2020.
  45. Castle, Stephen (22 January 2020). "U.K. Takes a Major Step Toward Brexit". The New York Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 January 2020. Cyrchwyd 27 January 2020.
  46. McGuinness, Alan (29 January 2020). "European Parliament ratifies Boris Johnson's Brexit deal ahead of exit day". Sky News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 January 2020. Cyrchwyd 29 January 2020.
  47. Payne, Adam (30 January 2020). "The European Parliament joined hands and sang Auld Lang Syne in an emotional Brexit farewell to the UK". Business Insider. Reuters. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 31 January 2020. Cyrchwyd 1 February 2020.
  48. Stevis-Gridneff, Matina (30 January 2020). "Press send for Brexit: E.U. seals U.K. withdrawal by email". The New York Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 31 January 2020. Cyrchwyd 8 July 2020.
  49. Edgington, Tom. "Brexit: What is the transition period?". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 February 2020.
  50. 50.0 50.1 Boffey, Daniel; O'Caroll, Lisa (1 October 2020). "Brexit: EU launches legal action against UK for breaching withdrawal agreement". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 1 November 2020.
  51. "Brexit: Britain says it may break international law in 'limited way'". Irish Times. 8 September 2020. Cyrchwyd 1 November 2020.
  52. "Senior government lawyer quits over Brexit plans". BBC News. 8 September 2020. Cyrchwyd 1 November 2020.
  53. "Lord Keen: Senior law officer quits over Brexit bill row". BBC News. 16 September 2020. Cyrchwyd 1 November 2020.
  54. Boffey, Daniel; O'Caroll, Lisa (24 December 2020). "UK and EU agree Brexit trade deal". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 25 December 2020.
  55. "Brexit: MPs overwhelmingly back post-Brexit deal with EU". BBC News (yn Saesneg). 30 December 2020. Cyrchwyd 30 December 2020.
  56. "Brexit: New era for UK as it completes separation from European Union". BBC News (yn Saesneg). 31 December 2020. Cyrchwyd 1 January 2021.
  57. "EU postpones setting date for ratifying Brexit trade deal". The Guardian. 4 March 2021. Cyrchwyd 15 March 2021.
  58. Blenkinsop, Philip (22 April 2021). "EU parliament agrees to April 27 vote on EU-UK trade deal". Reuters. Cyrchwyd 28 April 2021.
  59. "Brexit: European Parliament backs UK trade deal". BBC News (yn Saesneg). 28 April 2021. Cyrchwyd 28 April 2021.
  60. "Scotland Says New Vote on Independence Is 'Highly Likely'". The New York Times. 25 June 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 February 2017. Cyrchwyd 17 April 2017.
  61. Simons, Ned (24 January 2016). "Nicola Sturgeon Denies She Has "Machiavellian" Wish For Brexit". The Huffington Post UK. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 February 2016. Cyrchwyd 3 February 2016.
  62. Stewart, Heather (16 March 2017). "Theresa May rejects Nicola Sturgeon's referendum demand". The Guardian. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 31 May 2017. Cyrchwyd 15 May 2017.
  63. "Scotland, Wales and London want special Brexit deal if Northern Ireland gets one". Reuters (yn Saesneg). 4 December 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 October 2019. Cyrchwyd 8 October 2019.
  64. "Brexit: What is the Northern Ireland Protocol and why are there checks?". BBC News (yn Saesneg). 15 March 2021. Cyrchwyd 21 April 2021.
  65. "Whitehall lawyers drawing up plans to challenge Continuity Bill in courts". Herald Scotland. 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 April 2018. Cyrchwyd 3 April 2018.
  66. "Forging a new UK-wide agricultural framework post-Brexit". LSE. 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 April 2018. Cyrchwyd 3 April 2018.
  67. "European Union (Withdrawal) Act 2018". www.legislation.gov.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 August 2019. Cyrchwyd 6 August 2019.
  68. "EU Continuity Bill was within competence of Scottish Parliament when it was passed". Holyrood Magazine (yn Saesneg). 13 December 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 August 2019. Cyrchwyd 6 August 2019.
  69. "European Commission – PRESS RELEASES – Press release – Brexit: European Commission implements "no-deal" Contingency Action Plan in specific sectors". europa.eu. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 September 2019. Cyrchwyd 5 September 2019.
  70. "Theresa May signals Whitehall rejig with two new Cabinet posts". civilserviceworld.com. CSW. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 July 2016. Cyrchwyd 14 July 2016.
  71. Trading places / Negotiating post-Brexit deals. Economist, 4–10 February 2017, p. 25
  72. "Temporary tariff regime for no deal Brexit published". GOV.UK. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 March 2019. Cyrchwyd 14 March 2019.
  73. 73.0 73.1 O'Carroll, Lisa; Boffey, Daniel (13 March 2019). "UK will cut most tariffs to zero in event of no-deal Brexit". The Guardian. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 March 2019. Cyrchwyd 14 March 2019.
  74. Glaze, Ben; Bloom, Dan; Owen, Cathy (13 March 2019). "Car prices to rise by £1,500 as no-deal tariffs are revealed". walesonline. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 March 2019. Cyrchwyd 14 March 2019.
  75. "No-deal tariff regime would be 'sledgehammer' to UK economy, CBI warns". Aol.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 March 2019. Cyrchwyd 14 March 2019.
  76. "This is why farmers are suddenly very worried about a no-deal Brexit". The Independent. 13 March 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 March 2019. Cyrchwyd 14 March 2019.
  77. "No-deal plans a bid 'to break EU unity'". BBC News. 13 March 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 31 March 2019. Cyrchwyd 14 March 2019.
  78. Sandford, Alisdair (13 March 2019). "UK zero-tariff plan for no-deal Brexit would not spare some EU imports". Euronews.com. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 29 March 2019. Cyrchwyd 14 March 2019.
  79. McCormack, Jayne (14 March 2019). "Does NI tariffs plan violate WTO law?". BBC News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 April 2019. Cyrchwyd 14 March 2019.
  80. "EU to apply normal tariffs on trade with UK in case of no-deal Brexit". Reuters. 13 March 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 March 2019. Cyrchwyd 14 March 2019.
  81. "EU says UK no-deal Brexit tariff plan is 'illegal'". The Independent. 15 March 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 March 2019. Cyrchwyd 15 March 2019.
  82. "Brexit: EU must prepare for no-deal, Merkel warns". Independent. Cyrchwyd 2 June 2020.