Carthen Gymreig

cwilt, blanced a gorchudd gwely trwm o wlân a wnaed yng Nghymru
(Ailgyfeiriad o Carthen)

Blanced neu gwilt mwy trwchus a roddir ar ben blancedi eraill ar wely yw carthen. Fel rheol, mae'r garthen wedi'i gwneud o wlân.

Carthen Gymreig
Carthen gyda dyluniad nodweddiadol
Enghraifft o'r canlynolnwyddau a weithgynhyrchwyd Edit this on Wikidata
DeunyddGwlân Edit this on Wikidata
GwladwriaethCymru Edit this on Wikidata
Erthygl am y garthen Gymreig yw hon; ceir erthygl gyffredinol ar y cwilt yma a'r broses o wneud carthenni: yma
Casgliad o garthenni Cymreig

Etymoleg

golygu

Daw'r gair carthen o "carth" + "en". Ystyr "carth" yw brethyn garw neu gywarch (hemp), sef, math o blanhigyn sy'n debyg i'r danadl sy'n creu mân edafedd y gall person greu defnydd ohoni.

Ceir y cyfeiriad archifedig cynharaf i'r gair "carthen" o'r 13g lle defnyddir hi mewn llinell o gerdd gan y bardd Dafydd ap Gwilym wrth ddisgrifio'r niwl, carthen anniben yn wybr".[1]

Gwneuthuriad

golygu

Cynhyrchir carthenni mewn melinoedd gwlân. Roedd dros 900 melin yng Nghymru ar un adeg, dirywiodd y nifer erbyn troad yr 20g pan oedd tua 300 o felinau gweithredol. Ar ôl cynnydd byr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, cwympodd y nifer i 80 erbyn 1947 a dim ond 12 sydd ar ôl heddiw. Ymysg y melinyau mwyaf adnabyddus mae Melin Tregwynt a Melin Wlân Trefriw, sy'n cael ei redeg gan y gwehydd a'r dylunydd, Cefyn Burgess. Ceir hefyd Melin Wlân Teifi sy'n rhan o Amgueddfa Wlân Cymru ger Castellnewydd Emlyn.

Dyluniadau o'r garthen Gymreig

golygu
 
Manylyn carthen nodweddiadol, hon o Melin Teifi, Amgueddfa Wlân Cymru

Er mai gair generig am fath o flanced a ddefnyddir fel gorchudd gwely yw 'carthen', fe'i cysylltir yn aml gyda dyluniadau, sydd bellach yn cael eu gweld fel rhai nodweddiadol Gymreig.

Defnyddir y term Cymraeg 'carthen' hefyd yn y Saesneg er mwyn disgrifio'r blancedi gwlân 'Cymreig' yma,[2] er y ceir cwiltiau neu flancedi trymion eraill gyda dyluniadau cywrain arnynt er enghraifft gan Amish yn nhalaith Pennsylvania yn yr Unol Daleithiau.[3]

Yn ôl Mark Lucas, curadur Amgueddfa Wlân Cymru yn Nhre-fach Felindre, "Fe wyddon ni fod y Celtiaid yn gwisgo plaid (brethyn debyg i dartan), ac rydym yn gwybod o lyfr William Jones fod y cynlluniau geometrig wedi dod mewn erbyn diwedd y 1700au." Nodweddir cartheni 'Cymreig' gan batrymau geometrig ar garthenni Cymru yn dyddio nôl i 1775 ac i'w gael yng nghasgliad Archifau Sir Ddinbych. Ceir sawl patrwm geometig.[4]

Eicon Genedlaethol

golygu
 
Amwisg golau gyda dyluniad nodweddiadol carthen Gymreig

Ceir patrymau nodweddiadol o'r cartheni Cymreig ar amryw o nwyddau tŷ bellach gan gyfuno apêl am ddeunydd chwaethus a Chymreig gan y prynwr. Mae'r rhain yn amrywio o fygiau i glustogau, amwisg golau[5] dillad a llieiniau bwrdd, bagiau llaw[6], ac yn ystod Covid-19 yng Nghymru gwerthwyd mygydau gyda dyluniad nodweddiadol o'r garthen Gymreig.[7]

  • Yn 2014 i ddathlu 40 mlwyddiant sefydlu Canolfan Iaith Nant Gwrtheyrn, cynhyrchodd y Nant ar y cyd gyda Melin Tre Gwynt, garthen gyda dyluniad unigryw yn seiliedig ar batrwm traddodiadol o’r 1960au, patrwm yr ‘Hen Seren’ ond gyda theimlad modern idd [9]
  • Ceir adlais o un o ddyluniadau nodweddiadol enwocaf y carthen Gymreig, y porthcylis, fel logo darpar-fanc cydfuddsoddol Gymreig, Banc Cambria.

Dolenni

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. geiriadur.ac.uk; Geiriadur Prifysgol Cymru; adalwyd 30 Hydref 2021
  2. https://www.welshblankets.co.uk/index.php?route=product/category&path=22
  3. https://www.amishquilter.com/
  4. amgueddfa.cymru; adalwyd 30 Hydref 2021
  5. casgliad.com Archifwyd 2021-10-29 yn y Peiriant Wayback; adalwyd 30 Hydref 2021]
  6. na-nog.com; adalwyd 30 Hydref 2021
  7. siop.amgueddfa.cymru Archifwyd 2021-10-29 yn y Peiriant Wayback; adalwyd 30 Hydref 2021
  8. https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/44633611
  9. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-10-29. Cyrchwyd 2021-10-29.