Baner Cymanwlad y Gwladwriaethau Annibynnol

baner

Mae baner Cymanwlad y Gwladwriaethau Annibynnol (Saesneg: Commonwealth of Independent States; Rwsieg: Флаг Содружества Независимых Государств) yn cynnwys haul melyn ar maes glas tywyll gydag wyth polyn yn dal yr haul yn ei le. Mabwysiadwyd y faner yn swyddogol ar 16 Ionawr 1996.

Baner CGA
Baner CGA
Dyluniad y faner
Baner 1991–1996

Cyn mabwysiadu'r faner, roedd y faner dros-dro gyda'r llythrennau "C.I.S." ar gefndir gwyn. Defnyddiwyd y faner yma mewn digwyddiadau chwaraeon lle roedd tîm o'r Gymanwlad yn cymryd lle hen dim yr Undeb Sofietaidd pan oedd yr Undeb wedi dod i ben.

Hanes golygu

Sefydlwyd y Cymanwlad y Gwladwriaethau Annibynnol ar 21 Rhagfyr 1991 (blwyddyn cwymp yr Undeb Sofietaidd rhai misoedd ynghynt).[1] Yr aelodau a sefydlodd y corff oedd: (Armenia, Aserbaijan, Casachstan, Cirgistan, Moldofa, Tajicistan, Twrcmenistan ac Wsbecistan). Mae'r dyluniad yn symbol o ewyllus am bartneriaeth hafal, undod, heddwch a sefydlogrwydd. Yr aelodau cyfredol yw'r rhai uchod a hefyd Rwsia. Bu Iwcrain yn aelod hyd nes i Rwsia ymosod ar Crimea a dwyrain Iwcrain yn 2014 ac ar 19 Mai 2018 gadawodd y wlad y CIS yn swyddogol.[2] Yn yr un modd gadawodd Jorjia y corff yn 2008 yn dilyn ymosodiad Rwsia ar y wlad honno.

Cyfeiriadau golygu

  1. https://web.archive.org/web/20060103164158/http://www.cis.minsk.by/main.aspx?uid=178
  2. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-08-13. Cyrchwyd 2019-04-08.

Dolenni allanol golygu