Baner Denmarc
Croes Lychlynaidd wen ar faes goch yw'r Dannebrog, neu Faner Denmarc: un o'r rhai hynaf yn Ewrop. Mae baner gyda chroes wen-ar-goch yn cael ei hardystio fel un a ddefnyddir gan y brenhinoedd Denmarc ers y 14g.[1] Yn y cyfnod modern mae pob un o'r gwledydd Nordig (ac eithrio'r Ynys Las) wedi mabwysiadu baneri o ddyluniad tebyg – gweler ymhellach: baner Norwy, baner Sweden, baner y Ffindir, baner Ynysoedd Ffaröe, a baner Gwlad yr Iâ.
Enghraifft o'r canlynol | baner cenedlaethol |
---|---|
Lliw/iau | coch, gwyn |
Dechrau/Sefydlu | 1748 |
Genre | Nordic cross flag |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Dannebrog: Historien om et Kristent og Nationalt Symbol (Hanes Symbol Cristnogol a Chenedlaethol) gan Hans Christian Bjerg, tud.12, ISBN 87-7739-906-4.