Baner Ecwador
Mabwysiadwyd baner Colombia Fawr ar 17 Rhagfyr, 1819 yn dilyn ei hannibyniaeth ar Sbaen. Baner drilliw lorweddol yw hi, gyda hanner uchaf y faner yn felyn (symbol o Golombia Fawr), y chwarter nesaf i lawr yn las (i gynrychioli annibyniaeth ar Sbaen) a'r chwarter isaf yn goch (am ddewrder). Lliwiau Francisco de Miranda, yr arweinydd rhyddid, ydynt. Fe ymwahanodd Ecwador o Golombia Fawr fel gweriniaeth ar wahân ym 1830, ac ar 26 Medi, 1860 mabwysiadwyd dyluniad baner Colombia Fawr fel baner Ecwador.
Math o gyfrwng | baner cenedlaethol |
---|---|
Lliw/iau | melyn, glas, coch, gwyrdd, gwyn, brown, llwyd, dark brown |
Dechrau/Sefydlu | Mileniwm 2. |
Genre | horizontal triband |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Fel baneri eraill y cyn-drefedigaethau Sbaenaidd, gosodir arfbais y wlad yn ei chanol pan defnyddir fel lluman gwladwriaethol neu lyngesol; ychwanegwyd hon ym 1900. Nid oes arfbais yn y lluman sifil ac felly mae'n unfath â baner Colombia, ac eithrio'r cyfraneddau.
Ffynonellau
golygu- Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)