Lluman sifil
Y faner genedlaethol a chwifir gan longau sifil (masnachol ac eraill) yw lluman sifil.
Llumanau sifil gwledydd
golyguGall y llumanau sifil sy'n wahanol i'r faner genedlaethol cael eu rhannu i bum categori.
Llumanau Cochion sy'n dilyn y dyluniad Prydeinig
golyguDyma faneri cochion sydd, gan amlaf, gyda'r faner genedlaethol briodol neu Faner yr Undeb yn y canton, yn dilyn dyluniad y Lluman Coch Prydeinig. Mae tiriogaethau tramor Prydeinig naill ai'n defnyddio'r Lluman Coch plaen neu Luman Coch gyda'r arfbais drefedigaethol briodol yn y fly.
Llumanau sifil sy'n wahanol yn sylweddol i'r faner genedlaethol
golyguMae gan rai gwledydd llumanau sifil sydd yn wahanol iawn i'r faner genedlaethol.
Albania | Israel | Lwcsembwrg | Malta | Singapôr |
Llumanau sifil sy'n cynnwys y faner genedlaethol ag arwyddlun ychwanegol
golyguCafodd y mwyafrif o'r arwyddluniau yma eu hychwanegu i wahaniaethu rhwng y lluman a baneri tebyg gwledydd eraill.
Colombia | Yr Eidal | El Salvador | Moroco[4] | Gwlad Pwyl | Saudi Arabia | Gweriniaeth Tsieina[5] |
Baneri cenedlaethol symledig
golyguMewn nifer o wledydd (yn bennaf America Ladin) mae yna dau fersiwn o'r faner, un syml (gan amlaf yn rhesog) ac un goethach gyda'r arfbais genedlaethol. Defnyddir yr un symlach fel lluman sifil (ac mewn nifer o achosion fel baner sifil), a defnyddir y fersiwn â'r arfbais yn bennaf gan y llywodraeth a'r lluoedd milwrol. Yn Sbaen mae'r faner heb yr arfbais dim ond ar gyfer defnydd sifil; defnyddir y faner genedlaethol fel lluman sifil.[6]
Yr Almaen | Awstria | Bolivia | Costa Rica | Gweriniaeth Dominica | Ecuador |
Guatemala | Haiti | Periw | Sbaen | Venezuela |
Llumanau sifil sy'n wahanol i'r faner genedlaethol o ran cyfraneddau
golyguMae nifer o gyn-drefedigaethau Prydeinig yn defnyddio 1:2 fel cyfrannedd eu llumanau, ond 3:5 ar gyfer baneri ar dir. Mae hyn i'w wrthdroi yng ngwledydd y gyn Iwgoslafia: llumanau yn 2:3 a baneri ar dir yn 1:2.
Croatia | Grenada | Guyana | Slofenia | Y Swistir[7] | Trinidad a Thobago |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Defnyddir y lluman coch plaen yn ogystal gan Jersey, Anguilla, Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India, Montserrat, Ynysoedd Pitcairn, a Saint Helena.
- ↑ Defnyddir baner genedlaethol Awstralia ar gyfer llongau bychain hefyd.
- ↑ Defnyddir baner genedlaethol yr EAU fel lluman sifil hefyd.
- ↑ Defnyddir baner genedlaethol Moroco fel lluman sifil hefyd.
- ↑ Defnyddir baner genedlaethol Gweriniaeth Tsieina fel lluman sifil hefyd.
- ↑ (Sbaeneg) Armada Española – La Bandera en la Armada. Gweinyddiaeth Amddiffyn Sbaen. Adalwyd ar 5 Mai, 2007.
- ↑ Defnyddir baner sgwâr y Swistir ar y mwyafrif o afonydd a llynnoedd.