Baner Gogledd Corea

baner

Baner Gogledd Corea yw baner genedlaethol Gogledd Corea (Gweriniaeth Pobl Ddemocrataidd Corea). Fe'i mabwysiadwyd ar 10 Gorffennaf 1948, deufis cyn datgan Gweriniaeth Pobl Ddemocrataidd Corea.[1] Tra bod baner De Corea yn barhâd o'r faner genedlaethol Corea a fabwysiadwyd yn 1882, mae baner Gogledd Corea yn un newydd. Gelwir yn Ramhongsaek Konghwagukgi (Corëeg: 람홍색공화국기; llythrennol "baner lliw glas a choch y weriniaeth")

Baner Gogledd Corea, cymesuredd 1:2

Hanes golygu

 
4ydd bolyn baner uchaf y byd - 160 m – yn chwifio baner 270 kg (595 lb) Gogledd Corea dros Kijŏng-dong

Mabwysiadwyd y faner gweriniaeth unbeniaethol gomiwnyddol Gogledd Corea yn 1948. Tan hynny, roedd baner De Corea mewn grym yng Ngogledd Corea.[2]. Rhanwyd y wlad yn ddwy wedi Rhyfel Corea waedlyd rhwng lluoedd y Gogledd Comiwnyddol a gefnogwyd gan yr Undeb Sofietaidd a Tsieina Gomiwnyddol yn erbyn lluoedd cyfalafol a democrataidd a arweiniwyd gan yr UDA.

Roedd comwinyddion Corea o blaid cadw'r faner genedlaethol draddodiadol ond teimlad yr Uwch Gadfridog, Nikolai Georgiyevich Lebedev (Rwsia) oedd bod y Taegukgi oedd yn cynnwys syniadaeth ac athroniaeth Tsieiniaidd yn rhy debyg i ofergoeledd Canol Oesol. Yn dilyn pwysau o du Mosgo cytunodd y Coreaid ac Is-lywydd y Cynulliad Comiwnyddol, yr ieithydd ac ymladdwr annibyniaeth, Kim Tu-bong, fabwysiadu baner newydd dderyniol i gomiwnyddion Rwsia. Dyluniwyd y faner newydd gan y Rwsiaid, er na wyddir pwy oedd y dylunydd ei hun. Roedd y faner newydd mor ddi-fflach a generig gomiwnyddol â baneri gweriniaethau trefedigaethol oedd yn rhan o'r Undeb Sofietaidd megis baneri Sofietaidd Estonia neu Belarws. Nes ei fabwysiadu'n ffurfiol yn 1948 daliau comiwnyddion Corea i arddel y Taegukgi draddodiadol.[3][4]

Datgelwyd y faner newydd, ynghyd â chyfansoddiad drafft y wladwriaeth gomiwnyddol ar 1 Mai 1948.[5] Ar 10 Gorffennaf 1948 cymeradwyyd y faner gan Gynulliad dros-dro Pobl Gogledd Corea. Ysgriennodd Kim Tu-bong bapur yn esbonio pam y bu iddynt newid y faner, er gwaethaf ei gefnogaeth ef i'r un draddodiadol a dymuniadau eraill hefyd. Yn 1957 gwaredwyd ar Kim Tu-bong gan Kim arall, Kim Il-sung a dynodd gyfeiriadaeth i'r Taegukgi allan o unrhyw destun a ystumiodd ffotograffau er mwyn dyrchafu ei hun fel tad y genedl. Mae cyfeiriadau cyfredol yng Ngogledd Corea yn nodi mai Kim Il-sung ei hun ddyluniodd y faner.[3] Ni wyddir beth oedd ffawd Kim Tu-bong.

Symbolaeth golygu

  Mae baner Gogledd Corea yn dilyn confensiwn ac aestheteg sawl baner gwlad gomiwnyddol oedd yn bodoli yng nghannol yr 20g gan ddilyn nifer o nodweddion Baner yr Undeb Sofietaidd.

  • Mae'r seren goch, sy'n symbol cyffredinol o gomiwnyddiaeth, yn parhau i gael ei defnyddio er, ers mabwysiadu'r faner, mae athroniaeth Juxism-Leninism wedi'i disodli gan yr ideoleg Juche fel yr unig athrawiaeth sy'n arwain y wladwriaeth, gan gyfeirio at gomiwnyddiaeth wedi bod yn raddol wedi'i dynnu o gyfansoddiad a dogfennau cyfreithiol Gogledd Corea.[6] Fodd bynnag, er gwaethaf dileu'r cyfeiriadau hyn, mae Gogledd Korea yn parhau i fod yn wlad gomiwnyddol Stalinaidd gydag economi wedi'i chynllunio. Am y rheswm hwn mae'r seren goch yn cael ei chadw.
  • Mae'r band coch yn mynegi'r traddodiadau chwyldroadol.
  • Mae'r ddau fand glas yn cynrychioli sofraniaeth, heddwch a chyfeillgarwch.
  • Mae bandiau gwyn yn symbol o burdeb.

Yn ôl Cymdeithas Cyfeillgarwch Corea, mae'r seren goch yn symbol o draddodiadau chwyldroadol, mae'r streipen goch yn cynrychioli gwladgarwch a phenderfyniad pobl Corea. Mae'r streipiau gwyn yn symbol o'r genedl unedig a'i diwylliant. Mae'r bandiau glas yn cynrychioli undod, cymdeithasu ac yn olaf help i'r ddwy ochr.

Oriel golygu

Gweler hefyd golygu

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am faner neu fanereg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Corea. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato