Baner Guyane

baner

Nid oes gan Guyane (weithiau Gaiana Ffrengig) faner annibynnol sy'n cael ei chydnabod yn gyfreithiol yn ryngwladol ei hun, y faner a arddelwyd yn ryngwladol a'r un gyfreithiol swyddogol yw baner Ffrainc ond, fel gyda baner Cymru bydd llywodraeth leol a'r cyhoedd yn arddel baner melyn a gwyrdd unigryw i'r diriogaeth. Mae hyn oherwydd, yn wahanol i Gaiana (oedd yn un o drefedigaethau Prydain) a Gaiana Iseldireg (a adnebir fel Swrinâm er annibyniaeth yn 1975), nid yw Guyane yn genedl annibynnol. Mae'n dal i fod yn rhan o wladwriaeth Ffrainc o dan system drefedigaethol fel a weinyddir y 'DROM-COM' ar Guadeloupe a Réunion a rhai tiroedd eraill. O'r herwydd, trinir Guyane, er ei bod ar gyfandir De America fel rhan fwy neu lan fewnol o Ffrainc.

Baner Giana Ffrengig, answyddogol
Baner Ffrainc

Baner genedlaethol - Dyluniad golygu

Cafwyd mudiad, ac am gyfnod, statws swyddogol i faner sy'n arddel annibyniaeth i'r wlad. Mae'r faner wedi ei rhannu'n ddwy gan linell fertigol o gornel y chwith uchaf i'r dde isaf, gyda'r ochr dde yn liw gwyrdd a'r ochr isaf chwith yn liw melyn a seren goch yn y canol.

Mae'r gwyrdd yn cynrychioli'r fforestydd; melyn yn cynrychioli cyfoeth mwynau'r wlad a'r seren goch yn cynrychioli sosialaeth neu waed. Mae'n dilyn lliwiau baneri pro-annibyniaeth Affrica fel a hyrwyddwyd gan fudiad y GDR (Rassemblement Démocratique Africain).

Hanes y faner golygu

Crewyd y faner ym Mharis gan fyfyrwyr o Gaiana oedd yn agos a chefnogol i fudiadau dros annibyniaeth i dreftrefedigaethol Ffrengig yn Affrica.[1] Mae'r lliwiau yn dilyn lliwiau mudiad pro-annibyniaeth pan-Affrica y GDR a ddaeth yn sail i faner sawl gwlad annibynnol Ffrengig megis baner Senegal. Mabwysiadwyd y faner ym Medi 1967 mewn cynhadledd o'r UTG, Union des travailleurs guyanais (Undeb Gweithwyr Giana) o dan arweinyddiaeth Turenne Radamonthe.

Mabwysiadwyd y faner yn swyddogol gan Gyngor Cyffredinol Giana ar 22 Ionawr 2010 o dan arweinyddiaeth Alain Tien-Liong, arweinydd pro-annibyniaeth y Cyngor. Mabwysiadwyd y faner yn sgil methiant y mudiad i ennill rhagor o hunanlywodraeth i'r dirogaeth oddi ar Ffrainc. Roedd y Cyngor o dan arweiniad y Cyngor wedi bod yn gefnogol i ragod o annibyniaeth.

Yn 2016, unwyd Cyngor Cyffredinol a Chyngor Rhanbarthol Gaiana ond methwyd a dewis baner newydd, er i'r faner dal gael ei defnyddio'n gyhoeddus gan wahanol rannau o'r gymdeithas. O ganlyniad mae Cyngor newydd unedig Gaiana sawl maestref yn chwifio ac arddel y faner.

Mae'r faner gwyrdd a melyn yn cael eu defnyddio gan dîm pêl-droed cenedlaethol Guyane.

Diffyg Cynrychiolaeth golygu

Mewn cyfarfod o Gyngres o gynrychiolwyr etholedig Gaiana ar 27 Tachwedd 2018, dadleuai cynrychiolwr pobl frodorol y diriogaeth, Lénaïck Adam, nad oedd y faner coch, melyn a gwyrdd yn cynrychioli'r bobl frodorol ac felly ddim yn foesol dderbyniol. Meddai, "Mae'r faner yn annigonol, o ystyried, ar yr adeg y dyluniwyd hi, roedd y bobl brodorol a'r bobl Bushinengue yn cael eu dosbarthu fel anwariaid annatblygiedig, a thybiwyd mai hunaniaeth Creole yn unig oedd hunaniaeth Guyane."[2]

Baneri Guyane golygu

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu