Baner Gweriniaeth Canolbarth Affrica

baner

Mae baner Gweriniaeth Canolbarth Affrica yn faner anghyfrfredin yn ei defnydd o streipiau. Fe'i cyflwynwyd i'r Ddeddfwriaeth ar 1 Rhagfyr 1958 gan yr Arlywydd Barthélémy Boganda pan ddaeth tiriogaeth drefedigaethol Ffrengig yng nghanolbarth Affrica, Oubangui-Chari yn wladwiaeth annibynnol dan yr enw Gweriniaeth Canolbarth Affrica.

Baner Gweriniaeth Canolbarth Affrica, cymesuredd, 3:5

Gweledigaeth Boganda oedd y byddai tiriogaethau trefedigaethol Ffrainc yng nghanolbarth Affrica (Afrique équatoriale française) yn dod yn un wladwriaeth ffederal a hon byddai ei baner. Y tiriogaethau o'r AEF ddaeth maes o law yn wledydd annibynnol, ac nid yn rhan o un wladwriaeth ffederal fel y dymunodd Bagona yw: Tsiad, Gweriniaeth Canolbarth Affrica, Gabon a Gweriniaeth y Congo. Cynrychiolir rhan yn lliwiau'r faner. Roedd Camerŵn wedi ei rannu rhwng rhan Brydeinig a rhan Ffrengig, a gyd chyfnod annibynaieth, gadawodd Camerŵn Ffrengig gan uno â'r ochr Brydeinig.

Dyluniad

golygu

Ceir pedwar streipen llorweddol o'r un lled a hyd ar draw y faner gan ddechrau o'r uchaf: glas, gwyn, gwyrdd, melyn ac yna streipen goch o'r un lled, yn gwypo lawr ar draws u streipiau llorsweddol yng nghanol y faner. Ar ochr y chwith y streipen las, ceir seren pump pig felen.[1]

Mae'r lliwiau gwyrdd, melyn a choch yn lliwiau y mudiad 'Rhyng-Affricanaidd' (pan-African) ac yn gyffredin i nifer o faner gwladwriaeth Affrica. Ysbrydolwyd y lliwiau yma gan liwiau baner Ethiopia, yr unig wlad Affricanaidd na feddianwyd gan wledydd tramor yn ystod yr 19g.

Symboliaeth

golygu
  • Seren - i arwain y bobl ddu tuag at ryddid ac ymryddhâd. Mewn dyluniad cynnar cafwyd llaw ar y faner gyda'r mynegfys yn cyfeirio at seren MESAN (Mouvement de l'évolution sociale de l'Afrique noire - Mudiad Esblygiad Cymdeithasol Affrica Ddu). Mae'r glas a gwyn yn gydnabyddiaeth i'r dreftadaeth Ffrengig.
  • Glas - yn cyfateb i'r Congo a'r môr sy'n ei ysgogi
  • Gwyn - ar gyfer Chad a'i cotwm.
  • Gwyrdd - Gabon a'i goedwigoedd.
  • Melyn - ar gyfer Gweriniaeth Canol Affrica a'i gyfoeth mwynol
  • Coch - gwaed y merthyron

Yn 1976 ystyriodd yr Arlywydd, Jean-Bedel Bokassa, faner newydd. Daeth hyn yn dilyn ei dröedigaeth i Islam o dan ddylanwad arweinydd Libya, Muammar Gaddafi. Cynnigiodd faner gyda lleuad cilgant ar yr aswy gyda seren ar y dde, ill dau yn lliw aur. Yn y canton, yn cymryd lle chwarter chwith uchaf y faner roedd dwy streipen llorweddol, aur uwchben gwyn.

Fodd bynnag, ni fabwysiadwyd y cynnig a coronodd Bakossa ei hun yn "Ymeradwr Bokassa I" a newid enw'r wlad i Ymerodraeth Canolbarth Affrica. Ar 4 Rhagfyr 1976, disgrifiodd y cyfansoddiad newydd yr arwyddlun ar gyfer defnydd personol yr Ymerawdwr sef, baner o faes gwyrdd golau gydag eryr euraidd yn gorwedd ar seren 20 pegwn aur. Ysbrydolwyd yr ystondord gan ystondord eryr ymerodrol Napoleon.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Berry, Bruce (1 January 2016). "Central African Republic". Flags of the World. Cyrchwyd 1 November 2016.

Dolenni allanol

golygu