Baner Gweriniaeth y Congo

baner

Mabwysiadwyd baner Gweriniaeth y Congo ar 15 Medi 1959, sef y diwrnod yr enillodd y wlad statws ymreolaeth o fewn Ffrainc. Mae'r faner yn seiliedig y lliwiau rhyng-Affricanaidd - gwyrdd, melyn, coch. Mae'r faner wedi ei ffurfio gan triongl sefydlog o wyrdd a coch yn gorwedd ar ochr y faner, gyda bar melyn yn rhedeg o'r chwith waelod i'r gornel dde uchaf. Ar 15 Awst, 1960, pan ddatganodd y wlad ei annibyniaeth, datganodd y faner fel un swyddogol y wladwriaeth newydd.[1]

Baner Gweriniaeth y Congo

Ni ddylid drysu Gweriniaeth Congo, sy'n gyn-drefedigaeth Ffrengig i'r gogledd orllewin o afon y Congo gyda'r wlawriaeth anferth o'r un enw sydd i'r de a'r dwyrain fu'n gyn drefedeigaeth Belgaidd a adnabwyd am beth amser fel Zaire, ond sydd bellach yn cael ei hadnabod fel Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, ac sydd wedi newid ei baner sawl gwaith. Mae Baner Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo yn wahanol, er fod gan y ddau linell lletraws, chwith waelod i dde uchaf ar eu baneri.

Cyd-destun golygu

 
Baner Gweriniaeth y Congo yn cyhwfan

Roedd tiriogaeth Gweriniaeth y Congo yn rhan o Affrica Ffrengig y Cyhydedd (Afrique-Equatoriale-française) a fodolau rhwng 1910 a 1958 fel ffederasiwn o bedwar trefedigaeth; Gabon, Moyen-Congo (Gweriniaeth y Congo bresennol), Oubangui-Chari (Gweriniaeth Canolbarth Affrica bresennol) a Tsiad gyda Brazzaville (a enwyd ar ôl y gwladychwr, de Brazza), yn Moyen-Congo, yn cael ei dewis fel y prifddinas ffederal. Yn dilyn refferendwm Ffrengig ym mis Medi 1958, daeth yr Afrique-Equatoriale-française i ben gyda'r bedair drefedigaeth yn dod yn aelodau hunanlywodraethol o fel Cymuned Ffrainc (Communauté française - tebyg i'r Gymanwlad Brydeinig). Ailenwyd Moyen-Congo yn Weriniaeth y Congo a manwysiadwyr y faner newydd gydag annibyniaeth yn cael ei hennill ar 15 Awst 1960.[2]

Mae lliwiau'r faner - lliwiau rhyng-Affrica - yn seiliedig ar liwiau Baner Ethiopia,[3] sef yr unig wlad Affricanaidd na oruchfygwyd gan y pwerau tramor (heblaw am gyfnod byr iawn gan Eidal Ffasgaidd Mussolini).

Hanes golygu

Yn 1964 cafwyd chwyldro Farcsaidd ac ailenwyd y wlad yn Gweriniaeth Pobl y Congo gan ddod yn wlad gomiwnyddol gan ymglosio at wledydd y Bloc Sofietaidd. Ar 30 Rhagfyr 1969 mabwysiadwyd baner newydd Gweriniaeth Pobl y Congo (République populaire du Congo).[4] Roedd yn dilyn aestheteg ac eiconograffeg baneri comiwnyddol fel yr Undeb Sofietaidd, a Tsieina gomiwnyddol. Roedd y faner hon faes goch fel symbol o'r frwydr yn erbyn gwladychiaeth a lliw traddodiadol sosialaeth. Yn y canoton, y gornel chwith uchaf gorweddau morthwyl a hof wedi eu hamgylchynnu gan ddail gwyrdd, a seren melyn a seren felen fel symbol y blaid gomiwnyddol y Parti congolais du travail, PCT.

Ar 10 Mehefin 1991 gyda diwedd yr unbennaeth unblaid, disodlwyd y faner gan ailddefnyddio'r fersiwn wreiddiol.

Baneri Hanesyddol golygu

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. https://www.fotw.info/flags/cg.html
  2. https://www.britannica.com/topic/flag-of-the-Republic-of-the-Congo
  3. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-08-31. Cyrchwyd 2019-03-05.
  4. https://news.google.com/newspapers?id=MQMqAAAAIBAJ&sjid=PCgEAAAAIBAJ&pg=6266,4200905&dq=flag+of+the+republic+of+the+congo&hl=en[dolen marw]