Baner Mecsico Newydd
Mae baner Mecsico Newydd, talaith yr Unol Daleithiau, yn cynnwys symbol haul coch y bobl Zia, ar gae o felyn, a chafodd ei gyflwyno'n swyddogol ym 1925. Cafodd ei gynllunio 1920, i dynnu sylw at wreiddiau ei Americanaidd Brodorol Pueblo ac Hispano Nuevo México. Mae'r lliwiau'n cofio yn ôl i faneri Sbaen Hapsburgaidd (Croes Burgundy), Sbaen, a Choron Aragon, a ddaeth i'r ardal gan y concwistadoriaid.
Mae'n un o bedair baner talaith yr UDA nad yw'n gynnwys y lliw glas (y tair arall yw Alabama, Califfornia, a Maryland). Dyma'r unig un o'r pedwar hyn sydd ddim yn gynnwys y lliw gwyn. Nid oes gan faner Ardal Columbia glas chwaith, ond mae yn rhannol wyn, sy'n golygu taw baner Mecsico Newydd yw'r unig faner yn yr UDA heb las na gwyn.
Hanes
golyguYm 1920 gwthiodd Merched y Chwyldro Americanaidd (Daughters of the American Revolution) i Fecsico Newydd i ddylunio baner gyfoes ac unigryw. Cynhaliwyd cystadleuaeth i ddylunio'r faner newydd, a gwnaeth Harry Mera o Santa Fe ennill. Archeolegydd oedd Mera a oedd yn gyfarwydd â symbol haul Zia a ddarganfuwyd yn Pueblo Zia ar bot o'r 19eg ganrif. Mae gan y symbol ystyr gysegredig i bobl Zia: mae pedwar yn rhif cysegredig sy'n symbol o'r gylch bywyd, y pedwar cyfeiriad, pedwar cyfnod y dydd, pedwar cam fywyd, a'r pedwar tymor. Mae'r cylch yn clymu'r pedair elfen o bedair gyda'i gilydd. Ei ddyluniad buddugol yw'r faner y mae'r dalaith yn ei defnyddio heddiw.[1] Mae'r cyfarchiad, "Rwy'n cyfarch baner Talaith Mecsico Newydd a'r symbol Zia o gyfeillgarwch perffaith ymhlith diwylliannau unedig",[2] yn cael ei adrodd yn rheolaidd yn ysgolion cyhoeddus Mecsico Newydd ar ôl adrodd addewid teyrngarwch yr Unol Daleithiau.
Yn 2001 cafodd baner Mecsico Newydd ei ystyried yfbaner gorau mewn arolwg o'r 72 baner yr UDA a Chanada gan Gymdeithas Banereg Gogledd America.[3][4]
Baner flaenorol
golyguYn ystod 14 mlynedd gyntaf y dalaith, nid oedd gan Fecsico Newydd faner swyddogol. Yn ystod Ffair y Byd San Diego ym 1915, roedd y ffair yn cynnwys neuadd arddangos lle arddangoswyd holl faneri’r taleithiau. Gan nad oedd gan Fecsico Newydd faner swyddogol, arddangoswyd baner answyddogol, yn cynnwys cae glas gyda baner yr Unol Daleithiau yn y gornel chwith uchaf, y geiriau "New Mexico" a "47" (oherwydd Mecsico Newydd yw'r 47fed talaith) mewn llythrennau arian yng nghanol y faner, a sêl y dalaith yn y gornel dde isaf.[5] Mae rhai cyfeiriadau hanesyddol (gan gynnwys Atlas Digymar y Byd Cram) hefyd yn dangos y geiriau "The Sunshine State" wedi'u lapio o amgylch y sêl yn y gornel dde isaf.
Dyluniwyd y faner gynnar honno gan Ralph Emerson Twitchell,[6] Gelwid y dyluniad hwn yn "faner Twitchell". Yn 2005, arddangoswyd yr unig faner Twitchell hysbys mewn bodolaeth mewn arddangosfa ym Mhalas y Llywodraethwyr (Palace of the Governers) yn Santa Fe.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ History of the New Mexico flag
- ↑ The Flag Book of the United States by Whitney Smith (1970), p. 174.
- ↑ Edward B. Kaye (10 June 2001). "2001 State/Provincial Flag Survey" (PDF). nava.org. North American Vexillological Association.
- ↑ Edward B. Kaye (2001). "“Good Flag, Bad Flag, and the Great NAVA Flag Survey of 2001". Raven: A Journal of Vexillology 8: 11–38.
- ↑ New Mexico's First Flag (U.S.)
- ↑ New Mexico Flag Hasn't Always Had a Zia Symbol; Earliest Version Boasted Quartz Crystals Archifwyd 2021-03-04 yn y Peiriant Wayback, by Rick Nathanson