Baner Portiwgal
Baner ddeuliw fertigol gyda stribed chwith gwyrdd (i gynrychioli Infante Dom Henrique a hanes fforio Portiwgal) a stribed dde coch hirach (i gynrychioli chwyldro) gyda tharian yr arfbais dros astrolab sfferaidd (armillary sphere) wedi'i ganoli dros ffin y ddau stribed yw baner Portiwgal. Mabwysiadwyd ar 30 Mehefin, 1911.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/5/5c/Flag_of_Portugal.svg/250px-Flag_of_Portugal.svg.png)
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/d/d3/FIAV_110111.svg/23px-FIAV_110111.svg.png)
Gweler Hefyd
golyguGweler hefyd Baner Cymuned Gwledydd yr Iaith Portiwgaleg y mae Portiwgal yn aelod ohoni.
Ffynonellau
golygu- Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)