Baner Prince Edward Island
Baner Prince Edward Island', hefyd Baner Ynys y Tywysog Edward yw baner talaid Canadaidd, Prince Edward Island ar ochr ddwyreiniol y wlad. Seilir y faner ar arfbais y dalaith. Fe'i mabwysiadwyd ar 24 Mawrth 1964 yn y cyfnod cyn Canmlwyddiant Canada.[1]
Enghraifft o'r canlynol | baner endid gweinyddol o fewn un wlad |
---|---|
Lliw/iau | gwyn, coch, melyn, gwyrdd |
Dechrau/Sefydlu | 24 Mawrth 1964 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Dyluniad
golyguCymhareb safonol y faner yw 2:3.
Mae traean uchaf y faner yn dangos y llew herodrol Seisnig sy'n ymddangos ar arfbais Tywysog Edward y Deyrnas Unedig, yr enwyd y dalaith ar ei ôl, ac arfbais y Brenin Edward VII Prydain. Dengys y ddwy ran o dair isaf ynys lle gwelir tair derwen fach (ar y chwith) yn cynrychioli'r tair sir y rhannwyd yr ynys iddynt yn 1767 (Kings, Princes, Queens County) dan warchodaeth derwen fawr sy'n cynrychioli Prydain Fawr. Mae gan y tair ochr sydd ddim yn cyffwrdd â'r polyn, ffibriliad o fandiau coch a gwyn (lliwiau swyddogol Canada).[2]
Hanes
golyguYmsefydlodd y Ffrancwyr am y tro cyntaf yn Ynys y Tywysog Edward bresennol yn ystod y 1720au a'i henwi'n Ile Saint-Jean. Yn sgil Cytundeb Paris 1763, ildiodd Ffrainc yr ynys i'r Deyrnas Unedig yn barhaol. O ganlyniad fe'i gosodwyd o dan weinyddiaeth Gwladfa Nova Scotia a Seisnigwyd ei henw i St John's Island. Daeth y diriogaeth yn wladfa ar wahân ym 1769.[3][4]
Ymunodd yn swyddogol â Dominiwn Canada union chwe blynedd yn ddiweddarach ar 1 Gorffennaf 1873.[5] Yn dilyn hynny, cyhoeddodd y Brenin Edward VII Warant Frenhinol ar 30 Mai 1905, yn caniatáu i Ynys Prince Edward ddefnyddio eu harfbais eu hunain.[6][7] Deilliodd y darian o Sêl Fawr 1769,[8] gan ychwanegu llew aur ar ben coch.[6]
Yn y cyfnod yn arwain at Ganmlwyddiant Canada ym 1967, gwahoddwyd Conrad Swan – y Canada gyntaf i gael ei benodi i’r Coleg Arfau yn Llundain – i ddylunio baner ar gyfer Ynys y Tywysog Edward. Creodd faner arfog yn seiliedig ar arfbais y dalaith ac roedd yn cynnwys ffibriliad o betryalau coch a gwyn bob yn ail ar dair ochr allanol y faner.[3] Derbyniodd y Ddeddf Ddeddfwrfa a gyflwynodd y faner hon gydsyniad brenhinol ar 24 Mawrth 1964.[6][7]
Mewn arolwg ar-lein yn 2001 a gynhaliwyd gan Gymdeithas Fexillolegol Gogledd America, gosododd baner Ynys y Tywysog Edward ymhlith traean uchaf baneri gwladwriaethol, taleithiol a thiriogaethol Canada, yr Unol Daleithiau, a dewis tiriogaethau presennol a blaenorol yr Unol Daleithiau. Gorffennodd yn yr 21ain safle allan o 72, gan ddod yn bumed ymhlith baneri swyddogol Canada ar ôl Quebec, Nova Scotia, Nunavut, a New Brunswick.[9][10]
Oriel
golygu-
Baner PEI gyda chwaraewyr o'r Ynys
-
Baner yr Ynys yn ystod ymgyrch etholiadol Canada 2011
-
athlewraig yn chwifio'r faner
-
Baner PEI yn cyhwfan
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "PROVINCE OF PRINCE EDWARD ISLAND". The Governor General of Canada. Cyrchwyd 28 Mawrth 2020.
- ↑ "PEI Provincial Flag Guidelines". Government of Prince Edward Island. Cyrchwyd 28 Mawrth 2020.
- ↑ O'Grady, Brendan Anthony; Baldacchino, Godfrey (April 6, 2021). "Prince Edward Island – History". Encyclopedia Britannica. Encyclopedia Britannica, Inc. Cyrchwyd January 26, 2022.
- ↑ Holman, H.t.; Robb, Andrew (April 8, 2009). "Prince Edward Island". The Canadian Encyclopedia. Historica Canada. Archifwyd o'r gwreiddiol ar January 25, 2022. Cyrchwyd January 26, 2022.
- ↑ Tattrie, Jon (November 18, 2014). "Prince Edward Island and Confederation". The Canadian Encyclopedia. Historica Canada. Cyrchwyd January 26, 2022.
- ↑ 6.0 6.1 6.2 Smith, Whitney (June 20, 2014). "Flag of Prince Edward Island". Encyclopedia Britannica. Encyclopedia Britannica, Inc. Cyrchwyd January 26, 2022.
- ↑ 7.0 7.1 "Prince Edward Island (PE) – Facts, Flags and Symbols". Immigration, Refugees and Citizenship Canada. Government of Canada. November 12, 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar November 21, 2021. Cyrchwyd November 21, 2021.
- ↑ "Province of Prince Edward Island [Civil Institution]". Canadian Heraldic Authority. The Governor General of Canada. July 15, 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar November 20, 2021. Cyrchwyd November 19, 2021.
- ↑ Kaye, Ted (June 10, 2001). "New Mexico tops state/provincial flags survey, Georgia loses by wide margin". Archifwyd o'r gwreiddiol ar June 6, 2011. Cyrchwyd June 6, 2011.
- ↑ "Flag-lovers flower Quebec's fleur-de-lis with a rosy ranking". NewsBank. June 2001. Cyrchwyd April 12, 2017.