Baner o saith stribed llorweddol (gwyrdd, melyn, coch, du, coch, melyn, gwyrdd) gyda thriongl yn yr adran godi (hoist), gyda border du (sy'n ymuno â'r stribed du canolog), cefndir gwyn ac aderyn cenedlaethol Simbabwe melyn ar seren goch, yw baner Simbabwe. Mae gwyrdd, melyn, coch a du yn lliwiau'r mudiad ZANU ac yn lliwiau pan-Affricanaidd. Yn ogystal roedd du yn cynrychioli arweinwyr newydd y wlad ar ôl annibyniaeth, tra bo gwyn yn cynrychioli eu dymuniad am heddwch. Arwyddlun cenedlaethol yw'r aderyn sy'n gynrychiadol o adar carreg a ddarganfuwyd yn adfeilion Simbabwe Fawr, ac mae'r seren goch yn dangos rhagolwg rhyngwladol y wlad.

Baner Simbabwe
Hen faner ZANU-PF.

Mabwysiadwyd baner Simbabwe ar 18 Ebrill, 1980 ar sail baner ZANU-PF oedd yn cynnwys paneli consentrig o wyrdd, melyn, coch, a phanel du yn y canol.

Ffynonellau golygu

  • Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)
  Eginyn erthygl sydd uchod am Simbabwe. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.