Baner Tajicistan

baner

Mabwysiadwyd baner Tajicistan (Tajiceg: Парчами Тоҷикистон / Parcami Toçikiston, Farsi: پرچم تاجیکستان‎) ar 24 Tachwedd 1992 - blwyddyn wedi'r i Tajicistan ddatgan annibyniath oddi ar yr hen Undeb Sofietaidd.[1] Mae'r faner yn un trilliw llorweddol - coch, gwyn a gwyrdd. Yn y band gwyn ceir coron a saith seren aur. Mae'r sêr aur mewn bwa uwchben y coron.

Baner Tajicistan
Enghraifft o'r canlynolbaner cenedlaethol Edit this on Wikidata
CrëwrZuhur Habibullaev, Anatoly Zanevsky Edit this on Wikidata
Lliw/iaucoch, gwyn, gwyrdd, aur Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu24 Tachwedd 1992 Edit this on Wikidata
Genrehorizontal triband Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Symbolaeth

golygu
 
Stamp Tajicistan gyda'r faner arno, 2006

Mae'r lôn wen ganol yn 50% yn lletach na'r bandiau coch a gwyrdd. Mae'r cymesuredd yma yn anarferol mewn baneri trilliw llorweddol. O ganlyniad i hyn, ac yn wahanol i faner Cwrdistan sydd yn yr un lliwiau a'r un drefn, mae delwedd ganol baner Tajicistan yn gyfangwbl y tu fewn terfynnau'r band gwyn.

Mae'r coch yn cynrychioli undod y bobl, mae'r gwyrdd yn cynrychioli'r dyffrynnoedd ffrwythlon a'r gwyn yn cynrychioli eira a rhew y mynyddoedd a lliw cotwm.[2][3]

Gosodir y goron a'r sêr mewn petryal sy'n cwmpasu 80% o uchder y lôn wen. Mae'r goron yn cynrychioli'r bobl Tajic gan fod yr enw Tajic yn gysylltiedig â'r moeseg werin gyda'r Persian Tâj (sy'n golygu coron).[4].

golygu
Wrth ddathlu 20 mlwyddiant annibyniaeth Tajicistan,[5] codwyd postyn baner enfawr ym mhrifddinas y wlad, Dushanbe — a ddaeth, am gyfnod, y polyn baner uchaf yn y byd. Dechreuwyd ei godi ar Ddiwrnod y Faner yn 2010.[6] Mae'n sefyll yn 165 metr o uchder gan ddal y record byd rhwng 2011 a 2014 hyd nes i Bolyn Baner Jedddah yn Arabia Sawdi ei guro.[7][8]

Yn ystod yr Undeb Sofietaidd, defnyddiodd yr Gweriniaeth Sofietaidd, SSR Tajicistan, faner bandiau llorweddol gwyn a gwyrdd (y lliwiau cenedlaethol) yn hanner isaf y faner goch ar gynllun nodweddiadol o faneri'r Undeb Sofietaidd. Tajikistan oedd yr olaf o'r 15 gweriniaeth Sofietaidd ar 20 Mawrth 1953 i fabwysiadu'r math newydd hwn o faneri yn y Weriniaeth Sofietaidd.[9] Yn flaenorol, dim ond enwau'r weriniaeth o dan y morthwyl a'r cryman oedd i'w gweld yn baneri'r gweriniaethau Sofietaidd.

Yn y broses o ennill annibyniaeth, mabwysiadwyd baner genedlaethol newydd, yn dilyn trefn holl wladwriaethau olynol eraill yr Undeb Sofietaidd. Nes cytuno ar faner genedlaethol newydd, rhwng 1991 a 1992, penderfynodd yr awdurdodau Tajic arddel baner yr hen weriniaeth Sofietaidd ond gan dynnu o'r neilltu y symbolau gomiwnyddol traddodiadol oedd arni - y morthwyl a'r cryman a seren gomiwnyddol.

Baneri blaenorol

golygu

Baneri eraill

golygu

Lansiwyd Ystondord Arlywydd Tajicistan yn 2006 ar achlysur seremoni urddo trydydd tymor Emomali Rahmon fel pennaeth y wladwriaeth. Gan ddefnyddio'r un tri lliw â'r faner genedlaethol, ond mae ganddo farn am y Derafsh Kāviāni, safon brenhinol Sassanid, gyda llew glasog ar gefndir glas yno o dan gynrychiolaeth lai o'r goron a'r bwa seren.[10]

Baneri tebyg

golygu

Coch, gwyn a gwyrdd yw'r lliwiau Pan-Iraniad, sef cenhedloedd sy'n siarad iaith sy'n perthyn i'r teulu Indo-Arieg - fel Farsi, Cwrdeg, Tajic a Pashtun (yn Afghanistan/Pacistan). Mae'r iaith Tajiceg, fel yr ieithoedd eraill yn perthyn i Ffarsi a bu Ffarsi yn iaith statws uchel yng Nghanolbarth Asia am ganrifoedd. Mae'r lliwiau coch, gwyn a gwyrdd yn cynrychioli gwahanol dosbarthiadau o fewn cymdeithas.[11] Ar yr olwg gyntaf, ac i'r lygad anwybodus, gall baner Tajicistan edrych yn debyg iawn i faner Hwngari sydd hefyd yn faner trilliw gyda'r band goch ar y top.

Coch - y marchogion, neu'r dosbarth rhyfel a rheoli, cysylltir â dewrder, hunan-aberth
Gwyn - y dosbarth grefyddol; cysylltir â phurdeb moeol, materion ysbrydol
Gwyrdd - dosbarth rhydd, amaethwyr a bridwyr gwartheg; cysylltir â natur, ieuenctid a llewyrch.[12]

Dolenni

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) "Tadjikistan". Flags of the World. Cyrchwyd 29 Maart 2019. Check date values in: |accessdate= (help)
  2. Llysgenhadaeth Tajicistan yng Ngwlad Belg Staatsimbole Archifwyd 2016-05-01 yn y Peiriant Wayback “Mae'r goron a'r seren wedi'u canoli mewn petryal y mae ei hochr fertigol yn 0,8 ac mae'r ochr lorweddol yn 1,0 o'r lôn wen. Gosodwyd sêr pum-pwynt, 0.15-diamedr mewn cylch gyda radiws o 0.5 o led y lôn wen. Mae tair lliw ar faner Gweriniaeth Tajikistan; gwyrdd, coch a gwyn. Mae lôn werdd yn cynrychioli dyffrynnoedd sy'n ffurfio 7% o diriogaeth Tajikistan, y lôn wen yw lliw cotwm, eira a rhew a choch yw uno'r weriniaeth a brwdfrydedd â phobl eraill y byd.”
  3. Yn draddodiadol, cotwm yw'r cynnyrch allforio mwyaf o Tajicistan gyda 13% o'r holl allforion yn gotwm yn 2012.
  4. Nid yw gwir etymoleg yr enw yn hysbys; mae'n deillio o exon canoloesol a roddwyd i bobl y rhanbarth Transoxian ac fe'i cyfeiriwyd at naill ai "Arabiaid" neu "Persiaid"; Yn ôl astudiaeth gan Lyfrgell y Gyngres yr UDA ym 1997, mae'n anodd enwi tarddiad y gair "Tajik" gyda'r term "cydblethu mewn anghydfodau gwleidyddol yr ugeinfed ganrif ynghylch a oedd y Twrcaidd neu bobl Iran oedd trigolion gwreiddiol Canolbarth Asia.” Library of Congress Roepnommer DK851 .K34 1997. Gellir olrhain y cysylltiad tybiedig Tajic i tajvar yn ôl i 1990 (Echo of Islam, Oplae 183-193, Ministerlie van Islamitiese Leiding, 2000. bl. 54). Ysgrifennodd Alfred Znamierowski fod dyluniad y faner wedi'i seilio ar yr etymoleg hon, The world encyclopedia of flags, Hermes House, 2002, bl. 169.
  5. "Tajiks splash out $210 million on independence pomp". 9 Medi 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-04-04. Cyrchwyd 14 December 2011.
  6. "Dushanbe's flagpole enters Guinness Book of Records". 1 Medi 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-11-04. Cyrchwyd 14 December 2011.
  7. "Wer baut den hoechsten Fahnenmast". Asia Plus. 9 Medi 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-04-04. Cyrchwyd 14 December 2011.
  8. "Tallest Unsupported Flagpole". Guinness World Records. Cyrchwyd 8 Mawrth 2018.
  9. (Saesneg) "Vlag van Tadzjikistan". Encyclopædia Britannica. Cyrchwyd 29 Maart 2019. Check date values in: |accessdate= (help)
  10. Na aanleiding van ’n Russiese beskrywing van die vlag by president.tj in 2006 (geargiveerde weergawe van 2007).
  11. Гафуров Б. Г. Таджики: Древнейшая, древняя и средневековая история. ИВАН СССР, Наука, М. 1972. — стр. 31
  12. Bahar, Mehrdad. Pizhuhishi dar asatir-i Iran (Para-i nukhust va para-i duyum). Tehran: Agah, 1375 [1996]. ISBN 964-416-045-2. — p. 74 Nodyn:Ref-fa