Baner Trinidad a Thobago

baner
(Ailgyfeiriad o Baner Trinidad a Tobago)

Mabwysiadwyd baner Trinidad a Thobago ddiwrnod ei hannibyniaeth o'r Deyrnas Unedig ar 31 Awst 1962. Cynlluniwyd y faner gan Carlisle Chang (1921-2001), [1][2] a dewiswyd y faner gan y pwyllgor annibyniaeth yn 1962. Mae'r coch, du a gwyn yn symboli tân (yr haul, yn cynrychioli dewrder), y ddaear (yn cynrychioli ymroddiad) a dŵr (sy'n cynrychioli purdeb a chydraddoldeb).[3]

Baner Trinid a Thobago. Cymuseredd: 3:5
Baner Trinidad a Thobago yn cyhwfan

Dyluniad

golygu

Mae baner Trinidad a Thobago yn faes coch gyda band croeslin du. Ceir ffin gwyn ar naill ochr i'r croeslin ddu. Y disgyrfiad herodraethol yw blazon, Gules, bend Sable fimbriated Ariann.

Lled y streipiau gwyn yw 130 o hyd y faner a lled y streipen ddu yw 215. Mae cyfanswm lled y tair stribed gyda'i gilydd felly 15 o'r hyd.[4]

Baneri eraill

golygu

Y faner morol (Civil Engisn) yw'r faner genedlaethol ond i'r cymuseredd 1: 2. Baner y llynges (a ddefnyddir hefyd gan longiau Gwylwyr y Glannau) yw dyluniad ar sail y faner White Ensign Brydeinig gyda'r faner genedlaethol yn y canton.

Baner Cyfnod Trefedigaethol o dan Prydain

golygu

Cyn annibyniaeth o'r Deyrnas Unedig ym mis Awst 1962, defnyddiodd Trinidad a Thobago y Blue Ensign Brydeinig wedi ei ddifrodi gyda bathodyn yn dangos llong yn cyrraedd o flaen mynydd. Defnyddiwyd y faner Red Ensign ar gyfer masnach morwrol.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Carlisle Chang" Archifwyd 2016-09-11 yn y Peiriant Wayback, Ministry of Community Development, Culture and the Arts, Government of the Republic of Trinidad and Tobago.
  2. "National flag of Trinidad and Tobago - Carlisle Chang", YouTube.
  3. National Flag Archifwyd 2021-10-22 yn y Peiriant Wayback". Government of the Republic of Trinidad and Tobago. Retrieved May 12, 2017.
  4. Flagspot