Bang (cyfres deledu)

Rhaglen ddrama drosedd Gymraeg yw Bang wedi ei leoli ym Mhort Talbot.

Bang
Genre Drama
Serennu Jacob Ifan
Catrin Stewart
Cyfansoddwr/wyr Robert Spragg & Greg Fleming
Gwlad/gwladwriaeth Cymru
Iaith/ieithoedd Cymraeg
Saesneg
Nifer cyfresi 2
Nifer penodau 14
Cynhyrchiad
Cynhyrchydd Catrin Lewis Defis
Golygydd Dafydd Hunt & Mali Evans
Lleoliad(au) Port Talbot, Cymru
Sinematograffeg Graham Frake & Mark Milsome
Amser rhedeg 60 munud
Cwmnïau
cynhyrchu
Joio
Darllediad
Sianel wreiddiol S4C
Fformat llun 1080i (16:9 HDTV)
Darllediad gwreiddiol 10 Medi 2017
Dolenni allanol
Proffil IMDb

Crëwr ac awdur y gyfres yw Roger Williams. Cynhyrchir y gyfres gan gwmni Joio mewn cydweithrediad ag Artists Studio ar gyfer S4C a bydd yn cael ei werthu'n rhyngwladol gan Banijay International.[1] Enillodd y gyfres wobrau BAFTA Cymru 2018 am Ddrama Teledu a Golygu.[2] Cynhyrchwyd ail gyfres o 6 pennod a gychwynnodd ar S4C yn Chwefror 2020.[3]

Mae'r stori am frawd, chwaer a gwn. Mae Sam yn ŵr ifanc diymhongar a thawel, ond daw tro ar fyd pan mae'n cael gafael ar wn ac yn dechrau torri'r gyfraith. Mae ei chwaer Gina yn blismones uchelgeisiol, ac yn benderfynol o ddod o hyd i berchennog y gwn. Yn gefndir i'r saga deuluol, mae ymchwiliad i lofruddiaeth brawychus gŵr busnes lleol yn codi cwestiynau am lofruddiaeth tad Sam a Gina pan roedden nhw yn blant bach.

Penodau

golygu

Cyfres 1

golygu
# Teitl Cyfarwyddwr Awdur Darllediad cyntaf Gwylwyr [5]
1"Pennod 1"Philip JohnRoger Williams10 Medi 2017 (2017-09-10)49,000
Mae'r heddlu'n lansio ymchwiliad i lofruddiaeth dyn busnes lleol - Stevie Rose pan mae corff marw'n cael ei ddarganfod ym marina'r dref. Mae Gina, y swyddog heddlu uchelgeisiol, yn gweld cyfle i ennill dyrchafiad drwy helpu dod o hyd i lofrudd Stevie. Ond yn ddiwybod i Gina mae Sam, ei brawd wedi gwneud ffrindiau gyda chymydog newydd sydd angen cymwynas ac mae Sam yn dod i feddiannu gwn.
2"Pennod 2"Philip JohnRoger Williams17 Medi 2017 (2017-09-17)45,000
Mae gweddw Stevie Rose synnu'r heddlu drwy gynnig gwobr ariannol am wybodaeth fydd yn arwain at ddod o hyd i lofrudd ei gwr. Mae Gina'n argyhoeddedig bod gan gymdogion newydd Sam rywbeth i'w guddio, ac mae Sam yn ei chael hi'n anodd byw gyda'r gwn. Daw Gina ar draws wyneb o'r gorffennol wrth ymchwilio i lofruddiaeth Stevie ac mae Sam yn colli rhywun arbennig iawn.
3"Pennod 3"Ashley WayRoger Williams24 Medi 2017 (2017-09-24)46,000
Mae Sam yn cael ei fygwth wedi i un o'i gydweithwyr gael bai ar gam am ddwyn o'r warws. Mae Cai yn dwyn perswâd ar Sam i'w ddigolledu ac mae'r ddau'n mynd ati i gynllwynio lladrad. Mae Gina'n derbyn gwahoddiad swyddogol i ymuno â'r ymchwiliad llofruddiaeth ac mae dod o hyd un o weithwyr Stevie Rose, yn taflu goleuni newydd ar faterion busnes Stevie. Mae Sam a Cai yn cynnal lladrad sy'n siglo Cai i'r carn.
4"Pennod 4"Ashley WayRoger Williams1 Hydref 2017 (2017-10-01)39,000
Mae Cai'n awyddus i drefnu lladrad arall, ac yn dilyn ffrae gyda Ray mae Sam yn cytuno i dargedu busnes adeiladu ei lysdad. Mae'r lladrad yn mynd o chwith pan mae rhywun yn tarfu arnynt ac mae Cai'n gweithredu'n ddifeddwl. Mae'r digwyddiad yn codi ofn ar Cai ac mae'n dechrau ymddwyn yn fyrbwyll. Caiff Sam fraw wrth sylweddoli bod ymddygiad Cai wedi denu sylw'r heddlu. Mae Gina'n flin pan mae Layla'n ei hanfon hi adref o'r gwaith ac mae'n dod dan bwysau gan Patricia i roi gwybodaeth iddi am yr ymchwiliad i farwolaeth Stevie.
5"Pennod 5"Philip JohnRoger Williams8 Hydref 2017 (2017-10-08)36,000
Mae Sam yn poeni pan mae'r heddlu yn ei holi am Cai. Daw Gina o hyd i wybodaeth sy'n taflu goleuni newydd ar farwolaeth ei thad ac mae hyn yn arwain at sgwrs gyda Linda am y gorffennol. Mae Sam yn cyfarfod menyw o'r enw Ela sy'n troi ei fywyd wyneb i waered. Wedi noson wyllt, mae Sam yn chwarae gyda thân.
6"Pennod 6"Philip JohnRoger Williams15 Hydref 2017 (2017-10-15)33,000
Mae Gina a Luke yn dod o hyd i'r lladron wnaeth dargedu'r bar ac mae Sam ac Ela'n penderfynu diflannu am gyfnod. Tra'n aros mewn gwesty mae Sam ac Ela'n cymryd mantais o westai arall sy'n aros yno gydag oblygiadau torcalonnus i Sam. Mae Gina yn chwilio am fwy o wybodaeth am farwolaeth ei thad ac yn dewis dweud celwydd wrth Patricia.
7"Pennod 7"Philip JohnRoger Williams22 Hydref 2017 (2017-10-22)36,000
Caiff corff ei ddarganfod mewn coedwig sy'n mynd â'r ymchwiliad i farwolaeth Stevie Rose i gyfeiriad newydd. Mae Gina'n dechrau amau Sam ac mae'r gwir yn dod allan am y gwn. Mae'n rhaid i Gina wneud penderfyniad anodd iawn ac mae cyfarfod gyda Douglas Rose yn ei llorio hi. Daw dau wyneb o'r gorffennol i chwilio am Sam ac mae'n ofni am ei fywyd.
8"Pennod 8"Philip JohnRoger Williams29 Hydref 2017 (2017-10-29)40,000
Mae Rhys a Mel yn bygwth Ela er mwn dod o hyd i Sam a'r gwn ac mae gan Gina gwestiynau anodd i Linda am faint yn union yr oedd hi'n ei wybod am droseddau Gwyn. Caiff Gina fraw wrth ddarganfod bod Sam mewn perygl ac mae'n cytuno i roi'r gwn yn ôl i Rhys. Mae wyneb annisgwyl yn taro ar draws cyfarfod Gina a Rhys ac mae'r gwir am farwolaeth Stevie Rose yn cael ei ddatgelu. Mae Gina'n darganfod rhywbeth yn nhy Linda a Ray sy'n gwneud i Sam gofio beth yn union ddigwyddodd i'w dad.

Cyfres 2

golygu
# Teitl Cyfarwyddwr Awdur Darllediad cyntaf Gwylwyr [5]
1"Pennod 1"Philip JohnRoger Williams23 Chwefror 2020 (2020-02-23)25,000
Mae ymchwiliad llofruddiaeth yn cael ei lansio wedi i gorff gael ei ddarganfod mewn bocs ceffylau ar draeth.
2"Pennod 2"Philip JohnRoger Williams1 Mawrth 2020 (2020-03-01)27,000
Pan ddaw corff arall i'r amlwg, mae'r heddlu'n amau eu bod nhw'n chwilio am lofrudd cyfresol.
3"Pennod 3"Philip JohnRoger Williams8 Mawrth 2020 (2020-03-08)18,000
Mae'r llofrudd yn lladd unwaith eto, ac mae'r farwolaeth yn cael effaith ysgytwol ar Sam a Gina.
4"Pennod 4"Philip JohnRoger Williams15 Mawrth 2020 (2020-03-15)llai na 24,000
Daw'r heddlu ar draws Wynn Edwards, ac mae tystiolaeth newydd yn arwain at ddatguddiad arswydus.
5"Pennod 5"Philip JohnRoger Williams22 Mawrth 2020 (2020-03-22)llai na 24,000
Mae'r heddlu'n trefnu ymgyrch anarferol er mwyn ceisio dal y llofrudd ond mae popeth yn methu wedi i Harri ymyrryd.
6"Pennod 6"Philip JohnRoger Williams29 Mawrth 2020 (2020-03-29)25,000
Daw llinynnau'r stori ynghyd mewn diweddglo ffrwydrol, a daw'r gwir i'r golau unwaith ac am byth.

Cyfeiriadau

golygu
  1.  Tair drama i danio'r dychymyg - yn dechrau gyda Bang.... S4C (10 Awst 2017). Adalwyd ar 21 Awst 2017.
  2. Gwobrau BAFTA Cymru 2018 – yr enillwyr , Golwg360, 15 Hydref 2018.
  3. (Saesneg) Banijay Rights’ Welsh Noir Series BANG Makes Explosive Return in 2020. Adalwyd ar 6 Chwefror 2020.
  4.  Bang. Joio. Adalwyd ar 21 Awst 2017.
  5. 5.0 5.1 Ffigyrau gan S4C. Gweler [1], Ffigyrau Gwylio S4C.

Dolenni allanol

golygu