Nia Roberts (actores)

actores a aned yn 1972

Actores o Gymraes yw Nia Roberts (ganwyd 5 Gorffennaf 1972).[1] Mae'n briod a'r cyfarwyddwr Marc Evans.

Nia Roberts
Ganwyd5 Gorffennaf 1972 Edit this on Wikidata
Aberhonddu Edit this on Wikidata
Man preswylCaerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor Edit this on Wikidata
PriodMarc Evans Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.niaroberts.com/ Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar golygu

Ganwyd Roberts yn Aberhonddu, Powys, yr ifancaf o dair merch. Cymraeg yw ei mamiaith a fe aeth i ysgol gynradd Gymraeg Ysgol y Bannau rhwng 1975 a 1983. Roedd ei theulu'n aelodau gweithgar o grŵp drama amatur Theatr Fach Aberhonddu a fe dechreuodd actio yn saith mlwydd oed. Pum mlynedd yn ddiweddarach cafodd ei rhan gyntaf ar deledu fel y brif ferch yn "The Farm", drama Jackanory 30 munud ar gyfer BBC1.

Ar ôl cael deg TGAU a thri lefel A, ymunodd â Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Astudiodd actio ym Mhrifysgol Birmingham, lle cafodd radd gyda rhagoriaeth.

Gyrfa golygu

Daeth cyfle mawr Roberts yn 1998 pan gafodd ran yn y ffilm Solomon a Gaenor gyda Ioan Gruffudd. Cyfarwyddwyd y ffilm gan Paul Morrison. Aeth i'r clyweliad yn gwisgo sgidiau heicio a hen siwmper ddi-siâp oedd lawr i'w phengliniau, wedi treulio dau fis ar daith yn Ne America. Gyda deialog yn Gymraeg ac Iddew-Almaeneg, enillodd wobr y Ffilm Orau yng Ngŵyl Ffilm Verona 2000 a fe'i enwebwyd ar gyfer Ffilm Iaith Estron Gorau yng Nghwobrau'r Academi 2000.

Yn Gymraeg, fe aeth ymlaen i actio yn Fondue, Rhyw a Deinosors!, Y Palmant Aur, Glan Hafren a'r opera sebon Pobol y Cwm. Yn 2007 fe chwaraeodd ran Kirsti O'Shea yn y ddrama gangster Y Pris.

Yn gynnar yn ei gyrfa ymddangosodd Roberts sawl ar rhaglen deledu Prydeinig, yn cynnwys cyfresi gomedi Dr. Terrible's House of Horrible, y ddrama Border Café a sawl ymddangosiad un pennod yng nghyfresi Prydeinig fel The Bill and Casualty.

Serennodd Roberts mewn dwy ffilm wedi eu cyfarwyddo gan ei gŵr, Snow Cake yn 2006, drama yn edrych ar y gyfeillgarwch rhwng menyw gydag awtistiaeth gallu uchel a dyn yn dioddef trawma ar ôl damwain car angeuol, a Patagonia yn 2009, drama wedi ei gosod yn Y Wladfa, Yr Ariannin. Hefyd yn 2009 serennodd Roberts yn y ddrama ysbyty Crash! fel y cofrestrydd Mary Finch. Comisinywyd y ddrama gan BBC Wales ac fe'i cynhyrchwyd gan Tony Jordan.[2]

Yn 2010, roedd yn seren wadd yn stori dwy ran The Hungry Earth/Cold Blood ym mhumed cyfres Doctor Who. Dilynwyd hyn gan fwy o gynhyrchiadau sgrîn fawr, yn chwarae Hattie Dalton yn y ffilm Third Star (2010) a rhan Katie yn ffilm The Facility (2012) gan ffilmiau Vertigo, ffilm arswyd atmosfferig, cyllid-isel am wirfoddolwyr yn ymladd am eu bywyd ar ôl i brawf cyffuriau fynd o'i le.[3]

Yn 2014 fe ymddangos ym mhedwerydd stori gyfres Y Gwyll, y cynhyrchiad dwyieithog a ddarlledwyd yn Saesneg fel Hinterland.

Yn 2021 chwaraeodd ran Glenda yn y ffilm arswyd Gymraeg Gwledd.

Bywyd personol golygu

Mae'n briod a'r cyfarwyddwr Marc Evans ac mae'r cwpl yn byw yng Nghaerdydd; mae ganddynt ferch o'r enw Edith.[4]

Cyfeiriadau golygu

  1.  BBC - Canolbarth - Nia Roberts. BBC Cymru. Adalwyd ar 29 Mai 2021.
  2. "New Welsh drama to Crash onto our screens". Wales on Sunday. 2009-08-29. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-09-12. Cyrchwyd 2009-09-21.
  3. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-12-20. Cyrchwyd 2016-01-13.
  4. Simpson, Rin (2009-07-19). "Having children doesn't stop you doing things". Wales Online. Cyrchwyd 2009-09-21.

Dolenni allanol golygu