Kate Jarman

actores a aned yn 1980

Actores o Gymraes yw Kate Jarman (ganwyd 22 Ebrill 1980). Mae hi'n fwyaf adnabyddus am chwarae prif gymeriadau yn Hearts of Gold, Nice Girl a Pobol y Cwm. Fe'i ganwyd yng Nghaerdydd.

Kate Jarman
Ganwyd22 Ebrill 1980 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Addysg

golygu

Graddiodd Jarman o Goleg Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd, gyda gradd Baglor yn y Celfyddydau mewn actio, wedi'i ddilyn gan radd Meistr mewn Theatr Gerddorol.[1]

Yn 1999, tra dal yn ei blwyddyn gyntaf yn y coleg, castiwyd Jarman yn Nice Girl ar BBC2, a chyfarwyddwyd gan Dominic Savage. Roedd hi'n chwarae cymeriad Mel gyferbyn Steve Meo. Gan barhau â'i hastudiaethau yn y coleg, gweithiodd Jarman ar nifer o gynyrchiadau teledu, gan gynnwys ymddangos yng nghyfres HTV Nuts a Bolts (Cyfres 3 a 4), Score yn gweithio ochr yn ochr â Eve Myles, Sue Johnston a Robert Pugh a'r ffilm deledu Mindblowing a chyfarwyddyd gan Euros Lyn.

Yn 2003 castiwyd Jarman yn ei phrif rôl gyntaf, fel Bethan Powell yn y ddrama rhwydwaith dwy ran ar BBC1 Hearts of Gold[2] ochr yn ochr â Jeremy Sheffield, Geraldine James, David Troughton, Judy Parfitt a David Warner.[3]

Yn ogystal â'i rhannau mewn teledu a ffilm, mae Jarman wedi recordio nifer o lyfrau sain BBC.

Ymddangosodd Kate Jarman hefyd ym mhennod The Convent o Murphy's Law ar y BBC a Dose, ffilm fer a ysgrifennwyd gan Irvine Welsh. Yna aeth ymlaen i chwarae Erin Medi yn yr opera sebon Pobol Y Cwm.

Yn fwy diweddar ymddangosodd ar deledu Cymraeg yn y gyfres ddrama Alys (cyfres 1 a 2).

Bywyd personol

golygu

Mae hi'n byw ger Llantrisant.

Ffilmyddiaeth

golygu
  • 2000: Nice Girl - 'Mel' (ffilm deledu)
  • 2000: Iechyd Da - Mel
  • 2000: Diwrnod Hollol Mindblowing Heddiw - 'Alis'
  • 2001: Score - 'Sandra' (ffilm deledu)
  • 2002: A Mind to Kill - 'Tessa Kemp' (1 pennod: "Blood and Water")
  • 2003: Dose - 'Rhiannon' (ffilm deledu)
  • 2003: Hearts of Gold - 'Nurse Bethan Powell' (ffilm deledu)
  • 2004: Murphy's Law - 'Sr. Josephine' (1 pennod: Convent)
  • 2004: Bang Bang I Love You - 'Kate' (ffilm fer)
  • 2005: Pobol Y Cwm - 'Erin Medi'
  • 2006: Pobol Y Cwm - 'Erin Medi'
  • 2007: Pobol Y Cwm - 'Erin Medi'
  • 2010: Pen Talar - Fion
  • 2010: Alys - 'Angie' (cyfres 1, 8 pennod)
  • 2011: Alys - 'Angie' (cyfres 2, 8 pennod)

Radio a Sain

golygu
  • 2000, Radio, Karen, STATION ROAD, BBC Radio Wales
  • 2002, Radio, WOULDN'T IT BE BETTER IF HE DIED IN THE END, BBC Radio 4, Alison Hindell
  • 2003, Sain, THE HOMECOMING, BBC Audio Books, Catrin Collier
  • 2004, Sain, BEGGARS & CHOOSERS, BBC Audio Books, Catrin Collier
  • 2004, Sain, NO CHILD OF MINE, BBC Audio Books, Gwen Maddoc
  • 2004, Sain, THE OTHER WOMAN, BBC Audio Books, Iris Gower
  • 2005, Sain, WINNERS & LOSERS, BBC Audio Books, Catrin Collier
  • 2006, Sain, FINDERS & KEEPERS, BBC Audio Books, Catrin Collier
  • 2006, Sain, SINNERS & SHADOWS, BBC Audio Books, Catrin Collier
  • 2007, Sain, TIGER BAY BLUES, BBC Audio Books, Catrin Collier
  • 2007, Sain, TIGER RAGTIME, BBC Audio Books, Catrin Collier
  • 2008, Sain, Autobiography, TIME TO SAY HELLO, BBC Audio Books, kathryn Jenkins
  • 2008, Sain, ONE LAST SUMMER, BBC Audio Books, Catrin Collier
  • 2008, Sain, MAGDA'S DAUGHTER, BBC Audio Books, Catrin Collier
  • 2010, Sain, Reader, EMLYN'S MOON, BBC, Laura Northedge

Cyfeiriadau

golygu
  1. Kate Jarman CV Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback, KateJarman.co.uk.
  2. "Q&A: Kate Jarman". Wales Online. 4 Mawrth 2006. Cyrchwyd 10 Rhagfyr 2015.
  3. "Hearts Of Gold" (press release). BBC.co.uk. 6 Mehefin 2003. Cyrchwyd 28 Ionawr 2011.

Dolenni allanol

golygu