Bara brith
Bara llaith o Gymru sy'n cynnwys cyrens, rhesins neu syltanas, croen candi, a sbeis melys yw bara brith. Gweinir yn dafellau gyda menyn gan amlaf, am de'r prynhawn neu de mawr. Teisen furum yw bara brith yn draddodiadol, ond mae nifer o ryseitiau modern yn defnyddio ychwanegion megis soda pobi i'w lefeinio.[1]
Math | fruit bread, bwyd |
---|---|
Label brodorol | bara brith |
Rhan o | Coginiaeth yr Ariannin, Coginiaeth Cymru |
Yn cynnwys | baker's yeast |
Enw brodorol | bara brith |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn wreiddiol câi bara brith ei pharatoi ar ddiwrnod pobi bara trwy ychwanegu siwgr, bloneg, ffrwythau sych a sbeis at does. Yn raddol, datblygodd y cymysgedd yn un fwy cyfoethog a defnyddiwyd burum i'w godi. Daeth y torth yn deisen amser te ar gyfer achlysuron arbennig mewn cymunedau amaethyddol a diwydiannol, megis y cynhaeaf gwair neu lafur, diwrnod dyrnu neu gneifio, a'r Nadolig.[2] Yng nghymoedd diwydiannol y de-ddwyrain yr enw arni yw teisen dorth.[3]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Alan Davidson. The Oxford Companion to Food, 3ydd argraffiad (gol. Tom Jaine; Rhydychen, Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2014), t. 62.
- ↑ S. Minwel Tibbott. Geirfa'r Gegin (Amgueddfa Werin Cymru, 1983), t. 2.
- ↑ John Davies et al. (gol.) Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 2008), t. 66 [BARA BRITH].