Barbara Honigmann
Awdures Almaenig yw Barbara Honigmann (ganwyd 12 Chwefror 1949) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel cymhyrchydd theatr ac arlunydd.
Barbara Honigmann | |
---|---|
Ganwyd | 12 Chwefror 1949 Dwyrain Berlin |
Dinasyddiaeth | Yr Almaen |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, arlunydd |
Tad | Georg Honigmann |
Mam | Litzi Friedmann |
Priod | Peter Honigmann |
Gwobr/au | Gwobr Llenyddiaeth Aspekte, Gwobr Max Frisch, Gwobr Ricarda-Huch, Nicolas-Born-Preis für Lyrik, Gwobr Lenyddol Elisabeth Langgässer, Gwobr Llenyddiaeth Dinas Bremen, Gwobr Goethe, Jeanette Schocken Prize, Q130355158 |
Fe'i ganed yn wyrain Berlin ar 12 Chwefror 1949. [1][2][3]
Magwraeth
golyguDihangodd ei rhieni Iddewig o'r Almaen yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gan ymsefydlu yn Lloger, cyn dychwelyd i Ferlin yn 1947, lle ganed Barbara Honigmann. Ei mam oedd Litzi Friedman (1910-1991) a elwir hefyd yn Alice nee Kohlmann, a'i thad oedd Georg Honigmann, Ph.D (1903-1984). Ganed ei mam yn Fienna, Awstria a gweithiodd yn dybio ffilmiau. Ganed ei thad yn Wiesbaden, yr Almaen ac roedd yn brif olygydd y "Berliner Zeitung" ac yn wneuthurwr ffilmiau. Ysgarodd y ddau yn 1954, a Barbara'n ddim ond 6 oed.[4]
Rhwng 1967 a 1972, astudiodd theatr ym Mhrifysgol Humboldt yn Nwyrain Berlin. Yna bu'n gweithio fel dramodydd a chyfarwyddwr yn Brandenburg a Berlin am rai blynyddoedd. Mae hi wedi bod yn awdur llawrydd ers 1975. Yn 1981, priododd Peter Obermann a gymerodd ei chyfenw'n ddiweddarach; aeth y ddau ymlaen i gael dau blentyn gyda'i gilydd, Johannes (g. 1976) a Ruben (g.1983). Ym 1984, gadawodd hi a Peter y GDR a symudodd y teulu i gymuned Iddewig (a hanai o'r Almaen) yn Strasbourg, Ffrainc.[5]
[6][7]
Theatr
golyguGweithiodd Honigmann am flynyddoedd lawer mewn theatr. Yn ogystal â gweithio yn Brandenburg, gweithiodd hefyd yn y Deutsches Theatre yn Berlin. Yn ddiweddarach newidiwyd rhai o'r dramâu a ysgrifennodd yn ddramâu radio. Mae gan ei dramâu a'i dramâu radio elfennau o straeon tylwyth teg neu fywydau hanesyddol wedi'u gweu ynddynt. Dyfarnwyd un o ddramâu radio Honigmann yn "ddrama radio y mis" gan Orsaf Radio De'r Almaen.
Aelodaeth
golyguBu'n aelod o Academi y Gwyddorau a Llenyddiaeth, a'r Academi Iaith a Barddoniaeth Almaeneg am rai blynyddoedd.
Anrhydeddau
golygu- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Llenyddiaeth Aspekte (1986), Gwobr Max Frisch (2011), Gwobr Ricarda-Huch (2015), Nicolas-Born-Preis für Lyrik (1994), Gwobr Lenyddol Elisabeth Langgässer (2012), Gwobr Llenyddiaeth Dinas Bremen (2020), Gwobr Goethe (2023), Jeanette Schocken Prize (2001), Q130355158 (2024)[8][9] .
- 1986 - Aspekte-Literaturpreis
- 1992 - Stefan-Andres-Preis
- 1994 - Nicolas-Born-Preis
- 1996 - Ehrengabe der Deutschen Schillerstiftung
- 2000 - Kleist Prize
- 2001 - Jeanette-Schocken-Preis
- 2004 - Solothurner Literaturpreis
- 2004 -Koret Jewish Book Award
Gwaith
golygu- Das singende, springende Löweneckerchen, Berlin 1979
- Der Schneider von Ulm, Berlin 1981
- Don Juan, Berlin 1981
- Roman von einem Kinde, Darmstadt [u.a.] 1986 ISBN 3-423-12893-3
- Eine Liebe aus nichts, Reinbek: Rowohlt 1991 ISBN 3-499-13245-1
- Soharas Reise, Berlin 1996 ISBN 3-499-22495-X
- Am Sonntag spielt der Rabbi Fußball, Heidelberg: Wunderhorn 1998 ISBN 3-88423-134-0
- Damals, dann und danach, München: Hanser 1999 ISBN 3-446-19668-4
- Alles, alles Liebe!, Munich: dtv 2000 ISBN 3-423-13135-7
- Ein Kapitel aus meinem Leben, Munich: Hanser 2004 ISBN 3-446-20531-4
- Das Gesicht wiederfinden. Über Schreiben, Schriftsteller und Judentum, Munich: Hanser 2006 ISBN 3-446-20681-7 & ISBN 978-3-446-20681-6
- Blick übers Tal. Zu Fotos von Arnold Zwahlen Basel/Weil am Rhein: Engeler 2007, ISBN 978-3-938767-38-2
- Das überirdische Licht: Rückkehr nach New York, Munich: Hanser 2008 ISBN 3-446-23085-8 & ISBN 978-3-446-23085-9
- Bilder von A., Munich: Hanser 2011 ISBN 3-446-23742-9 & ISBN 978-3-446-23742-1
- Chronik meiner Straße, Munich: Hanser 2015 ISBN 3-446-24762-9 & ISBN 978-3-446-24762-8
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Rhyw: Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 14 Gorffennaf 2024.
- ↑ Dyddiad geni: "Barbara Honigmann". "Barbara Honigmann". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 12 Rhagfyr 2014
- ↑ "Barbara Honigmann | Jewish Women's Archive". jwa.org. Cyrchwyd 2018-12-10.
- ↑ "Barbara Honigmann - Was verbindet den Talmud und Ihre Romane?". Deutschlandfunk Kultur (yn Almaeneg). Cyrchwyd 2018-12-10.
- ↑ Man gwaith: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 30 Mawrth 2015
- ↑ Anrhydeddau: http://jeanette-schocken-preis.de/?p=33. https://www.juedische-allgemeine.de/kultur/barbara-honigmann-erhaelt-jehuda-amichai-literaturpreis/.
- ↑ http://jeanette-schocken-preis.de/?p=33.
- ↑ https://www.juedische-allgemeine.de/kultur/barbara-honigmann-erhaelt-jehuda-amichai-literaturpreis/.