Yn y traddodiad Cymreig, tywysog a oedd yn fardd cydnabyddedig yn ogystal oedd bardd-dywysog.

Bardd-dywysog

Yr enghreifftiau amlycaf o feirdd-dywysogion yw Hywel ab Owain Gwynedd o Wynedd ac Owain Cyfeiliog (Owain ap Gruffudd ap Maredudd) o Bowys.

Mae bodolaeth tywysogion a fedrai farddoni cystal â'r beirdd proffesiynol eu hun yn brawf arall fod rhai o'r beirdd llys Cymraeg yn hyfforddi aelodau o'r teuluoedd brenhinol Cymreig. Dim ond rhywun a oedd wedi derbyn ei addysg yn y grefft gan fardd cydnabyddedig oedd yn gymwys i fod yn fardd cyflawn ei hun.

Gweler hefyd golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.