Llyfr gan Llion Jones sy’n dilyn taith gofiadwy o Andorra i Lyon tîm pêl-droed Cymru yng nghystadleuaeth Ewro 2016 drwy eiriau bardd yw Bardd ar y Bêl: Y Lôn i Lyon. Cyhoeddwyd y llyfr gan Gyhoeddiadau Barddas yn 2016.

Mae'r gyfrol yn dal blas haf hynod 2016 ac yn dathlu llwyddiant y tîm cenedlaethol ar hyd pob cam o'r daith. Gyda lluniau trawiadol gan ffotograffydd swyddogol y Gymdeithas Bel-Droed, mae'r llyfr yn gofnod lliwgar o gamp Chris Coleman a tim Cymru Ewro 2016.

Meddai Osian Roberts, hyfforddwr y tîm cenedlaethol, yn ei gyflwyniad i'r gyfrol: "Mae’r gyfrol hon yn rhoi cyfnod rhyfeddol yn hanes pêl-droed ar gof a chadw, a hynny ar odl a chynghanedd. Rwy’n gwybod y cewch fodd i fyw yn aildroedio’r lôn i Lyon."

Cafodd y gyfrol ei lansio mewn noson arbennig o dan arweiniad Nic Parry yn Stiwdio Pontio, 21 Tachwedd 2016.

Eginyn erthygl sydd uchod am lyfr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.