Pencampwriaeth UEFA Euro 2016

Pencampwriaeth Pêl-droed UEFA Euro 2016, a gyfeirir ato yn aml fel Euro 2016, oedd y 15fed Pencampwriaeth Ewrop ar gyfer timau pêl-droed cenedlaethol dynion a drefnwyd gan UEFA. Fe'i cynhaliwyd yn Ffrainc rhwng 10 Mehefin hyd 10 Gorffennaf 2016.[1][2]

UEFA Ewro 2016
Championnat d'Europe de football 2016 (Ffrangeg)
Logo Swyddogol UEFA Ewro 2016
Le Rendez-Vous
Manylion
CynhaliwydFfrainc
Dyddiadau10 Mehefin – 10 Gorffennaf 2016
Timau24
Lleoliad(au)10 (mewn 10 dinas)
2012
2020

Roedd 24 o dimau yn cystadlu ym Mhencampriaeth Ewrop am y tro cyntaf wedi i UEFA godi nifer y timau o 16 (oedd wedi cystadlu yn y rowndiau terfynol ers 1996) i 24.[3]. O dan y fformat newydd roedd 24 tîm yn cystadlu mewn chwe grŵp o bedwar gydag 16 o dimau yn camu ymlaen i'r rownd nesaf. Roedd Ffrainc yn y rowndiau terfynol fel y wlad oedd yn cynnal y gystadleuaeth. Cystadleuodd 53 o wledydd UEFA rhwng Medi 2014 a Tachwedd 2015 am y 23 o lefydd eraill oedd yn weddill. Yn eu mysg roedd y deiliaid, Sbaen, ac am y tro cyntaf ers ymuno ag UEFA, Gibraltar.

Dewis Lleoliad

golygu

Roedd pedwar cais i gynnal y gystadleuaeth wedi dod ger bron UEFA cyn y dyddiad cau ar 9 Mawrth 2009 sef Ffrainc, Twrci, Yr Eidal a chais ar cyd rhwng Norwy a Sweden[4] ond tynodd Norwy a Sweden eu cais yn ôl ym mis Rhagfyr 2009[5]

Dewisiwyd y lleoliad ar 28 Mai 2010 gyda Ffrainc yn ennill y nifer fwyaf o bleidleisiau (43 dewis cyntaf a 7 ail bleidlais) gyda Thwrci yn ail (38 a 6) a'r Eidal yn drydydd (23 pleidlais)[6].

Canlyniadau'r etholiad
Gwlad Rownd[7]
1af (pwyntiau) 2il (pleidleisiau)
  Ffrainc 43 7
  Twrci 38 6
  Yr Eidal 23
Cyfanswm 104 13
  • Rownd 1: Roedd pob un o'r 13 aelod ar Bwyllgor Gweithredol UEFA yn gosod y tri chais yn gyntaf, ail a thrydydd. Roedd safle cyntaf yn derbyn 5 pwynt, ail yn derbyn 2 bwynt a thrydydd yn derbyn 1 pwynt.
  • Rownd 2: Roedd yr un aelodau yn pleidleisio am un o'r ddwy wlad gyrhaeddodd yr ail rownd.

Rowndiau rhagbrofol

golygu

Roedd Ffrainc yn cyrraedd y rowndiau terfynol fel y sawl sy'n cynnal y gystadleuaeth gyda 53 o wledydd UEFA yn cystadlu rhwng Medi 2014 a Tachwedd 2015 am y 23 o lefydd eraill yn weddill. Daeth yr enwau allan o'r het ar gyfer y gemau rhagbrofol yn y Palais des Congres Acropolis, Nice ar 23 Chwefror 2014 gyda'r timau yn cael eu rhannu i wyth grŵp o chwe tîm ac un grŵp o bump tîm.

Roedd enillwyr pob grŵp, y timau yn yr ail safle a'r tîm oedd â'r record gorau o'r holl dimau yn y trydydd safle yn sicrhau eu lle yn y rowndiau terfynol. Roedd yr wyth tîm arall orffennodd yn y trydydd safle yn wynebu ei gilydd mewn gemau ail gyfle ar gyfer y pedwar lle arall yn y rowndiau terfynol.[8][9][10]

Timau llwyddiannus

golygu

Didoli

golygu

Daeth yr enwau allan o'r het ar gyfer y rowndiau terfynol yn y Palais des congrès de Paris ym Mharis ar 12 Rhagfyr 2015.[1][2][11].

Pot 1
Tîm Cyfernod Safle
  Sbaen 37,962 2
  yr Almaen 40,236 1
  Lloegr 35,963 3
  Portiwgal 35,138 4
  Gwlad Belg 34,442 5
Pot 2
Team Coeff Rank
  yr Eidal 34,345 6
  Rwsia 31,345 9
  y Swistir 31,254 10
  Awstria 30,932 11
  Croatia 30,642 12
  Wcráin 30,313 14
Pot 3
Team Coeff Rank
  Y Weriniaeth Tsiec 29,403 15
  Sweden 29,028 16
  Gwlad Pwyl 28,306 17
  Romania 28,038 18
  Slofacia 27,171 19
  Hwngari 27,142 20
Pot 4
Team Coeff Rank
  Twrci 27,033 22
  Iwerddon 26,902 23
  Gwlad yr Iâ 25,388 27
  Cymru 24,531 28
  Albania 23,216 31
  Gogledd Iwerddon 22,961 33

Lleoliadau

golygu

Cafwyd 12 stadiwm yn rhan o gais gwreiddiol Ffrainc ar 28 Mai 2010 gyda Ffederasiwn Bêl-droed Ffrainc yn bwriadu cwtogi'r rhestr i naw stadiwm erbyn mis Mai 2011. Yn ogystal â'r Stadiwm Genedlaethol, y Stade de France, roedd pedair stadiwm newydd i'w hadeiladu yn Lille, Lyon, Nice a Bordeaux, a phenderfynwyd cynnal gemau hefyd yn y ddwy ddinas fwyaf, Paris a Marseille.

Tynodd Strasbourg yn ôl ar ôl i'r clwb ddisgyn allan o Ligue 1 [12] a dewisiwyd Lens a Nancy gyda Saint-Étienne a Toulouse yn cael eu gosod ar y rhestr wrth gefn.

Ym mis Mehefin 2011, wedi i'r gystadleuaeth gael ei hymestyn i 24 tîm, penderfynwyd codi nifer y meysydd i 11[13] gan olygu y byddai Toulouse a Saint-Étienne yn cael eu defnyddio, ond ym mis Rhagfyr 2011 tynodd Nancy yn ôl wedi i'w cynlluniau i uwchraddio'r stadiwm fethu[14] gan adael deg lleoliad ar gyfer y bencampwriaeth.

Y Stade de la Beaujoire yn Nantes a'r Stade de la Mosson ym Montpellier yw'r lleoliadau fu'n rhan o Gwpan y Byd 1998 na gafwyd eu defnyddio eto yn 2014.

Saint-Denis 2 5 Marseille 1 2 3 4 Lyon 1 2 4 5 Lille
Stade de France Stade Vélodrome Parc Olympique Lyonnais Stade Pierre-Mauroy
48°55′28″N 2°21′36″E / 48.92444°N 2.36000°E / 48.92444; 2.36000 (Stade de France) 43°16′11″N 5°23′45″E / 43.26972°N 5.39583°E / 43.26972; 5.39583 (Stade Vélodrome) 45°45′56″N 4°58′52″E / 45.76556°N 4.98111°E / 45.76556; 4.98111 (Stade des Lumières) 50°36′43″N 3°07′50″E / 50.61194°N 3.13056°E / 50.61194; 3.13056 (Stade Pierre-Mauroy)
Uchafswm Torf: 81,338 Uchafswm Torf: 67,500
(uwchraddwyd)
Uchafswm Torf: 58,215
(stadiwm newydd)
Uchafswm Torf: 50,186
(stadiwm newydd)
   
 
 
 
Pencampwriaeth UEFA Euro 2016 (France)
 
Paris 1 2 3 4 Bordeaux 1 2
Parc des Princes Nouveau Stade de Bordeaux
48°50′29″N 2°15′11″E / 48.84139°N 2.25306°E / 48.84139; 2.25306 (Parc des Princes) 44°53′50″N 0°33′43″W / 44.89722°N 0.56194°W / 44.89722; -0.56194 (Bordeaux)
Uchafswm Torf: 48,712
(uwchraddwyd)
Uchafswm Torf: 42,052
(stadiwm newydd)
   
   
Saint-Étienne 2 4 5 Nice Lens 2 4 Toulouse 1 2
Stade Geoffroy-Guichard Allianz Riviera Stade Félix-Bollaert Stadium Municipal
45°27′39″N 4°23′24″E / 45.46083°N 4.39000°E / 45.46083; 4.39000 (Saint-Étienne) 43°42′25″N 7°11′40″E / 43.70694°N 7.19444°E / 43.70694; 7.19444 (Nice) 50°25′58.26″N 2°48′53.47″E / 50.4328500°N 2.8148528°E / 50.4328500; 2.8148528 (Lens) 43°34′59″N 1°26′3″E / 43.58306°N 1.43417°E / 43.58306; 1.43417 (Toulouse)
Uchafswm Torf: 41,965
(uwchraddwyd)
Uchafswm Torf: 35,624
(stadiwm newydd)
Uchafswm Torf: 38,223
(uwchraddwyd)
Uchafswm Torf: 33,300
(uwchraddwyd)
       
^1 – Cynhaliwyd gemau yng Nghwpan y Byd 1938
^2 – Cynhaliwyd gemau yng Nghwpan y Byd 1998
^3 – Cynhaliwyd gemau yng Cwpan Cenhedloedd Ewrop 1960
^4 – Cynhaliwyd gemau yng Euro 1984
^5 – Cynhaliwyd gemau yng Cwpan Conffederasiynau FIFA 2003
^6 – Amcangyfrifir maint y torfeydd

Rownd y Grwpiau

golygu

Grŵp A

golygu
Tîm Chw E Cyf C + - GG Pt
  Ffrainc 3 2 1 0 4 1 +3 7
  y Swistir 3 1 2 0 2 1 +1 5
  Albania 3 1 0 2 1 3 -2 3
  Romania 3 0 1 2 2 4 -2 1
10 Mehefin 2016
21:00
Ffrainc   2 – 1   Romania
Giroud   57'
Payet   89'
Stancu   65' (c.o.s.)
Stade de France, Saint-Denis
Torf: 75,113
Dyfarnwr: Viktor Kassai (Hwngari)
11 Mehefin 2016
15:00
Albania   0 – 1   y Swistir
Schär   5'
Stade Bollaert-Delelis, Lens
Torf: 33,805
Dyfarnwr: Carlos Velasco Carballo (Sbaen)

15 Mehefin 2016
18:00
Rwmania   1 – 1   y Swistir
Stancu   18' (c.o.s.) Mehmedi   57'
Parc des Princes, Paris
Torf: 43,576
Dyfarnwr: Sergei Karasev (Rwsia)
15 Mehefin 2016
21:00
Ffrainc   2 – 0   Albania
Griezmann   90'
Payet   90+6'
Stade Vélodrome, Marseille
Torf: 63,670
Dyfarnwr: Willie Collum (Yr Alban)

19 Mehefin 2016
21:00
y Swistir   0 – 0   Ffrainc
Stade Pierre-Mauroy, Lille
Torf: 45,616
Dyfarnwr: Damir Skomina (Slofenia)
19 Mehefin 2016
21:00
Rwmania   0 – 1   Albania
Sadiku   43'
Stade des Lumières, Lyon
Torf: 49,752
Dyfarnwr: Pavel Královec (Y Weriniaeth Tsiec)

Grŵp B

golygu
Tîm Chw E Cyf C + - GG Pt
  Cymru 3 2 0 1 6 3 +3 6
  Lloegr 3 1 2 0 3 2 +1 5
  Slofacia 3 1 1 1 3 3 0 4
  Rwsia 3 0 1 2 2 6 -4 1
11 Mehefin 2016
18:00
Cymru   2 – 1   Slofacia
Bale   10'
Robson-Kanu   81'
Duda   61'
Nouveau Stade de Bordeaux, Bordeaux
Torf: 37,831
Dyfarnwr: Svein Oddvar Moen (Norwy)
11 Mehefin 2016
21:00
Lloegr   1 – 1   Rwsia
Dier   73' Berezutski   90+2'
Stade Vélodrome, Marseille
Torf: 62,343
Dyfarnwr: Nicola Rizzoli (Yr Eidal)

15 Mehefin 2016
18:00
Rwsia   1 – 2   Slofacia
Glushakov   80' Weiss   32'
Hamšík   45'
Stade Pierre-Mauroy, Lille
Torf: 38,989
Dyfarnwr: Damir Skomina (Slofenia)
16 Mehefin 2016
15:00
Lloegr   2 – 1   Cymru
Vardy   56'
Sturridge   90+2'
Bale   42'
Stade Bollaert-Delelis, Lens
Torf: 34,033
Dyfarnwr: Felix Brych (Yr Almaen)

20 Mehefin 2016
21:00
Slofacia   0 – 0   Lloegr
Stade Geoffroy-Guichard, Saint-Étienne
Torf: 39,051
Dyfarnwr: Carlos Velasco Carballo (Sbaen)
20 Mehefin 2016
21:00
Rwsia   0 – 3   Cymru
Ramsey   11'
Taylor   20'
Bale   67'
Stadium Municipal, Toulouse
Torf: 28,840
Dyfarnwr: Jonas Eriksson (Sweden)

Grŵp C

golygu
Tîm Chw E Cyf C + - GG Pt
  yr Almaen 3 2 1 0 3 0 +3 7
  Gwlad Pwyl 3 2 1 0 2 0 +2 7
  Gogledd Iwerddon 3 1 0 2 2 2 0 3
  Wcráin 3 0 0 3 0 5 -5 0
12 Mehefin 2016
18:00
Gwlad Pwyl   1-0   Gogledd Iwerddon
12 Mehefin 2016
21:00
yr Almaen   2-0   Wcráin

16 Mehefin 2016
21:00
yr Almaen   0-0   Gwlad Pwyl

21 Mehefin 2016
18:00
Wcráin   0-1   Gwlad Pwyl

Grŵp D

golygu
Tîm Chw E Cyf C + - GG Pt
  Croatia 3 2 1 0 5 3 +2 7
  Sbaen 3 2 0 1 5 2 +3 6
  Twrci 3 1 0 2 2 4 -2 3
  Y Weriniaeth Tsiec 3 0 1 2 2 5 -3 1
12 Mehefin 2016
15:00
Twrci   0-1   Croatia

17 Mehefin 2016
21:00
Sbaen   3-0   Twrci

21 Mehefin 2016
21:00
Croatia   2-1   Sbaen

Grŵp E

golygu
Tîm Chw E Cyf C + - GG Pt
  yr Eidal 3 2 0 1 3 1 +2 6
  Gwlad Belg 3 2 0 1 4 2 +2 6
  Gweriniaeth Iwerddon 3 1 1 1 2 4 −2 4
  Sweden 3 0 1 2 1 3 −2 1
13 Mehefin 2016
21:00
Gwlad Belg   0-2   yr Eidal

17 Mehefin 2016
15:00
yr Eidal   1-0   Sweden

22 Mehefin 2016
21:00
Sweden   0-1   Gwlad Belg

Grŵp F

golygu
Tîm Chw E Cyf C + - GG Pt
  Hwngari 3 1 2 0 6 4 +2 5
  Gwlad yr Iâ 3 1 2 0 4 3 +1 5
  Portiwgal 3 0 3 0 4 4 0 3
  Awstria 3 0 1 2 1 4 -3 1

18 Mehefin 2016
18:00
Gwlad yr Iâ   1-1   Hwngari
18 Mehefin 2016
21:00
Portiwgal   0-0   Awstria

22 Mehefin 2016
18:00
Gwlad yr Iâ   2-1   Awstria
22 Mehefin 2016
18:00
Hwngari   3-3   Portiwgal

Rowndiau Olaf

golygu
Rownd yr 16 Rownd yr Wyth Olaf Rownd Gynderfynol Rownd Derfynol
                           
25 Mehefin - Saint-Étienne            
   y Swistir  1 (4)
30 Mehefin - Marseilles
   Gwlad Pwyl (c.o.s.)  1 (5)  
   Gwlad Pwyl  1 (3)
25 Mehefin - Lens
     Portiwgal (c.o.s.)  1 (5)  
   Croatia  0
6 Gorffennaf - Lyon
   Portiwgal  1  
   Portiwgal  2
25 Mehefin - Paris
     Cymru  0  
   Cymru  1
1 Gorffennaf - Lille
   Gogledd Iwerddon  0  
   Cymru  3
26 Mehefin - Toulouse
     Gwlad Belg  1  
   Hwngari  0
10 Gorffennaf - Saint-Denis
   Gwlad Belg  4  
   Portiwgal  1
26 Mehefin - Lille
     Ffrainc  0
   yr Almaen  3
2 Gorffennaf - Bordeaux
   Slofacia  0  
   yr Almaen (c.o.s.)  1 (6)
27 Mehefin - Saint-Denis
     yr Eidal  1 (5)  
   yr Eidal  2
7 Gorffennaf - Marseilles
   Sbaen  0  
   yr Almaen  0
26 Mehefin - Lyon
     Ffrainc  2  
   Ffrainc  2
3 Gorffennaf - Saint-Denis
   Gweriniaeth Iwerddon  1  
   Ffrainc  5
27 Mehefin - Nice
     Gwlad yr Iâ  2  
   Lloegr  1
   Gwlad yr Iâ  2  

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 "UEFA EURO 2016: key dates and milestones". UEFA.com. 2013-02-01.
  2. 2.0 2.1 "UEFA EURO 2016 steering group meets in Paris". UEFA.com. 2012-10-23.
  3. "UEFA approves 24-team Euro from 2016". UEFA.com. Union of European Football Associations. 2008-09-27.
  4. "Four candidates signal UEFA Euro 2016 interest". UEFA.com. Union of European Football Associations. 2009-03-11. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-01-07. Cyrchwyd 2015-06-18.
  5. "Regeringen säger nej till EM 2016-ansökan". Swedish Football Association (yn Swedeg). 2009-12-09.CS1 maint: unrecognized language (link)
  6. "France chosen to host Euro 2016". UEFA.com. Union of European Football Associations. 2010-05-28.
  7. AFP: France win race to host Euro 2016
  8. "UEFA EURO 2016 qualifying format". UEFA.com.
  9. "UEFA EURO 2016 regulations published". UEFA.com. 18 December 2013.
  10. "Regulations of the UEFA European Football Championship 2014-16" (PDF). UEFA.com.
  11. "Finals draw". UEFA.com.
  12. "Strasbourg se rétracte". Sport24 (yn Ffrangeg). 2011-07-29. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-08-13. Cyrchwyd 2015-06-18.CS1 maint: unrecognized language (link)
  13. Bisson, Mark (2011-07-17). "France gets go-ahead to stage Euro 2016 in 11 host cities". World Football Insider. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-03. Cyrchwyd 2015-06-18.
  14. "Nancy renonce à accueillir l'Euro 2016". Agence France-Presse (yn Ffrangeg). Le Monde. 2011-12-02.CS1 maint: unrecognized language (link)