Llion Jones

Bardd ac academydd o Gymro

Mae Llion Elis Jones (ganwyd 1964) yn brifardd, beirniad ac academydd. Magwyd ef yn Abergele ond mae bellach yn byw ym Mhenrhosgarnedd. Ef yw Cyfarwyddwr Canolfan Bedwyr, canolfan gwasanaethau, technoleg ac ymchwil Cymraeg Prifysgol Bangor a datblygu adnoddau technoleg iaith yn y Gymraeg.

Llion Jones
GanwydLlion Elis Jones Edit this on Wikidata
1964 Edit this on Wikidata
Llanelwy Edit this on Wikidata
Man preswylPenrhosgarnedd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethacademydd, bardd Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.llionjones.com/ Edit this on Wikidata

Barddoni golygu

Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli a'r Cylch 2000 am ei gerdd, Rhithiau o dan y llysenw, 'Di-lycs'.[1] Mae hefyd yn golofnwyr rheolaidd i'r cylchgrawn farddonol, Barddas a sylfaenydd a golygydd gwefan farddoniaeth 'Yr Annedd' bu'n rhedeg rhwng 1998-2018.[2]

Mae Llion Jones yn aelod o dîm Talwrn y Beirdd llwyddiannus, Caernarfon.[3]

Cyhoeddidau golygu

Mae wedi cyhoedd tri chasgliad o gerddi, sef:[4][5]

Cyrhaeddodd Trydar mewn Trawiadau restr fer cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn 2013 a chipio gwobr 'Barn y Bobl'.

Canu golygu

Bu'n aelod o grŵp pop Eryr Wen yn yr 1980au. Enillodd y grŵp cystadleuaeth Cân i Gymru yn 1987 gyda'i cân, 'Gloria Tyrd Adre'.[6] Ysgrifennodd hefyd geiriau i'r gân Nos Da Nostalgia pan oedd yn Fardd y Mis ar BBC Radio Cymru.[7] a bu'n Trac yr Wythnos [8] ar Radio Cymru ar wythnos 25-29 Ebrill 2016. Cenir y gân gan Cadi Gwen.

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu