Barddoniaeth Fictoraidd

Cyfnod yn hanes barddoniaeth Saesneg Lloegr, ac hefyd yr Alban, Cymru ac Iwerddon, sydd yn cyfateb i deyrnasiad y Frenhines Fictoria (1837–1901) yw barddoniaeth Fictoraidd. Oes o newid cymdeithasol, gwleidyddol, a thechnolegol enfawr ydoedd, ac adlewyrchir y datblygiadau hyn gan feirdd cyfoes. Er ei bod yn amrywio'n eang o ran ffurf a mesur, cynnwys a thema, ac arddull a thechneg, ac yn cwmpasu sawl mudiad a thueddiad gwahanol, yn gyffredinol nodweddir barddoniaeth Fictoraidd gan bwyslais ar draddodiad a'r gorffennol yn ogystal ag archwilio ffurfiau ac arddulliau newydd. Âi nifer o feirdd Fictoraidd i'r afael â materion cymdeithasol a gwleidyddol y cyfnod, megis diwydiannu, tlodi, ac hawliau merched, ac ymdrinir eu gwaith â phynciau o bob math, gan gynnwys serch, natur, crefydd, a chyfiawnder cymdeithasol.

Alfred, yr Arglwydd Tennyson.

Yn ystod Oes Fictoria, wynebai crefydd yn Lloegr amheuaeth ac ansicrwydd oherwydd y darganfyddiadau gwyddonol a berodd i Gristnogion gwestiynau eu ffydd. Cafwyd trawsnewidiadau cymdeithasol enfawr o ganlyniad i ddiwydiannaeth, cynnydd technolegol, trefoli, a thwf yr Ymerodraeth Brydeinig, ac adlewyrchir yr amryw ymatebion i'r newidiadau hyn ym marddoniaeth y cyfnod. Mynegir pryder am fateroliaeth a "Chynnydd" yng ngwaith cynnar Alfred, yr Arglwydd Tennyson, ac yn ei alargan "In Memoriam A. H. H." (1850) fe gofleidiai ffydd mewn ymateb i'w iselder o ganlyniad i farwolaeth ei gyfaill annwyl. Canfuwyd Tennyson hefyd cysur ac addewid yn hanes traddodiadol Lloegr, sydd yn bwnc ei arwrgerdd "Idylls of the King" (1859–62).

Themâu hollbresennol ym marddoniaeth Robert Browning a Matthew Arnold hefyd oedd ffydd ac amheuaeth. Er i ambell feirniad ddehongli sicrwydd crefyddol yn treiddio gwaith Browning, fe nodir hefyd gan ddyfnder seicolegol ac ymwybyddiaeth o lygredigaeth ddynol. Mewn cyferbyniad â Browning, Arnold ydy'r bardd sy'n cynrychioli gorau amheuaeth ac ymddieithriad Oes Fictoria, yn enwedig yn ei gerdd hiraethus "Dover Beach".

Er i Tennyson a beirdd eraill ysgrifennu yn arddull lefn, soniarus y traddodiad Seisnig, bu to newydd o lenorion yn arbrofi gyda dulliau a mesurau newydd. Defnyddir iaith lafar a rhythmau anrheolaidd gan Browning, ac mae'r rhain yn amlwg yn ei ymsonau dramatig megis "My Last Duchess". Roedd ei wraig, Elizabeth Barrett Browning, yn cyfansoddi sonedau serch, cyfrwng a feistrolwyd hefyd gan George Meredith. Roedd cyfieithiad Edward FitzGerald o'r Rubaiyat (1857–59), cerddi Perseg o'r 12g gan Omar Khayyam, yn hynod o boblogaidd. Ym marddoniaeth Arthur Hugh Clough, mynegir sgeptigiaeth grefyddol yn debyg i'w gyfoeswr Matthew Arnold, a hynny mewn modd eironig braidd.

Yng nghanol y 19g sefydlwyd y Cyn-Raffaëliaid, mudiad o arlunwyr a llenorion a efelychasant arddulliau cyntefig. Arweinydd y beirdd Cyn-Raffaëlaidd oedd Dante Gabriel Rossetti, a ddefnyddiai iaith liwgar a mesur llyfn. Nodai telynegion ei chwaer Christina Rossetti gan deimladrwydd crefyddol iawn. Roedd Algernon Charles Swinburne yn Gyn-Raffaëliad yn gynnar yn ei yrfa, ac yn ddiweddarach fe arbrofai â mesur a sain ei farddoniaeth.

Rudyard Kipling

Yng nghyfnod diweddar Oes Fictoria datblygodd sawl tuedd annibynnol ym marddoniaeth Saesneg Lloegr. Yn niwedd ei yrfa, trodd y nofelydd Thomas Hardy at gyfansoddi telynegion gyda'r un weledigaeth drist a thrugarog sy'n lliwio'i ryddiaith. Mynegir pesimistiaeth Ramantaidd, hiraethus mewn arddyll syml a chynnil gan A. E. Housman yn ei gyfrol A Shropshire Lad (1896). Dan ddylanwad llenorion Ffrainc, daeth y "dirywiaethwyr" i fri yn Lloegr, a'r blaenaf ohonynt oedd Ernest Dowson a'r Gwyddel Oscar Wilde a drigai yn Llundain. Nod y llên ddirywiaethol oedd i ddyrchafu celf uwchben natur, ac i arddel "celfyddyd er mwyn celfyddyd" ar draul confesiynau Oes Fictoria. Barddoniaeth soniarus, swyn-ganiadol a gyfansoddai Dowson, sy'n ymdrin â cholled a thorcalon a diflastod ar fywyd. Gosodai Wilde gwaith y Cyn-Raffaëliaid yn fodel i'w gerddi, yn eu plith "De Profundis" a "The Ballad of Reading Gaol". Bardd unigryw oedd yr Eingl-Indiad Rudyard Kipling, yr unigolyn ieuangaf i ennill Gwobr Lenyddol Nobel a hynny yn 1907. Sonir ei gerddi am brofiadau'r milwr yn yr Ymerodraeth Brydeinig yn aml, ac mae "If—" a gyhoeddwyd yn y gyfrol Barrack Room Ballads and Other Verses (1892) yn hynod o boblogaidd hyd heddiw.

Un o feirdd gwychaf a mwyaf fylanwadol Oes Fictoria oedd yr offeiriad o Iesuwr Gerard Manley Hopkins, er nad yw'n cael ei ystyried yn fardd Fictoraidd weithiau am y rheswm ni chyhoeddwyd ei waith nes 1918, 19 mlynedd wedi ei farwolaeth. Bardd hynod o wreiddiol oedd Hopkins, ac un o lenorion crefyddol gwychaf yn holl hanes Lloegr. Fe ddatblygai mesur afreolaidd, sprung rhythm, sy'n derfnyddio corfannau o amryw sillau i adlewyrchu aceniadau rhyddiaith. Roedd yn hoff iawn o gyflythrennu a geirwedd fanwl yn ei gerddi.

Gweler hefyd

golygu

Darllen pellach

golygu
Blodeugerddi
  • Duncan Wu (gol.), Victorian Poetry (Rhydychen: Blackwell, 2002).
Astudiaethau cyffredinol
  • Matthew Bevis (gol.), The Oxford Handbook of Victorian Poetry (Rhydychen: Oxford University Press, 2013).
  • Joseph Bristow (gol.), The Cambridge Companion to Victorian Poetry (Caergrawnt: Cambridge University Press, 2000).
  • Richard Cronin, Alison Chapman & Antony H. Harrison (goln), A Companion to Victorian Poetry (Rhydychen: Blackwell, 2002).