Barry Flanagan

cerflunydd Cymreig

Cerflunydd o Gymru oedd Barry Flanagan OBE RA (11 Ionawr, 1941 - 31 Awst, 2009). Mae'n fwyaf adnabyddus am ei gerfluniau efydd o ysgyfarnogod ac anifeiliaid eraill.[1]

Barry Flanagan
Ganwyd11 Ionawr 1941 Edit this on Wikidata
Prestatyn Edit this on Wikidata
Bu farw31 Awst 2009 Edit this on Wikidata
Santa Eulària des Riu Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru Baner Gweriniaeth Iwerddon Gweriniaeth Iwerddon
Alma mater
  • Ysgol Gelf Saint Martin Edit this on Wikidata
Galwedigaethcerflunydd, arlunydd y Ddaear, gwneuthurwr printiau, ysgythrwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Central School of Art and Design
  • Ysgol Gelf Saint Martin Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Drummer, Thinker on a Rock Edit this on Wikidata
Gwobr/auOBE Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://barryflanagan.com Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ganwyd Barry Flanagan ar 11 Ionawr 1941 ym Mhrestatyn. Cafodd ei addysgu mewn ysgolion preswyl, yn gyntaf yn Foxhunt Manor ac wedyn yng Ngholeg Mayfield, Dwyrain Sussex. Rhwng 1957 a 1958 astudiodd bensaernïaeth yng Ngholeg Celf a Chrefft Birmingham. Astudiodd gerflunwaith yn Ysgol Gelf Saint Martin yn Llundain rhwng 1964 a 1966, ac o 1967 i 1971 bu'n athro yn Saint Martin's ac yn yr Ysgol Gelf a Dylunio Canolog.[2]

Bu farw Flanagan ar 31 Awst 2009 o glefyd motor niwron.[3]

Roedd yn destun ffilm fywgraffyddol gan Peter Bach, The Man Who Sculpted Hares: Barry Flanagan, A Life.[4]

Cyhoeddwyd llyfr am ei fywyd Barry Flanagan: Poet of the Building Site gan Robin Marchesi, The Irish Museum of Modern Art 2011.[5]

Ym 1991 cafodd ei ethol yn aelod o'r Academi Frenhinol a'i urddo'n OBE. Bu'n fyw yn Nulyn am gyfnod a derbyniodd dinasyddiaeth Wyddelig.

Bu'n briod i Sue Lewis a bu iddynt dwy ferch. Wedi ysgaru a'i wraig bu'n byw efo'i bartner Renate Widmann bu iddynt fab a merch. Wedi gwahanu a Widmann bu'n fyw efo Jessica Sturgess ei bartner hyd ddiwedd ei oes.

Gwaith golygu

Mae cerflun Flanigan Meddyliwr ar Graig yng Ngardd Cerfluniau Oriel Genedlaethol Celf yn Washington, DC [6]

Cafodd ei gerflun o ysgyfarnog Drymiwr Mawr Llawchwith yn cael ei arddangos ym mharc Union Square (Dinas Efrog Newydd) rhwng 18 Chwefror a 24 Mehefin 2007.

Mae ei gerflun o ddwy ysgyfarnog Nijinski Drych Mawr 1993, yn cael ei arddangos y Skulpturen Park Köln yn Cwlen.

Cynhaliodd Tate Britain sioe ôl-weithredol Early Works 1965-1982 rhwng Medi 2011 ac Ionawr 2012. Roedd yr arddangosfa hon yn cynnwys llawer o enghreifftiau o'i ddarnau llai adnabyddus gan ddefnyddio deunyddiau fel brethyn a rhaff, yn ogystal â rhai o'r cerfluniau ysgyfarnog efydd gynnar y daeth yn enwog amdanynt.

Mewn arddangosfa a gynhaliwyd gan Sotheby's yn Chatsworth House' Swydd Derby' ym mis Medi-Hydref 2012, dangoswyd pymtheg o weithiau Flanagan mewn lleoliad parcdir. Roeddent yn cynnwys Nijinski Mawr ar Ben Eingion a'r Ysgyfarnog Nijinski wedi'u gosod ar ddau ben Pwll y Gamlas.

Oriel golygu

Arddangosfeydd unigol dethol golygu

  • 2019: "Barry Flanagan", Oriel Ikon, Birmingham [8]
  • 2011: "Barry Flanagan: Gweithiau rhwng 1964 - 1982," Tate Britain
  • 2010: "Barry Flanagan: Gweithiau 1966-2008," Orielau Waddington, Llundain
  • 2009: Paul Kasmin (Park Avenue Armory), Efrog Newydd
  • 2009: "Barry Flanagan: Hare Coursed," Canolfan Gelf Newydd, Roche Court, Salisbury, Wiltshire
  • 2008: Amgueddfa Gelf Vero Beach, Vero Beach, Florida
  • 2008: Orielau Waddington, Llundain
  • 2007: Oriel Paul Kasmin, Efrog Newydd

Cyfeiriadau golygu

  1. Lampert, Catherine (2009-09-01). "Obituary | Sculptor | Barry Flanagan". The Guardian. ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2019-10-16.
  2. "Barry Flanagan". Waddington Custot. Cyrchwyd 2019-10-16.
  3. "Barry Flanagan: Sculptor known for his distinctive giant bronzes". The Independent. 2009-09-04. Cyrchwyd 2019-10-16.
  4. "BBC Four - The Man Who Sculpted Hares: Barry Flanagan, A Life". BBC. Cyrchwyd 2019-10-16.
  5. Marchesi, Robin, 1951-. Barry Flanagan : poet of the building site. Milano. ISBN 9788881588244. OCLC 754707396.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  6. "National Gallery of Art - Sculpture Garden". web.archive.org. 2010-05-27. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-05-27. Cyrchwyd 2019-10-16.