Barry Jones
Mae Stephen Barry Jones, y Barwn Jones, CC (ganwyd 26 Mehefin, 1938) yn wleidydd y Blaid Lafur yn y Deyrnas Unedig.
Y Gwir Anrhydeddus Yr Arglwydd Jones KBE | |
---|---|
Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol Cymru | |
Yn ei swydd 9 Ionawr 1989 – 18 Gorffennaf 1992 | |
Arweinydd | Neil Kinnock |
Rhagflaenydd | Alan Williams |
Olynydd | Ann Clwyd |
Yn ei swydd 2 Hydref 1983 – 13 Gorffennaf 1987 | |
Arweinydd | Neil Kinnock |
Rhagflaenydd | Alec Jones |
Olynydd | Alan Williams |
Aelod o dros Alun a Glannau Dyfrdwy Dwyrain Sir y Fflint (1970-1983) | |
Yn ei swydd 18 Mehefin 1970 – 7 Mehefin 2001 | |
Rhagflaenydd | Eirene White |
Olynydd | Mark Tami |
Manylion personol | |
Ganwyd | 26 Mehefin 1938 |
Cenedligrwydd | Cymreig |
Plaid wleidyddol | Blaid Lafur |
Cefndir
golyguCafodd Jones ei eni ym Mancot, Sir y Fflint[1] ym 1938 a'i addysgu yn Ysgol Ramadeg Penarlâg a Choleg y Normal, Bangor. Cyn cael ei ethol i'r Senedd fe fu'n athro ac yn llywydd Undeb Cenedlaethol yr Athrawon yn Sir y Fflint. Bu hefyd yn gwasanaethu am ddwy flynedd yn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig o dan drefn Gwasanaeth Cenedlaethol.
Gyrfa wleidyddol
golyguSafodd Jones ar gyfer y Senedd am y tro cyntaf yn Northwich ym 1966 gan fethu cael ei ethol. Ym 1970 safodd yn Nwyrain Sir y Fflint yn etholiad 1970 a bu'n cynrychioli'r sedd fel Aelod Seneddol hyd ddiddymu'r etholaeth ym 1983 pan gafodd ei ethol i sedd newydd Alun a Glannau Dyfrdwy ym 1983.
Roedd yn Is-ysgrifennydd seneddol Gwladol dros Gymru o 1974 hyd 1979.
Ym 1994 cafodd Jones yn ei benodi gan y Prif Weinidog John Major yn aelod o'r Pwyllgor Diogelwch Cudd-wybodaeth newydd gan wasanaethu hyd 2001.
Wedi ei ymddeoliad o Dŷ'r Cyffredin dyrchafwyd Jones i Dŷ'r Arglwyddi gan ddwyn y teitl Y Barwn Jones, o Lannau Dyfrdwy yn Sir Clwyd[2].
Yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines 1999, cafodd ei ddyrchafu i'r Cyfrin Gyngor[3].
Swyddi eraill
golyguYn 2007 cafodd ei ethol yn Llywydd NEWI (Prifysgol Glyndŵr) a Chafodd ei ddyrchafu'n Ganghellor y brifysgol yn 2009.[4]
Bywyd personol
golyguMae'r Barwn Jones yn gefnogwr brwd o Glwb Pêl-droed Everton.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Profile: Insight into life of former Alyn and Deeside MP Lord Barry Jones adalwyd 10 Rhagfyr 2014
- ↑ London Gazette: no. 56271. p. 8179. 11 July 2001.
- ↑ The Queen's Birthday Honours: Norma Major honoured for fundraising, BBC News, 12 June 1999. adalwyd 10 Rhagfyr 2014.
- ↑ "Celebration for newest university", BBC Wales News, 28 February 2009. Retrieved 10 Rhagfyr 2014.