Agor y brif ddewislen

Gwleidydd Cymreig yw Ann Clwyd (ganwyd 21 Mawrth 1937).[2] Mae'n cynrychioli etholaeth Cwm Cynon dros y Blaid Lafur ers 1984.

Y Gwir Anrhydeddus
Ann Clwyd
AS
Official portrait of Ann Clwyd crop 3.jpg
Cadeirydd y Blaid Lafur Seneddol
Yn ei swydd
24 Mai 2005 – 5 Rhagfyr 2006
Arweinydd Tony Blair
Rhagflaenydd Jean Corston
Ar ei ôl Tony Lloyd
Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol dros Dreftadaeth Cenedlaethol
Yn ei swydd
29 Medi 1992 – 21 Hydref 1993
Arweinydd John Smith
Rhagflaenydd Bryan Gould
Ar ei ôl Mo Mowlam
Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol dros Gymru
Yn ei swydd
18 Gorffennaf 1992 – 21 Hydref 1993
Arweinydd John Smith
Rhagflaenydd Barry Jones
Ar ei ôl Ron Davies
Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol dros Ddatblygiad Rhyngwladol
Yn ei swydd
2 Tachwedd 1989 – 18 Gorffennaf 1992
Arweinydd Neil Kinnock
Rhagflaenydd Guy Barnett
Ar ei ôl Michael Meacher
Aelod Seneddol
dros Gwm Cynon
Yn ei swydd
Dechrau
3 Mai 1984
Rhagflaenydd Ioan Evans
Mwyafrif 13,238 (41.6%)
Aelod Senedd Ewrop dros Ganol a Gorllewin Cymru
Yn ei swydd
7 Mehefin 1979 – 14 Mehefin 1984
Rhagflaenydd Sefydlwyd y swydd
Ar ei ôl David Morris
Manylion personol
Ganwyd (1937-03-21) 21 Mawrth 1937 (82 oed)[1]
Sir Ddinbych[1]
Cenedligrwydd Cymry
Plaid wleidyddol Y Blaid Lafur
Gŵr neu wraig Owen Roberts
Alma mater Prifysgol Cymru, Bangor[1]
Gwefan Llafur Cymru

Roedd yn briod i Owen Roberts o 1963 hyd ei farwolaeth yn 2012.

Bywyd cynnarGolygu

Ganwyd Clwyd yn Ninbych yn ferch i Gwilym ac Elizabeth Lewis. Bu'n byw ym Mhentre Helygain, Sir Fflint a mynychodd Ysgol Ramadeg Treffynnon, ysgol annibynnol Queen's School yng Nghaer a Choleg Prifysgol Cymru, Bangor.[1] Roedd yn athrawes fyfyriwr yn Ysgol yr Hôb, Sir Fflint.[3] Bu'n gweithio fel newyddiadurwraig ar gyfer y BBC fel rheolwr stiwdio cyn dod yn ohebydd ar gyfer papurau newydd y Guardian a'r Observer rhwng 1964 ac 1979. Mae'n aelod o'r NUJ a'r TGWU ac yn ffrind a chefnogwr i'r gwleidyddion Americanaidd Paul Wolfowitz a Donald Rumsfeld.

Bu'n aelod o Gomisiwn Brenhinol y GIG rhwng 1976 ac 1979.

CyfeiriadauGolygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 "The Rt Hon Ann Clwyd, MP Authorised Biography". Debrett's People of Today. Archifwyd o y gwreiddiol ar 23 Medi 2015. Cyrchwyd 21 Mehefin 2014.
  2.  Democracy Live: Find a representative: Cynon Valley: Ann Clwyd. BBC.
  3.  Ann Clwyd: Electoral history and profile. The Guardian.

Dolenni allanolGolygu