Batri lithiwm-ion
Math arbennig o fatri y gellir ei ailwefru ydy batri lithiwm-ion (a enwir hefyd yn Li-ion battery neu LIB). Ynddo, mae'r ionau'n symud o'r electrod negatif i'r electrod positif wrth ddadlwytho'i bwer ac wrth iddo gael ei drydanu. Mae'r ionau hyn yn medru mynd a dod o fewn yr haenau, yn wahanol iawn i'r lithiwm a ddefnyddir mewn batris na ellir eu haildrydanu. Mae'r electrolyt, sy'n caniatáu symudiadau ionig, a'r ddau electrod yn gyfansoddion cyson, yn ddigyfnewid.
Delwedd:Lithium-Ionen-Accumulator.jpg, Lithium-Ion Cell cylindric.JPG | |
Enghraifft o'r canlynol | battery chemistry type |
---|---|
Math | rechargeable battery |
Yn cynnwys | cyfansoddion lithiwm |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r batri Lithiwm-ion[1] yn eithaf cyffredin mewn dyfeisiau electronig yn y cartref. Dyma un o'r mathau mwyaf poblogaidd ar gyfer offer y gellir eu cludo gan nad ydynt yn colli eu gwefr yn hawdd, pan nad ydynt yn cael eu defnyddio. Cânt hefyd eu defnyddio mewn ceir trydan fel y Nissan Leaf a Tesla.[2] Mae Lithiwm-ion yn prysur ddisodli'r hen fath cyffredin, sef y batri asid, a ddefnyddid mewn cerbydau golff, y lori laeth ayb. A thrwy ddefnyddio'r math newydd hwn, nid oes raid addasu'r cerbyd (na'r offer trydanol) mewn unrhyw fodd.
Hanes
golyguAwgrymwyd y syniad o ddefnyddio lithiwm ar ei ben ei hun, fel batri, gan M Stanley Whittingham, darlithydd ym Mhrifysgol Birmingham, tra roedd yn gweithio i gwmni Exxon yn y 1970au.Defnyddiodd Whittingham y metal titanium(IV) swlffid a lithiwm fel electrodau. Ond roedd perygl o'u defnyddio, gan fod lithiwm yn elfen hynod o adweithiol. Mewn amgylchedd o ddydd i ddydd, mae'n llosgi yn yr aer, oherwydd presenoldeb ocsigen a hydrogen.[3] O ganlyniad, symudodd ffocws yr ymchwil oddi wrth lithiwm metalig i lithiwm ar ei ben ei hun.
Datblygiadau
golyguUn o'r datblygiadau mwyaf o ran effeithiolrwydd y batri yw hwnnw a ddaeth o ffatri enfawr Tesla (mewn partneriaeth gyda Panasonic), sef y Gigafactory yn Nevada, ffatri 3,200 o erwau a gostiodd y cwmni $5 biliwn. Agorwyd y ffatri'n swyddogol yng Ngorffennaf 2016 er mwyn cynhyrchu batris 30% yn is eu pris na chynt. Datblygwyd y ffatri hefyd ar gyfer cyflenwi batris i'r car Model X a hefyd ar gyfer y pecynau storio trydan cartref (celloedd solar): Powerwall.[4]
Gweler hefyd
golygu- Powerwall - uned i'w osod ar wal y garej i wefru car trydan ayb
- Cell danwydd - dyfais sy'n trawsnewid yr egni cemegol o danwydd i drydan; dyfeisiwyd gan y Cymro, William Robert Grove o Abertawe.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Alex Billty. "lithium ion battery". lithiumbatterychina.com. lithium battery china. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-02-19.
- ↑ Ballon, Massie Santos (14 Hydref 2008). "Electrovaya, Tata Motors to make electric Indica". cleantech.com. Cleantech Group. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-05-09. Cyrchwyd 11 Mehefin 2010.
- ↑ "XXIV.—On chemical analysis by spectrum-observations". Quarterly Journal of the Chemical Society of London 13 (3): 270. 1861. doi:10.1039/QJ8611300270.
- ↑ Gweler y cylchgrawn Car; Medi 2016l; Rhif 650; tud 63.