Tesla Model X
Car trydan llawn ei faint SUV crossover ydy Tesla Model X, a gynhyrchir gan Tesla Motors. Mae ganddo ddrysau sy'n codi i fyny (falcon wing) er mwyn cael mynediad i'r ail a'r trydydd rhes o seddi ac mae'n yrriant 4-olwyn. Lansiwyd y cynlluniau yn stiwdios Tesla yn Los Angeles ar 9 Chwefror 2012.[5] Ei chwaer fach yw'r Tesla Model S.
Tesla Model X | |
---|---|
Trosolwg | |
Gwneuthurwr | Tesla Motors |
Cynhyrchu | 2015–presennol |
Sawl blwyddyn | 2016–presennol |
Gosod | Ffatri geir Tesla Moters; yn Fremont, California |
Cynllunydd | Franz von Holzhausen[1] |
Corff a siasi | |
Dosbarth | Crossover SUV - car llawn ei faint |
Math o gorff | 5-drws[2] sport utility vehicle (SUV) |
Perthnasol | Tesla Model S |
Pwer | |
Modur trydan | Dau Fodur AWD 90D 259 hp (193 kW) blaen a chefn P90D 259 hp (193 kW) ffrynt, 503 hp (375 kW) cefn |
Trosglwyddiad | blwch gêr un-cyflymder trawsechel |
Dim ond ar drydan | 90D 90 kWh (320 MJ) 257 mi (414 km) (EPA)[3] P90D 90 kWh (320 MJ) 250 mi (400 km) (EPA)[3] |
Maint | |
Pellter rhwng echelydd (Wheelbase) | 120.5 mod (3,061 mm) |
Hyd | 198.0 mod (5,029 mm) |
Lled | 78.7 mod (1,999 mm)[4] |
Uchder | 66.3 mod (1,684 mm) |
Yn ôl Asiantaeth Gwarchod Amgylchedd yr UDA (iaith wreiddiol: United States Environmental Protection Agency (EPA)) gall deithio rhwng 250–257 milltir (402–414 km) ar un llenwad o'i fatris a dywedir fod ei gyfradd milltir/galwyn (myg) ynghyd â'i ddefnydd i ynni yn gyfystyr (e) i 89 myg-e (23 kWh/100 km or 39 kWh/100 mi).[6] Yn 2016, mewn cymhariaeth, roedd y Toyota Prius yn cyflawni 95 myg-e.[7]
Ceir sawl math: 75D (tua £82,380, 90D, P90D/Ludi a'r P100D/Ludi (tua £129,080).[8]
Addasiad o'r Tesla Model S ydyw, gyda'r ddau fath yn cael eu cynhyrchu yn ffatri Tesla yn Fremont, California. Dechreuwyd gwerthu Model X ym Medi 2015,[9] ac yn ystod y 12 mis cyntaf roedd tua 2,700 uned wedi'u gwerthu.[10]
Pris
golyguYn 2016 roedd pris y car LE yn amrywio rhwng US$132,000 a US$144,000,[11]. Mewn cymhariaeth, pris y Model S (70D) oedd US$75,000.[12]
Batris
golyguMae dau ddewis: batri lithiwm-ion 75 neu 90 kW·h – yr dewis a roddir i'r Model S[5]. O ran perfformiad mae'r sbec uchaf y batri gorau yn galluogi'r car i fynd o 0-60 myg (0 i 97 km/h) mewn 3.2 eiliad.[13] sy'n gyflymach na phob SUV - a llawer o geir cyflym.[3][14][15]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "2014 Tesla Model X - First Look". Road and Track. Cyrchwyd 2012-03-14.
- ↑ "Tesla Model X". Cyrchwyd 2015-10-07.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 U. S. Environmental Protection Agency and U.S. Department of Energy (2015-09-26). "2016 Tesla Model X AWD - 90D and P90D". Cyrchwyd 2015-10-03.
- ↑ "Width of Car/Parking". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-05-04. Cyrchwyd 2016-04-21.
- ↑ 5.0 5.1 Garrett, Jerry (2012-02-09). "Tesla Unveils Model X at Its Southern California Design Studios". The New York Times. Cyrchwyd 2012-02-10.
- ↑ U. S. Environmental Protection Agency and U.S. Department of Energy (Medi 2015). "2016 Tesla Model X AWD 90D (90 kW-hr battery pack)". Fueleconomy.gov. Cyrchwyd 2015-09-28.
- ↑ Ffigyrau profi'r EPA 5-cycle; mewn dinas.
- ↑ Top Gear; New Car Buyer's Guide; tud 282; rhifyn Gwanwyn 2017.
- ↑ Mike Millikin (2015-09-30). "Tesla CEO Musk launches Model X electric SUV: "safest SUV ever"". Green Car Congress. Cyrchwyd 2015-10-03.
- ↑ Fehrenbacher, Katie (2016-04-11). "Tesla Recalls 2,700 Model X Cars for Seat Problem". Fortune. Cyrchwyd 2016-04-12.
- ↑ "Tesla Signature series Model X to begin delivery Medi 29". Reuters. CNBC. 2015-09-03. Cyrchwyd 2015-09-04.
- ↑ "Tesla's long-delayed Model X SUV hits the road as sales of luxury SUVs are booming". Cyrchwyd 2015-09-30.
- ↑ Tesla Model X vs Model S P90D Ludicrous - DragTimes 2016-02-14
- ↑ "Model X". Tesla Motors. Cyrchwyd 23 Awst 2012.
- ↑ "Tesla Model X Acceleration vs Competing SUVs (+ More Spy Pics)". Gas 2.