Tesla (cwmni ceir)

Cwmni ceir cyhoeddus yng Nghaliffornia sy'n cynhyrchu cerbydau trydan a dyfeisiadau storio ynni (ee Powerwall) yw Tesla (enw gwreiddiol: Tesla Motors, Inc.). Mae'r cwmni'n masnachu ar farchnad stoc NASDAQ dan y symbol TSLA. Sefydlwyd y cwmni yn 2003 yn San Carlos, Califfornia gan Elon Musk, Martin Eberhard, Marc Tarpenning, JB Straubel ac Ian Wright a phrynwyd hen ffatri Toyota a General Motors yn San Francisco yn 2010. Erbyn haf 2012 roedd y Model S ar werth. Dechreuodd y cwmni wneud elw yn 2013.[1]

Tesla Motors
Math
cynhyrchydd cerbydau
Math o fusnes
cwmni cyhoeddus
ISINUS88160R1014
DiwydiantDiwydiant ceir, diwydiant solar, diwydiant batri
Sefydlwyd1 Gorffennaf 2003
SefydlyddMartin Eberhard, Marc Tarpenning
CadeiryddElon Musk
PencadlysAustin, Texas
Pobl allweddol
Elon Musk (Prif Weithredwr)
CynnyrchTesla Roadster
Refeniw96,773,000,000 $ (UDA) (2023)
Incwm gweithredol
8,891,000,000 $ (UDA) (2023)
Cyfanswm yr asedau62,131,000,000 $ (UDA) (31 Rhagfyr 2021)
PerchnogionElon Musk (0.208), Baillie Gifford (0.076), Capital Group Companies (0.059), Larry Ellison (0.017), Elon Musk (0.265), Fidelity Investments (0.102), Baillie Gifford (0.082), T. Rowe Price (0.06009), Elon Musk (0.134), Fidelity Investments (0.136), T. Rowe Price (0.074)
Nifer a gyflogir
140,473 (31 Rhagfyr 2023)
Rhiant-gwmni
S&P 500, NASDAQ-100
Is gwmni/au
SolarCity
Lle ffurfioPalo Alto
Gwefanhttps://www.tesla.com/, https://www.tesla.com/de_de, https://www.tesla.com/fr_fr, https://www.tesla.com/nl_nl, https://www.tesla.com/fi_fi Edit this on Wikidata
Pencadlys Tesla yn Palo Alto, Califfornia

Y sbortscar Tesla Roadster oedd y car cyntaf (2010); hwn oedd y car cyflym trydan-llawn cyntaf yn y byd, yn cael ei bweru gan y batri lithiwm-ion.[2] Yna daeth Model S, a oedd hefyd yn drydan-llawn, gyda Model X yn ei ddilyn wrth ei sodlau.[3] Gwerthwyd dros 100,000 o unedau yn fyd-eang o'r Model S erbyn Rhagfyr 2015, tair mlynedd a hanner wedi iddo gael ei lansio.[4] Yr adeg hon, dyma'r ail gar plug-in a werthwyd mwyaf ohono ledled y byd, yn dilyn y Nissan Leaf.[4] Mae Tesla hefyd yn gwerthu cyfarpar gwefru batris ar gyfer y cartref a'r swyddfa, ac wedi gosod rhwydwaith o orsafoedd gwefru ar draws Gogledd America, Ewrop ac Asia.[5] Mae nhw'n cynnig gorsafoedd gwefru am ddim i siopau, tai bwyta ayb ar gyfer cerbydau eu cwsmeriaid.[6] Yn 2015 lansiwyd y Model X, gyda'i ddrysau nodweddiadol falcon wing.

Geirdarddiad golygu

 
Tesla Roadster 2.5

Enwyd Tesla Motors ar ôl peiriannydd trydanol a ffisegydd Nikola Tesla (Никола Тесла; 1856 – 1943) dyfeisydd a pheiriannydd o Serbia.[7] Cyfrannodd yn helaeth i ddatblygiadau'n ymwneud â systemau cerrynt trydanol (AC).

Trosolwg golygu

Y cerbyd cyntaf i ddefnyddio batri lithiwm-ion oedd y Tesla Roadster, a'r cerbyd trydan cyntaf i fedru gyrru dros 200 mile (320 km) ar un gwefriad.[8] Erbyn 2016 roedd Tesla wedi buddsoddi $5 biliwn mewn ffatri enfawr (y Gigafactory yn Nevada) a fydd yn dod a gostyngiad o 30% yn oriau/kw o fewn ychydig flynyddoedd. Maent hefyd yn datblygu technoleg y Batri lithiwm-ion gyda Panasonic yn bartner iddynt. Mae'r batri-becynau Powerwall a Powerpack yn rhan o'r cynlluniau hyn.

Rhwng 2008 a Mawrth 2012 roedd Tesla gwedi gwerthu 2,250 Roadster mewn 31 gwlad. Lansiwyd Model S ar 26 Mawrth 2009 ac yn Awst 2011, stopiodd y cwmni gymeryd archebion am y Roadster, yn yr UDA.

Yn Rhagfyr 2012 roedd y cwmni'n cyflogi bron i 3,000 o weithwyr llawn amser,[9] ac erbyn Ionawr 2014 cynyddodd y ffigwr hwn i 6,000.[10]

Hyd at 2016 roedd Tesla wedi blaeniaru'r tir yn eu defnydd o aliminiwm yn eu ceir, sydd 30% yn ysgafnach na phe defnyddid dur. Yn 2016, fodd bynnag, er mwyn cadw'r gost mor isel a phosib, cyhoeddwyd y byddai rhyw gymaint o ddur yn y ceir yn ogystal ag aliminiwm. Y car nesaf i ddod o felin y cwmni yw'r Model 3 - yn 2017 am bris o tua £27,000.

Modelau golygu

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Tesla Motors (2013-05-08). "Tesla Motors, Inc. – First Quarter 2013 Shareholder Letter" (PDF). Tesla Motors. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2013-10-23. Cyrchwyd 2013-05-08.
  2. "The World's Only Electric Sports Car: 2010 Tesla Roadster". Sportscarmonitor.com. 2010-04-11. Cyrchwyd 2011-11-20.[dolen marw]
  3. "Model S - Tesla Motors". teslamotors.com. Cyrchwyd 2015-04-12.
  4. 4.0 4.1 Cobb, Jeff (2016-01-12). "Tesla Model S Was World's Best-Selling Plug-in Car in 2015". HybridCars.com. Cyrchwyd 2016-01-23.
  5. "Supercharger". Tesla Motors. Cyrchwyd 2016-03-04.
  6. "Destination Charging". Tesla Motors. Cyrchwyd 2016-03-04.
  7. Burgan, Michael (2009). Nikola Tesla: Inventor, Electrical Engineer. Mankato, Minnesota: Capstone. t. 9. ISBN 978-0-7565-4086-9.CS1 maint: ref=harv (link)
  8. "Tesla Motors Moving Quickly to Commercialization of an Electric Car". GreenCar Magazine. 2009-07-09. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-12-19. Cyrchwyd 2009-08-01.
  9. "2012 Form 10-K, Tesla Motors, Inc". U.S. Securities and Exchange Commission. 2013-03-07. Cyrchwyd 2013-04-04.
  10. Tesla Motors (2014-01-15). "Tesla Motors Investor Presentation" (PDF). Tesla Motors. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2014-09-13. Cyrchwyd 2014-01-15.

Dolenni allanol golygu