Beca Brown

Awdur a golygydd o Gymraes

Awdur a chyfarwyddwr o Gymraes yw Beca Brown. Mae wedi gweithio fel newyddiadurwr ac ym myd teledu fel cyfarwyddwr a cynhyrchydd.[1]

Beca Brown
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethllenor, cyfarwyddwr teledu, cynhyrchydd teledu, golygydd Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar ac addysg

golygu

Fe'i ganwyd i rieni o Loegr a symudodd i Gymru. Roedd ei mam yn dod o Birmingham a'u thad o Swydd Derby. Cafodd addysg Gymraeg ers mynychu Ysgol Feithrin yn Nyffryn Ardudwy. Er hynny, Saesneg oedd iaith yr aelwyd nes i'w rhieni dechrau ddysgu Cymraeg. Erbyn ei arddegau symudodd y teulu o Ardudwy i ardal Caernarfon, a mynychodd Ysgol Syr Huw Owen. Penderfynodd ei rhieni ddechrau siarad Cymraeg adref pan oedd tua 13 mlwydd oed, er fod hynny yn teimlo'n chwithig iddi.[2]

Aeth i Brifysgol Caerdydd gan raddio gyda BA er Anrhydedd yn y Gymraeg.

Cychwynnodd fel newyddiadurwr yn 1994 gan ysgrifennu erthyglau nodwedd i'r Western Mail. Ymunodd ag ITV Cymru yn 1997 gan weithio fel newyddiadurwr ar y rhaglen materion cyfoes Y Byd ar Bedwar. Symudodd i gwmni cynhyrchu Fflic yn 1999 gan gyfarwyddo rhaglenni ar gyfer S4C a'r BBC. Aeth ymlaen i fod yn gynhyrchydd teledu gyda Cwmni Da rhwng 2012 a 2017. Rhwng Ebrill 2017 a Medi 2018 roedd yn Olygydd llyfrau Cymraeg gyda Gwasg Gomer.[3]

Ers 2018 mae wedi bod yn gweithio gyda gwefan SaySomethinginWelsh fel awdur ac yna golygydd cynnwys.[4]

Llyfryddiaeth

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1.  Beca Brown. BBC Cymru (2007). Adalwyd ar 13 Hydref 2020.
  2. ‘Newidiodd iaith y teulu dros nos’ , BBC Cymru Fyw, 12 Hydref 2020.
  3.  Gwasg Gomer yn “hollol dawel” eu meddwl. Golwg360 (21 Gorffennaf 2017).
  4. (Saesneg) LinkedIn - Beca Brown.
  5. Gwefan Gwales; adalwyd 8 Chwefror 2015

Dolenni allanol

golygu