ITV Cymru Wales
Masnachfraint ITV i Gymru ers mis Ionawr 2014 yw ITV Cymru Wales.
Math | cwmni |
---|---|
Sefydlwyd | 2014 |
Pencadlys | Caerdydd |
Perchnogion | ITV plc |
Rhiant-gwmni | ITV1 ITV plc |
Gwefan | https://www.itv.com/news/wales |
Mae'n rhan o'r cwmni ITV plc ac mae'n disodli'r hen fasnachfraint ddeuol i Gymru a Gorllewin Lloegr, a weithredwyd ers 1968 gan ITV Wales and West (a elwir yn flaenorol fel HTV).
Mae ITV Cymru Wales yn cynhyrchu gwasanaeth newyddion gan gynnwys y rhaglen flaenllaw, Wales at Six bob nos Lun i nos Wener, bwletinau byr (ITV News Cymru Wales) a newyddion ar-lein. Mae'r cwmni hefyd yn cynhyrchu rhaglenni cyfoes a rhaglenni nodwedd yn yr ieithoedd Gymraeg a'r Saesneg ar gyfer ei riant sianel ac ar gyfer S4C.
Ym mis Mehefin 2014, symudodd ITV Cymru Wales ei weithrediadau i stiwdios newydd gerllaw ger yr Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mae Caerdydd, yn dilyn cau'r Ganolfan Deledu yng Nghroes Cwrlwys. Ym mis Awst 2015, dechreuodd rhaglenni ITV Cymru Wales ddarlledu mewn diffiniad uchel.
Rhaglenni
golygu- Backstage
- Cefn Gwlad (ar gyfer S4C)
- Coast and Country
- ITV News Cymru Wales
- ITV News: Wales at Six
- Newsweek Wales
- Sharp End
- Wales This Week
- Y Byd ar Bedwar (ar gyfer S4C)
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) ITV News – Wales News
- (Saesneg) ITV Cymru Wales Programmes