Rhaglen deledu sy'n trafod materion cyfoes yw'r Y Byd ar Bedwar. Mae'r rhaglen wedi ei ddarlledu ar S4C ers i'r sianel gael ei lansio yn 1982. Cynhyrchir y rhaglen gan gwmni ITV Cymru Wales.

Y Byd ar Bedwar

Cerdyn teitl y gyfres
Genre Ffeithiol
Gwlad/gwladwriaeth Cymru
Iaith/ieithoedd Cymraeg
Cynhyrchiad
Golygydd Branwen Thomas
Amser rhedeg 24 munud
Cwmnïau
cynhyrchu
ITV Cymru Wales
Darllediad
Sianel wreiddiol S4C
Rhediad cyntaf yn Tachwedd 1982
Cysylltiadau allanol
Gwefan swyddogol

Mae gohebwyr y rhaglen wedi adrodd ar storiau o bedwar ban y byd. Yn yr 1980au, llwyddodd y gohebydd Tweli Griffiths sicrhau y cyfweliad cyntaf gyda unben Libya Gaddafi.[1] Cafwydd adroddiadau hefyd am gwymp Wal Berlin, Trychineb Chernobyl a Rhyfel y Gwlff.

Mae'r rhaglen yn nodedig am gael cyfweliadau unigryw gyda rhai unigolion yn y newyddion yng Nghymru, er enghraifft gyda Sion Aubrey Roberts,[2] yr unig berson a garcharwyd erioed dros weithredoedd Meibion Glyndwr, a Ryan James,[3] milfeddyg o Rhydaman a garcharwyd ar gam wedi cael ei gyhuddo o lofruddio ei wraig.

Tîm golygu

  • Branwen Thomas (golygydd)
  • Bethan Muxworthy (cynhyrchydd cyfres)
  • Siôn Jenkins (gohebydd)
  • Dot Davies (gohebydd)

Cyn-aelodau'r tîm golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "S4C - hwb". s4c.co.uk. Cyrchwyd 25 Medi 2015.
  2. "S4C - hwb". s4c.co.uk. Cyrchwyd 25 September 2015.
  3. "S4C - hwb". s4c.co.uk. Cyrchwyd 25 Medi 2015.

Dolenni allanol golygu