Bellis perennis

Blodyn bach cyfarwydd ar lawntiau a phorfeydd cwta ymhobman bron.

Planhigyn blodeuol yw llygad y dydd (Lladin: Bellis perennis; Saesneg: Daisy) sy'n aelod o deulu'r Asteraceae. Ceir sawl rhywogaeth o lygad y dydd ond mae'r enw fel arfer yn cyfeirio at Bellis perennis sef y mwyaf cyffredin yng Nghymru.

Bellis perennis
Delwedd:Belis peremnis - panoramio.jpg, Bellis perennis white (aka).jpg, 00 4448 Gänseblümchen (Bellis perennis).jpg
Enghraifft o'r canlynoltacson Edit this on Wikidata
Safle tacsonrhywogaeth Edit this on Wikidata
Rhiant dacsonBellis Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Bellis perennis
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosperms
Ddim wedi'i restru: Eudicots
Ddim wedi'i restru: Asterids
Urdd: Asterales
Teulu: Asteraceae
Genws: Bellis
Rhywogaeth: B. perennis
Enw deuenwol
Bellis perennis
L.
Cyfystyron[1]

Mae'r gair Saesneg daisy yn tarddu o'r geiriau "day's eye" yn union fel llygad y dydd.

Mae Bellis perennis yn frodorol o ganol a gogledd Ewrop, ond bellach wedi ymgyfatrebu mewn gwledydd cynnes e.e. yr Americas.[2][3] and Australasia.

Bellis perennis

Planhigyn llysieuol ydyw gyda rhisomau byr sy'n cropian a rhosynnau o ddail bychan crwn (neu o siap llwyau) sydd rhwng 2–5 cm (3/4 - 2 fodfedd) o hyd. Yn aml, fe'i gwelir mewn lawntiau a gall fod yn anodd ei ddileu drwy beiriant torri gwair; gellir ei alw felly'n chwynyn.[4]

Mae'r blodau'n gyfansawdd, ar ffurf pseudanthiwm, ac wed'u ffurfio o nifer o flodau tua 2–3 cm (3/4 to 1-1/4) mewn diametr, a choron o betalau bychan, weithiau gyda'r pwyntiau'n binc. Maent yn tyfu at un bonyn approx. 2–10 cm (3/4 - 4 mod) o daldra.[5]

Rhinweddau meddygol

golygu

Arferid gwneud eli allan o'r blodau: tua llond dwrn go dda wedi'u malu'n gyrbibion a'u gwasgu mewn talp o fenyn. Defyddid yr eli ar y croen i wella cricmala (gwynegon) neu gymalau poenus. Mae cnoi'r dail hefyd yn beth da i wella wlser.[6]

Yn ôl rhai ysgolheigion, mae'r rhinweddau canlynol iddo: gwrthffwng, glanhau'r gwaed, lleddfu poen. Gall hefyd wella peswch, poenau yn y stumog, gwynegon (cricmala) a phroblemau'n ymwneud â beichiogrwydd.[7]

Mae llygad y dydd yn cynnwys: saponinau, tannin, olew hanfodol, fflafonau a gludiau (mucilage).[8]

Llên gwerin

golygu

Gwelais lwyth o flodau llygaid y dydd yn y Groeslon, Waunfawr, 6 Ionawr 2018. Roedd fy Mam [o Ddyffryn Ogwen] yn arfer dweud bod y Gwanwyn wedi cyrraedd os oeddech yn gallu sathru mwy na chwech Llygad y Dydd ar unwaith.[9]

Cyfeiriadau

golygu
  1. The source The Plant List used was the International Compositae Alliance. "Bellis perennis L." The Plant List; Version 1. (published on the internet). Royal Botanic Gardens, Kew and Missouri Botanical Garden. 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-08-28. Cyrchwyd November 12, 2012.
  2. "Bellis perennis Linnaeus". Flora of North America.
  3. PLANTS Profile., "Bellis perennis L. lawndaisy", USDA Natural Resources Conservation Service. http://plants.usda.gov/java/profile?symbol=bepe2 Archifwyd 2021-02-13 yn y Peiriant Wayback
  4. "Weeds of Northeast - USDA PLANTS". usda.gov. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-02-13. Cyrchwyd 2016-02-21.
  5. Stace, C.A. (2010). New flora of the British isles (arg. Third). Cambridge, U.K.: Cambridge University Press. t. 749. ISBN 9780521707725.
  6. Llysiau Rhinweddol gan Ann Jenkins, cyhoeddwyd gan Wasg Gomer, 1982.
  7. Jonas: Mosby's Dictionary of Complementary and Alternative Medicine.
  8. "David L. Hoffmann B.Sc. (Hons), M.N.I.M.H. ar y wefan 'Health world'". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-08-28. Cyrchwyd 2009-04-11.
  9. Anita Myfanwy

Gweler hefyd

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am blanhigyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato