Ben Gwalchmai

awdur, gwleidydd a creewr o Bowys

Awdur Cymreig a gwleidydd yw Ben Gwalchmai (g. 1985) sy'n wreiddiol o Arddlin, Maldwyn, tua 5 milltir i'r gogledd o'r Trallwng. Disgrifia'i hun fel "creewr, gweithiwr, sgwennwr" ("maker, worker, writer"). Yn wleidyddol, mae'n aelod o Blaid Lafur Cymru, yn un o sefydlwyr Labour for Indy Wales[1] ac roedd yn un o brif siaradwyr gorymdaith cyntaf Yes Cymru yng Nghaerdydd yn 2019.[2]

Ben Gwalchmai
Ganwyd1985 Edit this on Wikidata
Arddlin Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethmyfyriwr, gwleidydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amPurefinder Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Lafur Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://bengwalchmai.com Edit this on Wikidata

Ei nofel gyntaf oedd Purefinder (Cosmic Egg; 2012), nofel gothig, arswyd hanesyddol a leolir yn Llundain yn 1858[3] a ddisgrifiwyd gan Christoff Fischer fel "Breathtakingly intimate and obscure". Thema'r nofel yw sut y mae cysgod yr etifeddiaeth Fictorianaidd yn dal i roi ffurf a siap i gymeriad mamau modern heddiw, fel yr esbonia mewn erthygl ganddo yn y New Statesman[4].

Yr awdur golygu

Yn 2014, gweithiodd Ben Gwalchmai gydag Opera Cenedlaethol Cymru a Yello Brick ar gynhyrchiad gêm stryd a theatr newydd, Splash & Ripple ar antur yng nghastell yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Bu hefyd yn golygu ar gyfer REACT a Book Kernel ac yn darlithio ar gyfer UWE, Bryste. Fel cynhyrchydd, addasodd Bedazzled - A Welshman in New York yn 2015 ar gyfer Gwyl Farddoniaeth StAnza ac yn gynhyrchydd newydd gydag NTW. Yn 2016, cychwynnodd ei Ysgoloriaeth PhD yn Galway, Iwerddon, gan ganolbwytio ar storiau creadigol dwy ddinas: Bryste a Galoway, a hynny gan ddefnyddio techoleg gor-realaeth.[5][6]

Yn awdur ers 2008, perfformiwyd a chyhoeddwyd ei waith gydag: Anexxe Publishing, Arcola Theatre, The George Wood Theatre, Catford Theatre, Make Something Magazine, Minus9squared Magazine, The Master Shipwright's Palace, Greenwich Dances Festival, Epicenter, Kumquat Poetry, Bad Barddoniaeth Robot, yn ogystal ag Opera Cenedlaethol Cymru.[7] Bu'n gynhyrchydd ers 2008, ac ymhlith y digwyddiadau mae wedi gweithio arnyn nhw mae'r cwmniau a'r cyrff canlynol: The Guardian, Greenwich Dance, Ysgol Economeg Llundain, Coleg Imperial Llundain, Theatr Arcola, Gŵyl y Gelli a chasgliad o weithiau ar gyfer Poet in the City.

Gellir crynhoi ei weledigaeth lled-optimistaidd drwy ddyfynu o un o'r nifer o erthyglau mae wedi'iu cyfrannu i'r Huffington Post, sef Things the Future Will Hate Us For: #1:[8]

Rwy'n optimist mewn sawl ffordd - optimist beirniadol yn y rhan fwyaf o ffyrdd. Ar ddiwrnodau da, rwy'n credu y byddwn yn y pen draw yn dod o hyd i ffordd i gydbwyso a hyd yn oed leihau'r effaith a gawn ar y blaned trwy ledaenu gwybodaeth, dad-ddofi, dulliau ffermio amgen, a gwell gweithredu cymunedol trwy gyfathrebu. Ond nid yw'r optimistiaeth hon yn fy ngwneud yn fyr fy ngolwg, yn fiopig, a gwelaf yn glir yr hyn sydd o'i le yn y glwedydd gorllewinol, ar hyn o bryd.

Cyfeiriadau golygu

  1. medium.com; erthygl 10 Ionawr 2019; Clear Red Water and Sparring Sisters — Ben Gwalchmai; adalwyd 25 Awst 2019.
  2. nation.cymru; cyhoeddwyd 7 Mai 2019; adalwyd 25 Awst 2019.
  3. barnesandnoble.com; adalwyd 25 Awst 2019.
  4. newstatesman.com; adalwyd 25 Awst 2019.
  5. community.nationaltheatrewales.org; Archifwyd 2019-08-25 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 25 Awst 2019.
  6. historicalnovelsociety.org; adalwyd 25 Awst 2019.
  7. bengwalchmai.com; adalwyd 25 Awst 2019.
  8. Cyfieithwyd o'r saesneg:I'm an optimist in many ways - a critical optimist in most ways. On good days, I think we'll eventually find a way to balance and even reduce the effect we have on the planet through the dissemination of information, rewilding, alternative farming methods, and improved community action through communication however this optimism for the future doesn't make me myopic to what's still wrong in the West, in the present.

Dolennau allanol golygu

  • You Tube; - llais Ben Gwalchmai yn darllen Universe 7 gan by Rosie Poebright