Ben Lomond
Mae Ben Lomond (974m / 3,192') yn fynydd Munro ar lan ogledd-ddwyreiniol Loch Lomond yn ne Ucheldiroedd yr Alban, rhwng y llyn hwnnw a Loch Katrine, gyferbyn â thref fach Tarbet.
Math | mynydd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Parc Cenedlaethol Llyn Llumonwy a'r Trossachs |
Gwlad | Yr Alban |
Uwch y môr | 974 metr |
Cyfesurynnau | 56.190293°N 4.633009°W |
Cod OS | NN3671102856 |
Rheolir gan | Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Alban |
Manylion | |
Amlygrwydd | 820 metr |
Rhiant gopa | Ben More |
Cadwyn fynydd | Ucheldiroedd yr Alban |
Perchnogaeth | Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Alban |
Ben Lomond yw'r olygfa fwyaf trawiadol yn yr ardal. Y fan cychwyn arferol i'w ddringo yw pentref Rowardennan. Mae'r olygfa o'r copa yn eang ac yn ymestyn o fryniau Ynys Arran i fynydd Ben Cruachan.
Am fap yn dangos lleoliad Ben Lomond, gweler Rhestr Mynyddoedd yr Alban dros 3,000' (y Munros) (Adran 1).
Dolennau allanol
golygu- ar wefan Streetmap Archifwyd 2016-03-07 yn y Peiriant Wayback
- ar wefan Get-a-map[dolen farw]