Ben Macdhui
Mae Ben Macdui, hefyd Ben Macdhui neu Beinn Mac Duibh yn gopa mynydd a geir ym mynyddoedd y Cairngorms yn Ucheldiroedd yr Alban; cyfeiriad grid NN988989. Saif ger y ffin rhwng Swydd Aberdeen a Moray. Dyma ail fynydd uchaf gwledydd Prydain ar ôl Ben Nevis. Gellir ei ddringo ar hyd nifer o lwybrau; yr hawddaf yw o faes parcio Coire Cas ger Canolfan Sgïo Cairngorm, sy'n daith o tua 7 km (4 millir) i'r copa. Gellir ymweld a chopa Cairn Gorm ar y ffordd.
Math | mynydd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Parc Cenedlaethol y Cairngorms |
Gwlad | Yr Alban |
Uwch y môr | 1,309 metr |
Cyfesurynnau | 57.070368°N 3.669099°W |
Cod OS | NN9890098934 |
Manylion | |
Amlygrwydd | 950 metr |
Rhiant gopa | Ben Nevis |
Cadwyn fynydd | Cairngorms |
Cyn cynhyrchiad mapiau manwl o'r Alban yn y 19eg ganrif, ni wyddid yn sicr mai Ben Nevis oedd pwynt uchaf Prydain, a chredid yn aml y gallai Ben Macdui ei fod. Wedi'r cadarnhad mai Ben Nevis oedd yr uchaf, roedd gan rai bobl leol gynlluniau i adeiladu carnedd ar gopa Ben Macdui o uchder digonol er mwyn iddo fod yn uwch na Ben Nevis, er na chwblhawyd y cynlluniau hynny.
Ceir piler triongl yr OS ger y copa.
Dosberthir copaon yr Alban yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn, Munro, Murdo ac yn HuMP. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Gwneir bob ymdrech i ganfod yr enw yn yr iaith wreiddiol, a gwerthfawrogwn eich cymorth os gwyddoch yr enw Gaeleg.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golyguDolenni allanol
golygu- Lleoliad ar wefan Streetmap Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback
- [298898 Lleoliad ar wefan Get-a-map]