Varanasi
Dinas yn nhalaith Uttar Pradesh yn India yw Vārānasī, gynt Benares, Banaras neu Benaras. Ystyrir y ddinas yn ddinas sanctaidd gan ddilynwyr crefydd Hindŵaeth.
Math | dinas, dinas fawr, dinas sanctaidd |
---|---|
Enwyd ar ôl | Afon Varuna, Assi River |
Poblogaeth | 1,198,491 |
Cylchfa amser | UTC+05:30 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Purvanchal |
Sir | Varanasi district |
Gwlad | India |
Arwynebedd | 82.1 km² |
Uwch y môr | 76 ±1 metr |
Gerllaw | Afon Ganga, Afon Varuna |
Yn ffinio gyda | Azamgarh |
Cyfesurynnau | 25.3189°N 83.0128°E |
Cod post | 221456 |
Saif Varanasi rhwng Afon Ganga ac Afon Varuna, ac ystyrir ei bod yn un o ddinasoedd hynaf y byd. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 1,371,749. Mae'n un o'r cyrchfannau pwysicaf i bererinion Hindŵaidd, ac mae mwy na 1,000,000 ohonynt yn ymweld â Varanasi bob blwyddyn. Dywedir i'r duw Shiva fyw yno unwaith. Cred dilynwyr Hindŵaeth fod ymdrochi yn Afon Ganga yn golchi ymaith bechodau, a bod marw yn Varanasi yn osgoi cylch dadeni. Canolbwynt y ddinas yw'r gatiau, grisiau sy'n arwain i lawr at yr afon.
Ceir nifer fawr o demlau yma; yr enwocaf yw Teml Kashi Vishwanath, wedi ei chysegru i Shiva. Mae Varanasi hefyd yn ddinas sanctaidd i ddilynwyr Jainiaeth. Ar gyrion y ddinas mae Sarnath, lle traddododd y Bwda ei bregeth gyntaf, yn fan sanctaidd i ddilynwyr Bwdhaeth.